Edith Mansell-Moullin

Oddi ar Wicipedia
Edith Mansell-Moullin
Ganwyd1859 Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mawrth 1941 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaethymgyrchydd, ymgyrchydd cymdeithasol, swffragét Edit this on Wikidata

Ymgyrchydd dros y bleidlais i fenywod a gweithredwraig gymdeithasol o dras Cymreig oedd Edith Mansell-Moullin (Medi 18585 Mawrth 1941). Gyda balchder yn ei thras Gymreig, sefydlodd 'Cymric Suffrage Union' yn Llundain gyda'r nod o gael y bleidlais i fenywod Cymru. Cyd-drefnodd y garfan Gyrmeig o brosesiwn mawr y Women's Suffrage Union yn y ddinas yn 1911. Fel un o'r garfan fwyaf gweithredol o'r mudiad, cafodd ei charcharu am ei gwrthwynebiad ac am wrthod rhoi'r gorau i ymgyrchu yn erbyn y llywodraeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Edith Ruth Thomas ym Medi 1858 i Anne (née Lloyd) a David Collet Thomas. Ar ôl iddi gwblhau ei haddysg, bu'n gweithio yn y slyms yn Bethnal Green a pharhaodd i wneud hynny ar ôl iddi briodi'r llawfeddyg adnabyddus Charles William Mansell-Moullin, a oedd yn gweithio yn Ysbyty Frenhinol Llundain.[1] Bu'n dyst i Streic y 'Match Girl' yn 1888 a chynorthwyodd weithwyr y dociau mewn cegin gawl yn ystod Streic Dociau Llundain yn 1889. Parhaodd i weithio mewn tai cymdeithasol tan tua[2] 1906, pan ymunodd â'r Women's Industrial Council a dod yn gadeirydd Pwyllgor Archwilio y Cyngor.[3] Ymunodd hefyd â'r Women's Social and Political Union (WSPU) tua 1907 a daeth yn drysorydd cyntaf y Church League for Women's Suffrage.[4] Roedd y ddau Mansell-Moullins yn ymgyrchu i sicrhau'r bleidlais i fenywod. Roedd Charles yn perthyn i'r Men's League for Women's Suffrage a bu'n is-lywydd. Roedd Edith Mansell-Moullin yn aelod o'r Women's Freedom League yn ogystal â'r WSPU.[1]

Cymerodd Mansell-Moullin ran mewn nifer o brotestiadau, yn cynnwys yr un a gynhaliwyd yn Hyde Park yn 1910, pan rhannodd y llwyfan gyda Emmeline Pankhurst.[5] Ar 17 Mehefin 1911, gorymdeithiodd 40,000 o fenwyod yn yr "Ardystiad Mawr" a noddwyd gan y Women’s Suffrage Union, fel rhan o brosesiwn coroni Siôr V. Trefnodd Mansell-Moullin y garfan Gymreig o'r orymdaith gyda Rachel Barrett ac anogodd y Cymry i wisgo'r wisg Gymreig.[6] Roedd yn falch iawn o'i thras Gymreig,[1] ac ar ol y prosesiwn, sefydlodd y Cymric Suffrage Union (CSU),[7] gyda'r nod o sicrhau'r bleidlais i fenywod Cymru. Er ei fod wedi'i leoli yn Llundain yn bennaf, roedd canghennau o'r CSU yng Nghymru ac aeth ar deithiau i ogledd Cymru gan siarad yn gyhoeddus o blaid y bleidlais i fenywod.[1] Cyfieithodd y CSU ddogfennau am yr etholfraint i'r Gymraeg a'u dosbarthu i eglwysi a chynulleidfaoedd Cymreig.[7] Yn Nhachwedd 1911, cymerodd Mansell-Moullin ran mewn ardystiad o flaen y Senedd ac yr oedd yn un o 200 o fenywod gafodd eu arestio.[8] Cafodd ei chyhuddo o darfu ar yr heddwch a cheisio torri llinellau'r heddlu, a gwadodd hynny. Cafodd ei dedfrydu a threuliodd bum diwrnod yng Ngharchar Holloway.[1]

Yn dilyn ei charchariad, ymwasgarodd y CSU a ffurfiwyd mudiad mwy gweithredol, y Forward Cymric Suffrage Union (FCSU),[7] yn Hydref 1912. Roedd ei gŵr a hithau yn llafar yn erbyn gorfodi bwydo swffragetiaid yn y carchardai a trodd cartref Mansel Moullin yn ganolfan ar gyfer trafod strategaeth. Yn 1913 daeth Mansel Moullin yn ysgrifennydd mygedol i'r grwp a ffurfiwyd gan Sylvia Pankhurst er mwyn diddymu'r Cat and Mouse Act. Cymerodd y ddeddf hon le'r bwydo drwy orfodaeth trwy ryddhau carcharorion pan aent yn sâl oherwydd diffyg bwyd, ac yna ei hail-garcharu cyn gynted ag yr oeddynt wedi gwella.[1] Yr un flwyddyn, rhoddodd Dr. Mansel Moullin driniaeth i Emily Davison wedi iddi gael ei sathru gan geffyl y brenin yn y Derby, ond methodd ag achub ei bywyd.[5]

Ymddiswyddodd Mansel Moullin o'r WSPU,[5] yn rhannol oherwydd ei benderfyniad i roi'r gorau i brotestio yn erbyn y llywodraeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.[9] Roedd hi'n heddychwraig, ac felly yn erbyn y rhyfel, ac yn credu na ddylid ildio cyfrifoldeb cymdeithasol o'i herwydd.[1] Cafodd ei chynhyrfu gan yr arfer o arestio gweithwyr Almeinig yn y mwyngloddfeydd yng Nghymru, a'r effaith roedd hynny'n ei gael ar eu teuluoedd, a bu Mansel Moullin yn apelio ar eu rhan ac yn codi arian trwy'r FCSU i'w cynorthwyo.[10] Anfonodd hefyd lythyrau yn protestio yn erbyn y cyflogau isel roedd menywod yn eu derbyn yn ystod y Rhyfel, gan alw am arian cyhoeddus i gael ei ddefnyddio i ychwanegu at eu cyflogau.[11] Ymddiswyddodd o'i swyddogaethau yn y FCSU yn 1916 oherwydd pryderon ynghylch ei iechyd, er iddi barhau i weithio mewn rhaglenni cymdeithasol a gyda mudiadau heddwch. Yn 1931, bu'n gadeirydd y Society for Cultural Relations gyda'r USSR ac yn gweithio fel gwirfoddolwraig yn St Dunstan's, a oedd yn rhoi cartref i gynfilwyr dall.[1]

Bu farw Mansel Moullin ar Mawrth 1941 yng nghartref ei mab yn Llundain, flwyddyn ar ôl marwolaeth ei gŵr.[1]

Cydnabyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae ei henw a'i llun (ynghyd â 58 o rai eraill a gefnogodd y bleidlais i fenywod) ar blinth y cerflun o Millicent Fawcett yn Parliament Square, Llundain, a ddadorchuddiwyd yn 2018.[12][13][14]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 John 2010.
  2. Crawford 2003, t. 374.
  3. Crawford 2003, t. 186.
  4. Crawford 2003, tt. 374–375.
  5. 5.0 5.1 5.2 Crawford 2003, t. 375.
  6. Welsh Hat 2016.
  7. 7.0 7.1 7.2 Smith 2014, t. 48.
  8. The Manchester Guardian 1911, t. 7.
  9. Wilson & Herman 2004, t. 76.
  10. The Manchester Guardian 9/1914, t. 2.
  11. The Manchester Guardian 10/1914, t. 5.
  12. "Historic statue of suffragist leader Millicent Fawcett unveiled in Parliament Square". Gov.uk. 24 April 2018. Cyrchwyd 24 April 2018.
  13. Topping, Alexandra (24 April 2018). "First statue of a woman in Parliament Square unveiled". The Guardian. Cyrchwyd 24 April 2018.
  14. "Millicent Fawcett statue unveiling: the women and men whose names will be on the plinth". iNews. Cyrchwyd 2018-04-25.