Edna O'Brien

Oddi ar Wicipedia
Edna O'Brien
Ganwyd15 Rhagfyr 1930, 15 Rhagfyr 1932 Edit this on Wikidata
Tuamgraney Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Galwedigaethbardd, awdur storiau byrion, cofiannydd, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Swyddbeirniad Gwobr Booker Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Country Girls, Casualties of Peace Edit this on Wikidata
PriodErnest Gébler Edit this on Wikidata
PlantCarlo Gébler Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr PEN Iwerddon, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol Edit this on Wikidata

Awdures Wyddelig yw Edna O'Brien (ganwyd 15 Rhagfyr 1930) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel dramodydd, sgriptiwr, bardd, nofelydd a chofiannydd. Disgrifiwyd hi gan Philip Roth fel "y ferch fwyaf dalentog sy'n sgwennu mewn Saesneg heddiw" a bu i gyn-Arlywydd Gweriniaeth Iwerddon, Mary Robinson, ddatgan "hi yw un o awduron mwyaf ei chenhedlaeth.[1][2]

Mae gwaith O'Brien yn aml yn troi o gwmpas teimladau mewnol menywod, a'u problemau mewn perthynas â dynion, a chymdeithas yn gyffredinol.[3] Mae ei nofel gyntaf, The Country Girls, yn aml yn cael ei chydnabod â thorri'r tawelwch ar faterion rhywiol a materion cymdeithasol yn ystod cyfnod gormesol yn Iwerddon yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Cafodd y llyfr ei wahardd, ei losgi a'i wadu o'r pulpud, a gadawodd O'Brien Iwerddon gan droi'n alltud.

Mae O'Brien bellach yn byw yn Llundain. Derbyniodd Wobr PEN Iwerddon yn 2001. Enillodd Saints and Sinners Wobr Stori Fer Ryngwladol Frank O'Connor 2011, gwobr gyfoethocaf y byd am gasgliad o storiau byrion. Cyhoeddodd Faber and Faber ei bywgraffiad, Country Girl, yn 2012. Yn 2015, rhoddwyd y 'Saoi' (math o brifardd) iddi gan y Gymdeithas Wyddelig, Aosdána.

Fe'i ganed yn Tuamgraney, SwyddClare, Iwerddon ar 15 Rhagfyr 1930.[4][5]

Yn ôl O'Brien, roedd ei mam yn fenyw gref a rheolaethol a ymfudodd am ysbaid i America, a bu'n gweithio fel morwyn yn Brooklyn, Efrog Newydd, i deulu Gwyddelig-Americanaidd cefnog cyn dychwelyd i Iwerddon i gychwyn teulu a magu ei phlant. O'Brien oedd y plentyn ieuengaf o "deulu crefyddol-gul". O 1941 i 1946 cafodd ei haddysgu gan Sisters of Mercy - a chyfrannodd hyn at blentyndod lle teimlai ei bod wedi ei "mygu". "Gwrthodais yn erbyn crefydd cul a oedd yn lladd pob ysbryd rhydd" meddai.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Aosdána, Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [6][7]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr PEN Iwerddon, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol .

Gweithiau[golygu | golygu cod]

Nofelau[golygu | golygu cod]

Storiau byrion[golygu | golygu cod]

Drama[golygu | golygu cod]

  • A Pagan Place
  • 1980: Virginia. A Play
  • Family Butchers
  • Triptych
  • 2009: Haunted

Ffeithiol[golygu | golygu cod]

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Yn y Saesneg gwreiddiol: Philip Roth: "the most gifted woman now writing in English"; Mary Robinson: "one of the great creative writers of her generation".
  2. Robinson, Mary (29 Medi 2012). "A life well lived, well told". The Irish Times. Cyrchwyd 29 Medi 2012.
  3. Liukkonen, Petri. "Edna O'Brien". Books and Writers. Finland: Kuusankoski Public Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 April 2004. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120188928. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 16 Hydref 2015. "Edna O'Brien". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edna O'Brien". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edna O'Brien". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edna O'Brien". "Edna O'Brien".
  6. Swydd: https://thebookerprizes.com/the-booker-library/judges/edna-obrien.
  7. Aelodaeth: http://aosdana.artscouncil.ie/Members/Literature/O-Brien.aspx. dyddiad cyrchiad: 6 Gorffennaf 2018.
  8. O'Brien, Edna (17 Ionawr 2009). "Watching Obama". The Daily Beast. Cyrchwyd 27 Medi 2012.