Eanodat
Jump to navigation
Jump to search
Cymuned yng ngogledd y Ffindir yw Eanodat (Ffinneg: Enontekiö) sydd wedi'i leoli yn rhan Ffindir o'r Lapdir, rhwng ffiniau Sweden a Norwy. Mae dwy iaith swyddogol yn y gymuned, Sameg gogleddol a Ffinneg.
Roedd 1,868 o drigolion yn byw yn y gymuned yn 2015 ac roedd 10,9% o'r trigolion yn siarad Sameg fel eu mamiaith yn 2012.[1] Mae arwynebedd y dref oddeutu 8,400 cilometr sg (3,200 millt sg).