Edeulys Turner

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Edeulys turner)
Edeulys Turner
Cephaloziella turneri
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Cephaloziellaceae
Genws: Cephaloziella
Rhywogaeth: C. turneri
Enw deuenwol
Cephaloziella turneri

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys Turner (enw gwyddonol: Cephaloziella turneri; enw Saesneg: Turner's threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae'r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru ond yn eithriadol brin: fe'i ceir ar arfordir deheuol Sir Benfro ac un lle yn sir Fynwy. mewn un neu ddau o lefydd mae'n tyfu yn Iwerddon ac yn yr Alban hefyd, ond fe'i ceir yng Nghernyw a Dyfnaint.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Dyma un o lysiau'r afu mwyaf prydferth Mae'r dail tua 0.25 mm gyda dau labed anghyfartal eu maint, gyda phob un yn ddaneddog; maent i'w gweld yn glir trwy chwyddwydr. Mae ei egin gwyrdd, main yn llai na 0.5 mm o led, ac mae'r planhigyn fel pe tai'n ymlusgo ymysg mwsoglau bach.

Yn aml, fe'i ceir ar bridd asidig serth, ymysg gwreiddiau coed, arfordirol.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Edeulys Turner gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.