Edith Gyömrői Ludowyk

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Edith Gyömrői Ludowyk
Ganwyd 8 Medi 1896 Edit this on Wikidata
Budapest Edit this on Wikidata
Bu farw 11 Chwefror 1987, 10 Chwefror 1987 Edit this on Wikidata (90 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswyl Sri Lanca Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Hwngari Hwngari
Galwedigaeth Bardd, seicdreiddydd, gweithredydd gwleidyddol, Ysgrifennwr, Gwleidydd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Gomiwnyddol yr Almaen, Lanka Sama Samaja Party Edit this on Wikidata
Priod E. F. C. Ludowyk Edit this on Wikidata
Perthnasau István Hollós Edit this on Wikidata

Awdures Iddewig o Hwngari oedd Edith Gyömrői Ludowyk (8 Medi 1896 - 11 Chwefror 1987) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, seicdreiddydd ac ymgyrchydd gwleidyddol. Bu'n byw am rai blynyddoedd yn Sri Lanka.

Fe'i ganed yn Budapest a bu farw yn Llundain yn 90 oed. [1]

Bu'n briod i E. F. C. Ludowyk. Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol yr Almaen a Plaid Lanka Sama Samaja.

Y dyddiau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed i Ilona Pfeifer, a'i thad oedd Mark Gelb, a newidiodd ei enw yn 1899 i Gyömrői, a oedd yn saer. Roedd ganddi frawd iau, Boris, a chwaer a oedd ddwy flynedd yn hŷn o'r enw Márta.

Ar gais ei thad, dechreuodd astudio dylunio mewnol, ond yn ddiweddarach, aeth ni orffenodd y cwrs.[2] Yn 1914, priododd y peiriannydd cemegol Ervin Renyi - a chawsantfab, Gabor, a fyddai'n marw'n ddiweddarach mewn gwersyll ffasgiaidd - yna ysgarodd yn 1918. Trwy ei ewythr István Hollós, dechreuodd ddysgu am seicdreiddiad a mynychodd 5ed Gyngres Ryngwladol Seico-ddadansoddol yn Budapest.[3][4][5]

Comiwnyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

O 1918 ymlaen aeth i gynulliadau'r grŵp o ddeallusion, adain chwith o'r enw'r "Cylch Dydd Sul" a oedd yn cynnwys y seicoanalydd René Spitz. Yn 1919, bu'n gweithio i'r Weriniaeth Sofietaidd Hwngari ond yn dilyn ymosodiad gan Romania, syrthiodd y weriniaeth, a bu'n rhaid iddi weithio mewn ffatri gwneud parasiwtiaid yn Fienna.

Roedd hi'n adnabod yr awduron Hwngari Balázs Béla, y cyfansoddwr Hanns Eisler, yr awdur Tsiec Egon Kisch a Hermann Broch - a gyfieithodd ei barddoniaeth i'r Almaeneg. Wedi hynny bu am gyfnod byr yn Tsiecoslofacia a Rwmania. Ar ôl cael ei diarddel o Rwmania am ei chomiwnyddiaeth, ymsefydlodd yn Berlin yn 1923, gyda'i hail ŵr Laszlo Tology (Gluck). Dyluniodd wisgoedd ar gyfer ffilmiau Elisabeth Bergner yn Stiwdio Produktion Neumann a gweithiodd fel cyfieithydd ac fel ffotograffydd. Bu hefyd yn gweithio i'r papur newydd Rote Hilfe o Blaid Gomiwnyddol yr Almaen am gyfnod. Astudiodd seicdreiddiad o 1924 ymlaen. Ar ôl ymgymryd â hyfforddiant mewn dadansoddi (neu 'analeiddiwr seicolegol'; seicoanaleiddiwr) gydag Otto Fenichel, agorodd bractis.[6]

Hi oedd seicoanalydd y bardd Hwngaraidd József Attila, a sgwennodd gerddi serch iddi.

Pan ddaeth Hitler i rym yn 1933, ymfudodd Gyömrői i Prag gan ei bod yn Iddew; roedd yn gwrthwynebu ideolegau Natsïaidd. Y flwyddyn ganlynol dychwelodd i Budapest, lle ymunodd gyda Chymdeithas Seicolegol Hwngari. Rhwng 1936 a 1938, cynhaliodd seminarau a nosweithiau trafod ar faterion addysgol ymarferol.

Sri Lanka[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1938, pan basiwyd cyfraith ffasgiaidd gwrth-Iddewig ac ymfudodd i Sri Lanka gyda'i thrydydd gŵr, y newyddiadurwr Laszlo Ujvári, a fu farw ym 1940. Cyfarfu a phriododd EFC Ludowyk, Athro Saesneg ym Mhrifysgol, Colombo.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Gymdeithas Seico-analytig Almaeneg, Cymdeithas Seico-analytig Hwngari a Chymdeithas Seico-analytig Lloegr am rai blynyddoedd.

Gweithiau llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rényi Edit versei, 1919
  • Versohnung[2]
  • Gegen den Strom, 1941
  • Miracle and Faith in Early Buddhism, 1944
  • Pubertätsriten der Mädchen in einer in Umwandlung begriffenen Gesellschaft, 1955
  • Megbékélés, 1979

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]