Edeulys y migwyn
Edeulys y migwyn Cephaloziella hampeana | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Cephaloziellaceae |
Genws: | Cephaloziella |
Rhywogaeth: | C. hampeana |
Enw deuenwol | |
Cephaloziella hampeana |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys y migwyn (enw gwyddonol: Cephaloziella hampeana; enw Saesneg: Hampe's threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth cyffredin iawn yng Nghymru, gogledd, de a gorllewin Lloegr, ac yn yr Alban. Tyf hefyd mewn mannau arfordirol yn Iwerddon.
Disgrifiad[golygu | golygu cod]
Mae angen chwyddwydr er mwyn adnabod y rhywogaeth, ac er mwyn ei wahaniaethu oddi wrth aelodau eraill o Cephaloziella.
Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]
- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma. Mae'r coesynnau'n llai na 0.5 mm o led ac mae'r dail bychan yn 0.3 mm neu lai. Mae Edeulys y mwynbridd (C. stellulifera) ychydig yn fwy nac Edeulys y migwyn, gyda'i llabedau a'i fractau yn plygu am yn ôl, o'r coesyn. Mae ganddo flagur.
Cynefin[golygu | golygu cod]
Mae'r rhywogaeth hon yn tyfu mewn ystod eang o gynefinoedd llaith, asidig neu niwtral ac mae'n hoff o dir priddlyd, mawn, migwyn (sphagnum), boncyffion pwdwr a rwbel mwyngloddio.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.
- ↑ rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 24 Mai 2019.