Edgar Purnell Hooley
Edgar Purnell Hooley | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mehefin 1860 ![]() Abertawe ![]() |
Bu farw | 26 Ionawr 1942 ![]() Rhydychen ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | dyfeisiwr ![]() |
Dyfeisiwr o Gymru oedd Edgar Purnell Hooley (5 Mehefin 1860 – 26 Ionawr 1942). Ar ôl dyfeisio tarmac ym 1902, sefydlodd Tar Macadam Syndicate Ltd y flwyddyn ganlynol a chofrestrodd tarmac fel nod masnach. Yn dilyn cyfuno cwmnïau yn 2013 daeth y busnes yn Tarmac Limited, un o gwmnïau deunyddiau adeiladu mwyaf y Deyrnas Unedig.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganed Hooley yn Abertawe a chafodd ei benodi'n beiriannydd sifil i gwmni James Craik ym Mryste.[1]
Ymunodd Hooley mewn partneriaeth busnes â Francis Lean, fel penseiri a syrfewyr yng Nghastell Nedd, a oedd ar y pryd yn sir Forgannwg, dan yr enw Lean a Hooley. Diddymwyd y bartneriaeth ar 27 Awst 1881.[2] Hefyd ym 1881, daeth yn syrfëwr gyda Bwrdd Priffyrdd Stow-on-the-Wold ac yn 1884 cymerodd swydd debyg gyda Bwrdd Priffyrdd Maidstone. Penodwyd ef yn syrfëwr sirol i Gyngor Sir Nottingham yn 1889.[1]
Yn rhinwedd ei swydd fel syrfëwr sirol, roedd Hooley yn mynd heibio i waith tar yn 1901 pan sylwodd fod casgen o dar wedi ei arllwys ar y ffordd a bod rhywun, mewn ymgais i leihau’r llanast, wedi gadael graean ar ei ben. Roedd y darn hwn o'r ffordd yn hynod ddi-lwch o’i chymharu â gweddill y ffordd, ac fe ysbrydolwyd Hooley i ddatblygu tarmac ym Mhrydain.[3] Gwnaeth Hooley gais am batent ar gyfer tarmac ym 1902 (GB 7796), a roddwyd ym 1903.[4][5][6]
Galwodd ei gwmni, a gofrestrodd yn 1903, yn Tar Macadam (Purnell Hooley's Patent) Syndicate Limited, ond yn anffodus cafodd drafferth i werthu ei gynnyrch gan nad oedd yn ŵr busnes profiadol. Ar 26 Gorffennaf 1904, cafodd Hooley batent o’r Unol Daleithiau ar gyfer cyfarpar ar gyfer paratoi tar macadam, gyda’r bwriad o wella’r dulliau presennol o baratoi tar macadam.[7]
Prynwyd cwmni Hooley gan yr Aelod Seneddol dros Wolverhampton, Syr Alfred Hickman, a oedd hefyd yn berchen ar waith dur a gynhyrchai lawer iawn o wastraff slag. Ail-lansiwyd cwmni Tarmac gan Hickman yn 1905.[1][3]
Ymgymerodd Hooley â pheth gwasanaeth milwrol hefyd, gan gyrraedd safle ail raglaw ym bataliwn 1af Swydd Nottingham (Robin Hood) ar 12 Mawrth 1892,[8] a oedd yn is-gapten ar y pryd ar 23 Mehefin 1894,[9] a chapten ar 23 Rhagfyr 1896.[10]
Ymddiswyddodd o'r comisiwn hwn ar 26 Mawrth 1902.[11] Ar 7 Hydref 1914, trosglwyddodd Hooley o'r Lluoedd Wrth Gefn Tiriogaethol i 8fed Bataliwn y Sherwood Foresters (Catrawd Swydd Nottingham a Swydd Derby) gyda rheng Chwarter feistr a Chapten Anrhydeddus.[12] Wedi hynny, trosglwyddodd yn ôl i'r Lluoedd Wrth Gefn Tiriogaethol.[13] Ar 29 Hydref 1920, cyrhaeddodd Hooley y terfyn oedran ar gyfer ymddeoliad, ac ymddeolodd, gan gadw rheng Chwarter feistr a Chapten.[14]
Bu farw Hooley yn ei gartref yn Rhydychen, Lloegr yn 1942.
Teulu
[golygu | golygu cod]Yn 1884 priododd Hooley â Matilda Fanny Stallard a ganwyd dau fab a dwy ferch iddynt - bu un o'r plant i fyw dros ganmlwydd oed.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]Dyma restr o gyhoeddiadau hysbys gan Hooley.[15]
- "Maintenance of main roads and county management", Association of Municipal and Sanitary Engineers and Surveyors, Proceedings 16: 174–201, 1890
- "Main road maintenance", Engineering Record, 10 Awst 1890
- Management of highways, 1895
- .(1896), Steam rolling; with discussion. Association of Municipal and County Engineers and Surveyors, Proceedings. Vol. 22, pp. 284–308. Surveyor, 17 Gorffennaf 1896
- .(1899), Notes on the Locomotives Act, 1898: with discussion. Association of Municipal and Sanitary Engineers and Surveyors, Proceedings. Vol. 25, pp. 84–103. Surveyor, 27 Ionawr 1899.
- "Road requirements", Association of Municipal and Sanitary Engineers and Surveyors, Proceedings 33: 277–286, 1907 Summary in Surveyor 5 Gorffennaf 1907.
- .(1908), Modern road management. International Roads Congress; Summarised in Municipal Journal, 16 Oct; Engineering Record, 7 Tachwedd 1908.
- "Tar and its uses in modern road construction", Canadian Engineer, 24 Medi 1909
- "Modern road repairs", Surveyor, 15 Ebrill 1910
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Hooley, Edgar Purnell (1860–1942)’, by John Sheail Oxford Dictionary of National Biography, cyhoeddwyd gyntaf Medi 2004
- ↑ "No. 25015". The London Gazette. 16 Medi 1881. t. 4735.
- ↑ 3.0 3.1 Ralph Morton (2002), Construction UK: Introduction to the Industry, Oxford: Blackwell Science, p. 51, ISBN 978-0-632-05852-5, https://books.google.com/books?id=cW4CRawd1TgC&q=%22Edgar+Hooley%22&pg=PA51, adalwyd 22 Mehefin 2010. (Mae manylion y stori yn amrywio ychydig, ond mae'i hanfod yr un fath ac felly y ffeithiau plaen).
- ↑ Harrison, Ian (2004), The Book of Inventions, Washington, DC: National Geographic Society, p. 277, ISBN 978-0-7922-8296-9, https://books.google.com/books?id=n4NGAAAAYAAJ&q=%22Tarmac+1902+Edgar+Purnell+Hooley+(England)+Patent+no:+GB+7796/1902+%26+US%22, adalwyd 23 Mehefin 2010
- ↑ "The man who invented Tarmac". BBC. 24 Rhagfyr 2016.
- ↑ "Patent Application - GB 190207796". worldwide.espacenet.com. Cyrchwyd 2020-05-04.
- ↑ E.P. Hooley (26 July 1904), Apparatus for the Preparation of Tar Macadam, US Patent No. 765,975, http://www.prioryblockpaving.co.uk/pdf/tarmacadam-patent.pdf, adalwyd 22 Mehefin 2010
- ↑ "No. 26266". The London Gazette. 11 Mawrth 1892. t. 1439.
- ↑ "No. 26524". The London Gazette. 22 Mehefin 1894. t. 3577.
- ↑ "No. 26805". The London Gazette. 22 Rhagfyr 1896. t. 7548.
- ↑ "No. 27419". The London Gazette. 25 Mawrth 1902. t. 2083.
- ↑ "No. 29009". The London Gazette (Supplement). 17 Rhagfyr 1914. t. 10799.
- ↑ "No. 29469". The London Gazette (Supplement). 10 Chwefror 1916. t. 1584.
- ↑ "No. 32103". The London Gazette (Supplement). 28 Hydref 1920. t. 10400.
- ↑ Ballen, Dorothy (1914), Bibliography of Road-making and Roads in the United Kingdom, London: P.S. King & Son, pp. 17, 81, 170, 180, 181, 184, 208, 212, 221, (n38, 107, 191, 201, 202, 205, 229, 233, 242 in electronic page field), https://archive.org/stream/cu31924014555423#page/n6/mode/1up, adalwyd 22 Mehefin 2010. (Testun llawn yn yr Archif Rhyngrwyd. Mae rhoi "Hooley" yn blwch chwilio yn dangos dolenni i'r tudalennau).