Eat Pray Love

Oddi ar Wicipedia
Eat Pray Love
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi23 Medi 2010, 14 Hydref 2010 Edit this on Wikidata
Genrecomedi rhamantaidd, drama-gomedi, ffilm yn seiliedig ar lyfr, ffilm ddrama, ffilm am berson Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithDinas Efrog Newydd, India Edit this on Wikidata
Hyd140 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrRyan Murphy Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrBrad Pitt Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuPlan B Entertainment, Columbia Pictures Edit this on Wikidata
CyfansoddwrDario Marianelli Edit this on Wikidata
DosbarthyddInterCom, Netflix Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolEidaleg, Saesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddRobert Richardson Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.letyourselfgo.com/ Edit this on Wikidata

Roedd Eat Pray Love yn ffilm gomedi-ddrama ramantus fywgraffyddol Americanaidd o 2010 yn serennu Julia Roberts fel Elizabeth Gilbert, yn seiliedig ar gofiant lwyddiannus Eat, Pray, Love. Cafodd ei gyd-ysgrifennu a chyfarwyddo gan Ryan Murphy, ac agorodd yn yr Unol Daleithiau ar y 13 Awst 2010. Cafodd y ffilm adolygiadau cymysg i negyddol gan adolygwyr, ond roedd yn llwyddiant ariannol, gan ennill $204.6 miliwn ledled y byd o chymharu â chyllideb o $60 miliwn i'w gwneud.

Plot[golygu | golygu cod]

Roedd gan Elizabeth Gilbert bopeth oedd  gwraig fodern yn freuddwydio i'w gael – gŵr, tŷ, gyrfa lwyddiannus – ac eto, fel cymaint o bobl eraill, daeth o hyd ei hun ar goll, yn ddryslyd, ac yn chwilio am yr hyn yr oedd hi'n wir eisiau mewn bywyd. Newydd ysgaru ac ar groesffordd bywyd, mae Gilbert yn camu allan o'i pharth cysur, yn peryglu popeth i newid ei bywyd, gan gychwyn ar daith o gwmpas y byd a ddaw yn ymgais am hunan-ddarganfyddiad. Yn ei theithiau, mae'n darganfod y pleser o wir o faeth gan fwyta'n yr Eidal, grym gweddi yn India, ac, yn olaf ac yn annisgwyl, yr heddwch mewnol a chydbwysedd o wir gariad yn Indonesia.

Cast[golygu | golygu cod]

  • Julia Roberts fel Elizabeth "Liz" Gilbert
  • Javier Bardem fel Felipe, dyn busnes o Frasil y mae Gilbert yn syrthio mewn cariad â ar ei thaith.
  • James Franco fel David, y dyn mae Gilbert yn cael perthynas dwys â tra bod hi'n cwblhau ei hysgariad.
  • Richard Jenkins fel Richard, yn dyn o Texas  daw Liz yn ffrindiau gydag yn ei hamser yn yr ashram yn India.
  • Viola Davis fel Delia Shiraz, ffrind gorau Gilbert. 
  • Billy Crudup fel Steven, cyn-ŵr Gilbert.
  • Sophie Thompson fel Corella, merch yn y ashram yn India
  • Mike O'malley fel Andy Shiraz, gŵr Delia.
  • Christine Hakim fel Wayan, ffrind gorau Gilbert yn Indonesia.
  • Arlene Tur fel Armenia.
  • Hadi Subiyanto fel Ketut Liyer, ymgynghorydd Gilbert yn Indonesia.
  • Gita Reddy fel Y Guru.
  • Tuva Novotny fel Sofi, ffrind gorau Gilbert o Sweden yn Rhufain.
  • Luca Argentero fel Giovanni, tiwtor Eidaleg Gilbert a testen cariad Sofi.
  • Rushita Singh fel Tulsi, ffrind Liz yn y ashram sydd yn cael priodas wedi ei drefnu.

Cynhyrchu[golygu | golygu cod]

Dechreuwyd ar brif ffotograffiaeth  Eat Pray Love ym mis Awst 2009. Roedd lleoliadau ffilmio yn cynnwys Dinas Efrog Newydd (Unol Daleithiau), Rhufain a Napoli (yr Eidal), Delhi a Pataudi (India), Ubud a Padang-Padang Draeth yn Bali (Indonesia).[1][2]

Bu i arweinwyr Hindwaidd leisio pryder yn ystod y cynhyrchu, ac argymhellwyd ar y defnydd o ymgynghorwyr ysbrydol i sicrhau fod y ffilm yn cyfleu yr adlewyrchiad cywir o fywyd mewn ashram.[3][4] Roedd y naill  Salon.com a'r Y New York Post wedi awgrymu mai Gurumayi Chidvilasananda oedd y guru a ymddangosai'n y ffilm ac yn y llyfr gan Elizabeth Gilbert ar y mae'r ffilm yn seiliedig, er i Gilbert ei hun beidio a chydnabod yr ashram na'r guru yn ôl enw.[5][6]

Chwareir y ddau brif gymeriad Balinëiadd (Ketut Liyer a Wayan)  gan actorion Indonesiaidd Hadi Subiyanto a Christine Hakim.

Trac sain[golygu | golygu cod]

  1. "Flight Attendant" gan Josh Rouse.
  2. "Last Tango In Paris (Suite, Rhan 2)" gan Barbieri Gato.
  3. "Thank You" gan Sly & Family Stone.
  4. "Der Hölle Rache kocht yn meinem Herzen" (gan Mozart I'r Ffliwt Hud) gan Wiener Philharmoniker.
  5. "Heart of Gold" gan Neil Young.
  6. "Kaliyugavaradana" gan U. Srinivas.
  7. "The Long Road" gan Eddie Vedder a Nusrat Fateh Ali Khan[7]
  8. "Harvest Moon" gan Neil Young.
  9. "Samba da Bênção" gan Bebel Gilberto.
  10. "Wave" gan João Gilberto.
  11. "Got to Give It Up, Part 1" gan Marvin Gaye.
  12. "'S Wonderful" gan João Gilberto.
  13. "Better Days" gan Eddie Vedder.
  14. "Attraversiamo" drwy Dario Marianelli.
  15. "Dreams" gan Fleetwood Mac.

Rhyddhau[golygu | golygu cod]

Swyddfa docynnau[golygu | golygu cod]

Bu ymddangosiad cyntaf y ffilm yn ail yn unig tu ôl i The Expendables gyda $23,104,523. Roedd ganddi'r   ymddangosiad uchaf yn y swyddfa docynnau gyda Roberts yn y rôl arweiniol ers America's Secrets yn 2001. Yn ei ddeng niwrnod cyntaf, cynyddodd ei refeniw i gyfanswm o $47.2 miliwn. Roedd y ffilm a oedd mewn cystadleuaeth â Eat Pary Love, The Expendables yn cynnwys yr actor Eric Roberts, sef brawd Julia Roberts, yr hyn a alwodd y swyddfa docynnau'n 'Roberts v Roberts'. Dywed Hollywood.com   " dyw 'sibling rivalry' fyth fel arfer mor gyhoeddus a hyn yn." Fe fu i'r ffilm, a gynhyrchwyd ar gyllideb o $60 miliwn, ennill $80,574,382 yn yr Unol Daleithiau a Chanada a chyfanswm ledled y byd o $204,594,016.

Derbynniad beirniadol[golygu | golygu cod]

Derbynniodd Eat Pray Love adolygiadau cymysg gan adolygwyr. Yn seiliedig ar 193 o adolygiadau a gasglwyd gan Rotten Tomatoes, mae'r ffilm wedi ennill sgôr cymeradwyaeth cyffredinol o 36%.[8] Y farn gyffredinol oedd; "mae'r olygfa'n braf i edrych arno, ac mae Julia Roberts yn cyn ddisglaered ag erioed, ond heb bwysau ysbrydoledig ac emosiynnol y llyfr a'i ysbrydolodd y tu cefn iddo, mae Eat Pray Love yn rhy fás i atseinio." Roedd agregau adroddiad arall, gan Metacritic, wedi cyfrifo sgôr cyfartaledd o 50 yn seiliedig ar 39 o adolygiadau.[9]

Rhoddodd Wesley Morris o'r Boston Globe i'r ffilm 3 seren allan o 4 gan ysgrifennu "...ydy hi'n ffilm gomedi ramantus? Ydy hi'n 'chick flick'? Mae hyn yn wirion, gan nad yw, mewn gwirionedd, yn y naill na'r llall. Yn  syml mae'n ffilm Julia Roberts, yn aml yn un hyfryd."[10] Bu'r adolygydd ffilmiau o'r San Francisco Chronicle,  Mick LaSalle ar y cyfan yn gadarnhaol wrth adolygu'r ffilm ac fu'n canmol cyfeiriad "sensitif a chwaethus" Murphy gan ei fod yn "dod o hyd i ffordd i egluro ac ymhelaethu meddyliau ac emosiynau Gilbert, a oedd yn ganolog i'r stori".[11]

Ymddangosodd adolygiadau negyddol yn y The Chicago Reader, lle bu i Andrea Gronvall adrodd fel fu'r ffilm fod yn "ass-numbingly wrong",[12] â'r Rolling Stone, lle bu i Peter Travers gyfaddef fod gwylio'r ffilm yr un fath â "fod yn gaeth hefo person breintiedig a wnaeth ddim rhoi'r gorau i gwyno a chwyno."[13] Rhoddodd wefan ddigrifwch Something Awful  adolygiad frathog. Amlygwyd Martin R. "Vargo" Schneider nifer o weddau'r ffilm a gysidrodd yn hollol afrealaidd.[14] Yn ôl y golofnwraig gwleidyddol Maureen Dowd  yn Hydref 2010 roedd y film yn "lol bogailsyllol".[15]

Rhestrwyd y ffilm yn y 4ydd gwaethaf gan yr adolygydd o'r BBC, Mark Kermode, o'i restr o Ffilmiau Gwaethaf y Flwyddyn, gan ddweud: "Eat Pray Love... chwydfa. Ffilm gyda'r neges o ddysgu i garu eich hun yw'r cariad gorau un, er rydw i'n meddwl fod y bobl a wnaeth y ffilm yn caru eu hunain braidd ormod."[16]

Travers, Peter (2010-08-12). "Eat Pray Love News and Reviews". Rolling Stone. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-01. Cyrchwyd 2018-08-08. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)

Ysgrifennodd adolygydd The Huffington Post,  Jenna Busch:

Eat Pray Love is ultimately charming and inspirational. Though it doesn't have quite the impact of the book, it will likely leave you pondering your life choices and forgiving your flaws. It will certainly have you forgiving the few flaws in the film. The performances are just too fantastic, the vistas too lovely to pay too much attention to anything else.[17]

Dowd, Maureen (October 20, 2010). "Making Ignorance Chic". The New York Times. Cyrchwyd 2010-10-21.

Derbyniodd y ffilm adolygiadau negyddol yn gyffredinol yn y wasg Eidalaidd.[18][19][20]

Rhedwyd 72 awr ddi-dôr o raglennu'n gwerthu cynnyrch Eat Pray Love  ar yr Home Shopping Network o gwmpas adeg y rhyddawyd y ffilm.  Daeth y penderfyniad i farchnata'r fath amrywiaeth eang o gynhyrchion,  - a phrin iawn oedd y rhai a oedd mewn gwirionedd yn ymddangos yn y ffilm, o dan feirniadaeth gan y Philadelphia Inquirer, y Y Washington Post ac yn The Huffington Post.[21] Creuwyd tros 400 o nwyddau'n uniongyrchol gysylltiol â'r ffilm.[22] Roedd cynhyrchion yn cynnwys tlysau, ar themáu'r ffilm sent, te,[23] periannau gelato,  mainc Indonesiaidd o faint mwy na'r arfer,[24] gleiniau gweddi, a chysgod ffenestr bambŵ.[25] Agorwyd adran wedi ei neilltuo'n gyfan ym mhob un o siopau cwmni World Market ar gyfer gwerthu nwyddau ynghlwm â'r ffilm.

Marchnata[golygu | golygu cod]

Mae marchnatwyr ar gyfer y ffilm wedi creu dros 400 o nwyddau sydd yng nghlwm â'r ffilm. Mae'r  cynhyrchion hyn yn cynnwys gemwaith ar themau Eat Pray Love, sent, te, peiriannau gelato, yn fwy nag arfer Indonesian main Indonesiaidd o faint mwy na'r arfer, gleiniau gweddi, a chysgod  ffenestr bambŵ. Agorwyd adman wedi ei neilltuo'n gyfan ym mhob un o siopau World Market  ar gyfer nwyddau ynghlwm â'r ffilm.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. News for Eat, Pray, Love Retrieved on Awst 23, 2009
  2. Tatiana Siegel (2009-04-14). "Jenkins set for 'Eat, Pray, Love'". Variety. Cyrchwyd 2009-08-29.
  3. Eat Pray Love-No Shooting In Original Ashram Archifwyd 2010-07-17 yn y Peiriant Wayback. Retrieved Mai 10, 2010
  4. ‘Eat Pray Love’ Julia Roberts Movie Worries Hindus Archifwyd 2018-08-12 yn y Peiriant Wayback. Retrieved Mai 10, 2010
  5. Shah, Riddhi. The "Eat, Pray, Love" guru's troubling past." Salon.com, Awst 14, 2010. Retrieved Tachwedd 22, 2011
  6. Stewart, Sara. "Eat pray zilch." Archifwyd 2011-11-13 yn y Peiriant Wayback. The New York Post, 2010-08-10.
  7. "Eddie Vedder with Nusrat Fateh Ali Khan: The Long Road". Review. Basement Songs. Cyrchwyd March 10, 2012.
  8. "Eat Pray Love Movie Reviews, Pictures". Rotten Tomatoes. Flixster. Cyrchwyd 2010-08-14. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  9. "Eat Pray Love Reviews, Ratings, Credits, and More at Metacritic". Metacritic. CBS Interactive. Cyrchwyd 2010-08-14. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  10. Wesley, Morris (2010-08-13). "Eat Pray Love movie review". The Boston Globe. The New York Times Company. Cyrchwyd 2010-08-14. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  11. LaSalle, Mike (2010-08-13). "Movie review: "Eat Pray Love"". San Francisco Chronicle. Hearst Corporation. Cyrchwyd 2010-08-14. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  12. Gronvall, Andrea. "Eat Pray Love Showtimes & Reviews". Chicago Reader. Creative Loafing Media. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  13. Travers, Peter (2010-08-12). "Eat Pray Love News and Reviews". Rolling Stone. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-01. Cyrchwyd 2018-08-08. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  14. "Something Awful – The Expendables; Scott Pilgrim vs. The World; Eat Pray Love".
  15. Dowd, Maureen (October 20, 2010). "Making Ignorance Chic". The New York Times. Cyrchwyd 2010-10-21.
  16. Kermode Uncut: My Worst Five Films of 2010 ar YouTube. Retrieved Dec 30th 2010.
  17. Busch, Jenna (2010-08-13). "Jenna Busch: Eat Pray Love Review". HuffingtonPost.com, Inc. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  18. Tornabuoni, Lietta. "Lietta Tornabuoni: Eat Pray Love Review". L'Espresso. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-21. Cyrchwyd 2018-08-08. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  19. Ferzetti, Fabio. "Fabio Ferzetti: Eat Pray Love Review". Il Messaggero. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-21. Cyrchwyd 2018-08-08. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  20. Romani, Cinzia. "Cinzia Romani: Eat Pray Love Review". Il Giornale. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-02. Cyrchwyd 2018-08-08. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  21. The Huffington Post article: "Shop, Buy, Repeat."
  22. ABC News article: "Eat, Pray, Love – and Spend."
  23. Forbes article: "The Eat Pray Love Industry."
  24. Washington Post article: "'Eat Pray Love': Parsing our feelings about all those product tie-ins."
  25. World Market website: "Eat Pray Love merchandise[dolen marw].