Eduard Buchner
Jump to navigation
Jump to search
Eduard Buchner | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
20 Mai 1860 ![]() München ![]() |
Bu farw |
13 Awst 1917 ![]() Focșani ![]() |
Man preswyl |
München ![]() |
Dinasyddiaeth |
Ymerodraeth yr Almaen ![]() |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth |
biocemegydd, cemegydd, academydd ![]() |
Cyflogwr |
|
Gwobr/au |
Gwobr Cemeg Nobel, Medal Liebig ![]() |
Cemegydd o'r Almaen oedd Eduard Buchner (20 Mai 1860 - 13 Awst 1917). Roedd yn frodor o München, Bafaria.
Yn 1897, dechreuodd Buchner astudio gallu echdynion o furum i eplesu siwgr er gwaethaf absenoldeb celloedd burum byw. O fewn cyfres o arbrofion ym Mhrifysgol Berlin, arsylwodd fod y siwgr yn cael ei eplesu heb gelloedd burum yn y gymysgedd. Enwodd yr ensym a achosodd yr eplesiad swcros yma yn "symas". Yn 1907 derbyniodd Buchner y Wobr Nobel am Gemeg am y gwaith ymchwil hwnnw, ac ers hynny mae'r rhan fwyaf o ensymau, yn dilyn esiampl Buchner, wedi cael eu henwi yn ôl yr adwaith maent yn ei gynnal.