Neidio i'r cynnwys

Edna Ferber

Oddi ar Wicipedia
Edna Ferber
Ganwyd15 Awst 1885 Edit this on Wikidata
Appleton, Kalamazoo Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 1968 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylAppleton, Kalamazoo, Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Lawrence Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, nofelydd, ysgrifennwr, sgriptiwr, newyddiadurwr, bardd, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPersonality Plus, Our Mrs. McChesney, So Big, Show Boat, Cimarron, American Beauty, Saratoga Trunk, Come and Get It, Giant Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth Edit this on Wikidata
PerthnasauJanet Fox Edit this on Wikidata
Gwobr/auOriel yr Anfarwolion Menywod Michigan, Gwobr Pulitzer i Nofelwyr, Cyfres Americanwyr nodedig Edit this on Wikidata

Nofelydd o'r Unol Daleithiau oedd Edna Ferber (15 Awst 1885 - 16 Ebrill 1968) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur storiau byrion, dramodydd, sgriptiwr a newyddiadurwr. Roedd ei nofelau'n cynnwys So Big (1924), Show Boat (1926), Cimarron (1929), Giant (1952) ac Ice Palace (1958), a ffilmiwyd ym 1960.

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Kalamazoo ar 15 Awst 1885; bu farw yn Ninas Efrog Newydd o ganser. [1][2][3][4][5][6]

Ceidwad siop Iddewig o Hwngari, Jacob Charles Ferber, oedd ei thad, a'i wraig oedd Julia (g. Neumann) Ferber o Milwaukee, Wisconsin, a oedd hefyd o dras Iddewig yr Almaen.

Symudodd y teulu'n aml oherwydd methiannau busnes ei thad, a oedd efallai'n deillio o'i ddallineb cynnar ac a fu'n achos ei farwolaeth yn y diwedd. Ar ôl byw yn Chicago, Illinois, bu'n byw yn Ottumwa, Iowa gyda'i rhieni a'i chwaer hŷn, Fannie, o bump i ddeuddeg oed. Yn Ottumwa, wynebodd Ferber ymosodiadau gwrth-Semitiaeth pan fyddai dynion ei rhegi, chwerthin ar ei phen, ac yn poeri arni bob dydd wrth iddi ddod â chinio i'w thad. Yn 12 oed symudodd Ferber a'i theulu i Appleton, Wisconsin, lle graddiodd o Brifysgol Lawrence. Cymerodd swyddi papur newydd gyda'r Appleton Daily Crescent a'r Milwaukee Journal cyn cyhoeddi ei nofel gyntaf. Ymdriniodd â Chonfensiwn Cenedlaethol Gweriniaethol 1920 (1920 Republican National Convention) a Chonfensiwn Cenedlaethol Democrataidd 1920 ar gyfer Cymdeithas y Wasg Unedig (United Press Association).

Gwaith llenyddol

[golygu | golygu cod]

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Personality Plus, Our Mrs. McChesney, So Big, Show Boat, Cimarron, American Beauty, Saratoga Trunk a Come and Get It.

Yn gyffredinol mae nofelau Ferber yn cynnwys prif gymeriadau benywaidd cryf, ynghyd â chasgliad cyfoethog ac amrywiol o gymeriadau cefnogol. Fel arfer roedd ganddi o leiaf un cymeriad eilaidd a oedd yn wynebu gwahaniaethu ar sail ethnig neu am resymau eraill. Wrth wneud hyn, dywedodd Ferber fod gan bobl hyll y cymeriad gorau.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Nofelau

[golygu | golygu cod]
  • Dawn O'Hara, The Girl Who Laughed (1911)
  • Fanny Herself (1917)
  • The Girls (1921)
  • Gigolo (1922)
  • So Big (1924) (Pulitzer Prize)
  • Show Boat (nofel) (1926, Grosset & Dunlap)
  • Cimarron (1929)
  • American Beauty (1931)
  • Come and Get It (1935)
  • Saratoga Trunk (1941)
  • Great Son (1945)
  • Giant (1952)
  • Ice Palace (1958)

Nofelau bychain a storiau byrion

[golygu | golygu cod]
  • Buttered Side Down (1912)
  • Roast Beef, Medium (1913)
  • Personality Plus (1914)
  • Emma Mc Chesney and Co. (1915)
  • Cheerful – By Request (1918)
  • Half Portions (1919)
  • Mother Knows Best (1927)
  • They Brought Their Women (1933)
  • Nobody's in Town: Two Short Novels (1938)
  • One Basket: Thirty-One Short Stories (1947)

Bywgraffiadau

[golygu | golygu cod]
  • A Peculiar Treasure (1939)
  • A Kind of Magic (1963)

Dramâu

[golygu | golygu cod]

Sioeau cerdd

[golygu | golygu cod]

Erthyglau

[golygu | golygu cod]

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Algonquin Round Table am rai blynyddoedd. [7][8][9]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Oriel yr Anfarwolion Menywod Michigan (2009), Gwobr Pulitzer i Nofelwyr (1925), Cyfres Americanwyr nodedig (2002)[10][11] .

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Cyffredinol: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 12385108v, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015 LIBRIS, 1.0, Llyfrgell Genedlaethol Sweden, 17 Medi 2012, Libris-URI rp3556s91tsm2d1, Wikidata Q1798125, https://libris.kb.se/, adalwyd 24 Awst 2018 (yn de) Katalog der Deutschen Nationalbibliothek, GND 118683284, Wikidata Q23833686, https://portal.dnb.de/, adalwyd 25 Gorffennaf 2025
  2. ↑ Disgrifiwyd yn: https://www.bartleby.com/library/bios/index3.html.
  3. ↑ Rhyw: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 12385108v, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 118683284, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 12 Gorffennaf 2024
  4. ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 118683284, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 21 Gorffennaf 2015 "Edna Ferber". Internet Broadway Database. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edna Ferber". Find a Grave. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edna Ferber". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edna Ferber". filmportal.de. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. (yn en) Encyclopædia Britannica, dynodwr Encyclopædia Britannica Online biography/Edna-Ferber, Wikidata Q5375741, https://www.britannica.com/
  5. ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 12385108v, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015 "Edna Ferber". Internet Broadway Database. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edna Ferber". Find a Grave. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edna Ferber". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Edna Ferber". filmportal.de. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. ↑ Man geni: (yn en) Encyclopædia Britannica, dynodwr Encyclopædia Britannica Online biography/Edna-Ferber, Wikidata Q5375741, https://www.britannica.com/ (yn de) Katalog der Deutschen Nationalbibliothek, GND 118683284, Wikidata Q23833686, https://portal.dnb.de/, adalwyd 25 Gorffennaf 2025
  7. ↑ Galwedigaeth: Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 365, OL2727330W, Wikidata Q18328141 Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 365, OL2727330W, Wikidata Q18328141 Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 365, OL2727330W, Wikidata Q18328141 abART, dynodwr abART (person) 108563, Wikidata Q107456632, http://isabart.org, adalwyd 1 Ebrill 2021 Lina Mainiero; Langdon Lynne Faust (1979) (yn en), American Women Writers, Wikidata Q106787730 Charles Dudley Warner, ed. (1897) (yn en), Library of the World's Best Literature, Wikidata Q19098835, https://www.bartleby.com/lit-hub/library (yn de) Katalog der Deutschen Nationalbibliothek, GND 118683284, Wikidata Q23833686, https://portal.dnb.de/, adalwyd 25 Gorffennaf 2025 Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, GND 118683284, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 20 Ebrill 2026
  8. ↑ Aelodaeth: Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 365, OL2727330W, Wikidata Q18328141
  9. ↑ Anrhydeddau: http://www.michiganwomen.org/Images/Ferber,%20Edna.pdf. http://www.pulitzer.org/prize-winners-by-year/1925. retrieved: 6 Tachwedd 2016.
  10. ↑ http://www.michiganwomen.org/Images/Ferber,%20Edna.pdf.
  11. ↑ http://www.pulitzer.org/prize-winners-by-year/1925. retrieved: 6 Tachwedd 2016.