Edeulys llabedog

Oddi ar Wicipedia
Edeulys llabedog
Cephaloziella integerrima
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Cephaloziellaceae
Genws: Cephaloziella
Rhywogaeth: C. integerrima
Enw deuenwol
Cephaloziella integerrima

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys llabedog (enw gwyddonol: Cephaloziella integerrima; enw Saesneg: lobed threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Nid yw'r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, ond mae ar gael yng Nghernyw.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Hwn yw un o'r rhywogaethau lleiaf o fewn y genws Cephaloziella,. Mae'n eitha tebyg i'r Edeulys cyfan (C. calyculata), ac mae gan y ddau deilflaguryn (gemma) tebyg i'w gilydd, oddigerth i'r ffaith fod Edeulys cyfan ychydig yn fwy, a heb rannau coch / browngoch arnynt.

Cynefin[golygu | golygu cod]

Mae pob un yn tyfu mewn hen safleoedd mwyngloddiau metelaidd, ar bridd braidd yn denau dros hen rwbel mwyngloddio sy'n aml wedi'i halogi gan gopr.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Edeulys llabedog gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.