Neidio i'r cynnwys

Echel y Gwrthsafiad

Oddi ar Wicipedia
Echel y Gwrthsafiad
Map o'r grwpiau sy'n gysylltiedig ag Echel y Gwrthsafiad.
Enghraifft o:cynghrair milwrol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1982 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysIran, Syrian Social Nationalist Party, Hizballah, Hamas, Hwthïaid Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cynghrair milwrol anffurfiol dan arweiniad Iran yw Echel y Gwrthsafiad sy'n cynnwys sawl grŵp milwriaethus a llu arfog ar draws Gorllewin Asia a gefnogir a chydlynir gan Gorfflu'r Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd (IRGC). Mae'n cynnwys grwpiau milwriaethus a lledfilwrol Islamiaeth Shïa yn bennaf: Hezbollah yn Libanus, y Gwrthsafiad Islamaidd a'r Lluoedd Byddino Poblogaidd yn Irac, a'r Hwthïaid yn Iemen. Mae hefyd yn cynnwys yn ysbeidiol grwpiau Palesteinaidd Swnni, megis Hamas a'r Jihad Islamaidd. Hyd at gwymp llywodraeth Bashar al-Assad yn Rhagfyr 2024, roedd lluoedd arfog Syria hefyd yn rhan allweddol o'r Echel, ac yn galluogi mynediad Iran i Fôr y Canoldir. Maent yn gwrthwynebu gelynion Iran yn y Dwyrain Canol: Unol Daleithiau America, Israel, Sawdi Arabia, yr Emiradau Arabaidd Unedig, ac weithiau Twrci a gwladwriaethau Arabaidd yng Ngwlff Persia. Yn rhygwladol, cefnogir yr Echel gan Ogledd Corea a Feneswela, sy'n gwrthwynebu'r Unol Daleithiau.

Tarddiad yr enw

[golygu | golygu cod]

Bathwyd yr enw mewn ymateb i "Echel y Fall", ymadrodd a ddefnyddiwyd gan George W. Bush, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn 2002 i ddisgrifio Iran (gweriniaeth Islamaidd dan drefn theocrataidd y mylahod), Irac (dan reolaeth Saddam Hussein a'r Blaid Ba'ath), a Gogledd Corea (unbennaeth gomiwnyddol dotalitaraidd y teulu Kim). Fe'i defnyddiwyd yn gyntaf gan y papur newydd Al-Zahf Al-Akhdar yn Libia, mewn teitl erthygl o'r enw "Echel y fall neu echel y gwrthsafiad", gan honni mai'r "unig nodwedd gyffredin rhwng Iran, Irac, a Gogledd Corea ydy eu gwrthsafiad i hegemoni'r Unol Daleithiau".[1] Mabwysiadwyd yr iaith hon gan Jomhuri-ye Eslami, papur newydd yn Iran, yng nghyd-destun y gwrthryfel Shïa yn Irac yn 2004, yn ystod meddiannaeth Irac gan luoedd yr Unol Daleithiau a'i chynghreiriaid: "Os oes rhaid cysylltu, uno, a chyfnerthu ffrynt y Shiaid yn Irac, dyler gwirioneddu'r undod hwn ar ffurf echel gwrthsafiad a brwydr yn erbyn y meddianwyr."[2]

Yn 2006, defnyddiodd Said Saim, Gweinidog Mewnwladol Palesteina, y term mewn cyfweliad â sianel deledu Al-Alam i gyfeirio at amcanion gwleidyddol cyffredin ymhlith yr Arabiaid sy'n groes i fuddiannau Israel a'r Unol Daleithiau. Wrth nodi'r nifer fawr o ffoaduriaid Palesteinaidd yn Syria, meddai Saim: "Mae Syria hefyd yn wlad Arabaidd Islamaidd ac hefyd wedi ei thargedu gan yr Americanwyr a'r Seioniaid. Felly, gwelwn yn Syria, Iran, Hezbollah, a Hamas echel o wrthsafiad i'r pwysau hyn."[3]

Gwelir hefyd defnydd o'r ymadrodd yn Awst 2010,[4] a therm tebyg yn 2012 pan ddywedodd Ali Akbar Velayati, prif gynghorydd i Oruchaf Arweinydd Iran ar faterion tramor:

Mae cadwyn y gwrthsafiad yn erbyn Israel gan Iran, Syria, Hezbollah, y llywodraeth newydd yn Irac, ac Hamas yn mynd ar hyd ffordd Syria ... Syria ydy'r ddolen euraid yn y gadwyn sy'n gwrthsefyll Israel.[5]

Yn Awst 2012, mewn cyfarfod rhwng Bashar al-Assad, Arlywydd Syria, a Saeed Jalili, Ysgrifennydd Goruchaf Gyngor Diogelwch Cenedlaethol Iran, ynghylch Rhyfel Cartref Syria, meddai Velayati:

Nid mater mewnol yw'r hyn sy'n digwydd yn Syria, ond gwrthdaro rhwng echel y gwrthsafiad a'i gelynion yn yr ardal ac yn y byd. Ni fydd Iran yn goddef, mewn unrhyw ffordd, chwalu echel y gwrthsafiad, y mae Syria yn rhan annatod ohoni.[5][6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Collapse of US-Libyan Talks Highlighted by Revived Anti-US Rhetoric from Tripoli". Defense & Foreign Affairs Daily. February 12, 2002.
  2. "BBC Monitoring quotes from Iranian press 18 May 04". BBC News. May 18, 2004.
  3. "Interview with Said Saim, Palestinian Minister of the Interior, discussing the security chaos in the Palestinian territories, the Palestinian national dialogue and relations with other Arab countries". Federal News Service. May 29, 2006.
  4. "Calm on Israel-Lebanon front belied by talk of war". Reuters. 2 August 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 March 2022. Cyrchwyd 7 August 2012.
  5. 5.0 5.1 Goodarzi, Jubin (August 2013). "Iran and Syria at the Crossroads: The Fall of the Tehran-Damascus Axis?". Viewpoints (Wilson Center). http://www.wilsoncenter.org/sites/default/files/iran_syria_crossroads_fall_tehran_damascus_axis.pdf. Adalwyd 2015-06-22.
  6. "Iran: We're in 'axis of resistance' with Syria". CBS News. 7 August 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 February 2014. Cyrchwyd 7 August 2012.