Edrica Huws

Oddi ar Wicipedia
Edrica Huws
Richard Huws ac Edrica Huws efo eu mab Daniel.
Ganwyd12 Ionawr 1907 Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mehefin 1999 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PriodRichard Huws Edit this on Wikidata
PlantDaniel Huws Edit this on Wikidata

O Lundain yn wreiddiol, addysgwyd Edrica Huws (12 Ionawr 190710 Mehefin 1999) yn Ysgol Merched St Pauls a'r Coleg Gelf Brenhinol.[1] Bu'n barddoni:

'Casglwyd ynghyd y cerddi y dymunai eu cadw, wedi'u hysgrifennu rhwng 1943 a 1953, mewn llyfryn, Poems[2], a argraffwyd yn 1994 gan Embers Handpress, Rhiwargor.'[3]

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Edrica Tyrwhitt ar 12 Ionawr 1907 yn ail o bump o blant. Treuliodd ei phlentyndod cynnar yn Hampstead, Llundain. Perthynas braidd yn bell fu rhyngddi a’i rhieni, fel oedd yn gyffredin yn y cyfnod. Roedd ei modryb, Ursula Tyrwhitt, yn un o’r merched cyntaf i’w derbyn yn Ysgol y Slade, cyfoeswraig a chyfaill agos i Gwen ac Augustus John, ac yn arlunydd dawnus, ond un na chyflawnodd byth mo’i haddewid wedi iddi briodi. Nid oedd tad Edrica yn fodlon danfon ei ferched i’r brifysgol, roedd ganddo gynlluniau i’w ferch hynaf, Jacky, ddod yn arddwraig, ond erbyn diwedd ei gyrfa roedd yn Athro Cynllunio Dinasol ym Mhrifysgol Harvard. Bu farw dau o frodyr Edrica yn ifanc, ei hoff frawd Bob, yn Hong Kong yn 1931 a’r llall, Cuthbert, adeg cwymp Singapore yn 1941.

Addysg a Chelf[golygu | golygu cod]

Wedi addysg yn Ysgol St Paul, aeth Edrica i Goleg Celf Chelsea gan weithio ar bortffolio a chael ei derbyn yn 1927 i’r Coleg Celf Brenhinol. Wedi graddio rhannodd stiwdio gyda chyd-fyfyrwraig Barbara Nicholson, a ddaeth yn adnabyddus am ei lluniau planhigion ee The Oxford Book of Wild Flowers. Gweithiai Edrica ar ei liwt ei hun. Comisiynwyd hi a Barbara i baentio cyfres o baneli yn eglwys y Santes Fair, South Benfleet, yn Essex. Arddangoswyd ei gwaith gyda’r London Group, yn Oriel Wertheim, a gan y Senefelder Society. Yna yn 1931, heb roi gwybod i’w rhieni tan wedyn, priododd Richard Huws, artist a cherflunydd o Fôn a oedd newydd ymsefydlu yn Llundain wedi iddo dreulio pedair blynedd yn Fienna. Ganed eu plentyn cyntaf, Daniel yn 1932. Buont yn byw yn Bloomsbury ac yna yn Chiswick, gan rannu tŷ yno â’r artistiaid Frances a Ceri Richards. Yn ystod y cyfnod yma yn Llundain arlunwyr oedd eu ffrindiau pennaf, yn enwedig rhai a oedd yn gysylltiedig ag ‘Ysgol Euston Road’.

Bywyd yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Yn 1939, ychydig cyn dechrau’r rhyfel, prynwyd tŷ pentre yn Talwrn, ger Llangefni, ag acer o dir yn codi’r tu cefn iddo, lle y crëwyd gan y ddau, gydag amser, ardd a oedd yn ddigon o ryfeddod. O du Richard roedd arno awydd i fagu ei blant yn Gymry yng nghefn gwlad Môn. Ganed Catharine, yr ail blentyn, yn Llundain yn 1938, a’r tri arall, Angharad, Ursula a Thomas, yn Nhalwrn. Ym Mrynchwilog magodd hi’r pump o blant, mewn tŷ heb drydan na dŵr tap. Yn y blynyddoedd ar ôl y Rhyfel, pan ddychwelodd Richard i weithio ar ei liwt ei hun fel dylunydd diwydiannol yn Llundain, yn aml roedd yn magu’r plant ar ei phen ei hun am wythnosau ar y tro. Roedd rhaid rhoi o’r neilltu pob uchelgais oedd ganddi fel artist. Ond yr oedd ganddi eisoes freuddwyd o geisio rhyw ddydd droi at weithio gyda defnydd, o wneud clytwaith, a dechreuodd hel darnau o ddefnydd. Dywedai wrth ei merched ‘pan fyddaf yn hen wraig’, byddai yn gwneud clytwaith.

Barddoniaeth a Chlytweithiau[golygu | golygu cod]

Er ei phlentyndod bu Edrica yn darllen barddoniaeth yn frwd. Yn Nhalwrn, a hithau’n methu ymarfer ei phriod gelfyddyd, ysgrifennai farddoniaeth ac, yn ystod haf 1942, bu hefyd yn cadw dyddiadur. Cyhoeddwyd cerddi o’i gwaith  mewn nifer o gylchgronau safonol: The Listener, Wales, The Times Literary Supplement. Casglwyd ynghyd y cerddi y dymunai eu cadw, wedi’u hysgrifennu rhwng 1943-1953, mewn llyfryn, ‘Poems’, a argraffwyd 1994. Yn 1958 daeth y diwrnod yr oedd Edrica wedi edrych ymlaen yn hir ato, bellach yn byw yn Llanrwst, dechreuodd ar ei chlytwaith cyntaf. Erbyn iddi feistroli ei chrefft fe allai gwblhau clytwaith o faint cyffredin mewn rhyw fis. Bu’n parhau gyda’i gwaith nes yn ei 90au. Mae ‘Cat on an Ironing Board’ 1998, yn esiampl o un o’i gweithiau hwyrach ac yn ysbrydoliaeth i un o ganeuon y gantores Gwenno Saunders a greodd sioe gerdd ar thema ‘Edrica’. Cafodd un gerdd, 'The Bonfire', ei chyhoeddi yn y Times Literary Supplement yn rhifyn 22 Medi, 1950 ac fe gyhoeddwyd nifer yn y cyfnodolyn llenyddol Saesneg Wales a olygwyd gan Keidrych Rhys—ond ei chlytweithiau ddaeth ag enwogrwydd iddi.

Llwyddiant[golygu | golygu cod]

Erbyn 1975, roedd Edrica wedi gwneud hanner cant o glytweithiau. Yn 1980, bu farw Richard ei gŵr, ‘fy meirniad gorau a mwyaf llym’ fel y’i disgrifiwyd ef gan Edrica. Yn fuan wedyn gwerthodd y tŷ a etifeddodd gan ei modryb Ursula yn Rhydychen a symud i fflat yn rue Montorgeuil, Paris, heb fod nepell o gartref ei merch Angharad. Daeth cydnabyddiaeth ryngwladol iddi drwy arddangosfeydd yn Ffrainc a Japan lle cyhoeddwyd llyfr dwyieithog  Siapanaeg / Saesneg ‘Edrica Huws: Patchwork Pictures’. Drwy ei merch Catharine, bellach wedi ymgartrefu yn Japan gyda’i gwr Koichi a chwech o blant, ac mi ddaeth y cyswllt â Japan yn bwysig wrth arddangos a gwerthu ei gwaith. Roedd ymwelwyr â’r arddangosfeydd yn Siapan, gwlad lle bu ymateb i brydferthwch defnyddiau yn elfen mor bwysig yn ei diwylliant, yn neilltuol werthfawrogol o’i gwaith. Yn ei harddangosfa olaf, yn Oriel Sembikiya yn Tokyo yn 1998, gwerthwyd pob un o’r 20 o glytweithiau oedd yno ar werth o fewn wythnos. Hoffai Edrica frolio iddi, a hithau dros ei 90 oed, ennill mwy nag a wnaeth erioed o’r blaen mewn blwyddyn.

Marwolaeth a Dylanwad[golygu | golygu cod]

Bu farw yng Nghymru ar 10fed Mehefin 1999 a’i chladdu gyda’i gŵr ym mynwent Llanddyfnan ym Môn. Y flwyddyn ganlynol fe drefnwyd arddangosfa ôl-syllol yn Japan, ac yn 2007 trefnwyd arddangosfa ôl-syllol cyntaf o’i gwaith yng Nghymru a Phrydain, yn Llangefni drwy drefniant Oriel Môn. Cyhoeddwyd llyfr dwyieithog Cymraeg / Saesneg: Clytweithiau Edrica Huws / Edrica Huws Patchworks (ISBN 978-0-9556021-0-8) gan ei mab Daniel Huws, i gyd-fynd â’r arddangosfa ym Môn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Wales,25, Gwanwyn 1947. The Druid Press Ltd. Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2013.
  2. Huws, Edrica (1994). Poems. Rhiwargor : Embers Handpress. tt. http://darganfod.llyfrgell.cymru/44WHELF_NLW_VU1:CSCOP_EVERYTHING:44NLW_ALMA21795952790002419.
  3.  Edrica Huws. BBC Cymru. Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2013.