Dyrnod Branwen
| Enghraifft o: | drama lwyfan Gymraeg |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1992 |
| Awdur | Gareth Miles |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Cysylltir gyda | Hwyl a Fflag |
| Dynodwyr | |
Drama lwyfan Gymraeg gan Gareth Miles yw Dyrnod Branwen a ddatblygwyd ac a lwyfannwyd gan Hwyl a Fflag yn ystod 1992 a 1993. Darlunio canlyniadau anffodus priodas Cymraes a Gweriniaethwr o Wyddel o Felffast y mae'r ddrama gydag adleisiau amlwg o ail gainc y Mabinogi.
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Y bwriad, yn ôl y dramodydd, yw dangos nad oes neb yn gweithredu mewn gwagle. "Mae'r amgylchiadau'n gwasgu ar y cymeriadau," eglurodd Miles ym 1993, "Mae ymddygiad Math brawd Branwen, yn cael ei gyflyrru wrth iddo ymuno â'r Fyddin Brydeinig. Mae Branwen yn ysgogi ei gŵr, Kevin, i weithredu mewn modd fydd yn golygu bod milwr o Gymro'n cael ei saethu, ac mae cadwyn o ddigwyddiadau'n deillio o hynny..."[1]
"Mae'r ddrama'n adlewyrchu cymhlethdod sefyllfa'r Cymry mewn perthynas â'r Iwerddon a gwelwn yr angen i ddeall a derbyn y gorffennol ac i ddysgu oddi wrthi tra'n cynnal cred yn y posibilrwydd am faddeuant."[2]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Drama a welwyd gyntaf yng Ngŵyl Codi'r Hwyl Theatr Hwyl a Fflag ym 1992 oedd hon, wedi'i "hail a'i thrydydd-ysgrifennu" yn ôl y dramodydd.[1]
"Sefyllfa ddigyfnewid y Chwe Sir yng Ngogledd yr Iwerddon yw prif gefndir y ddrama" yn ôl cyfarwyddwr y cynhyrchiad theatr, Wyn Williams, "a gwyddom fod bechgyn ifanc o Gymru yn dal i wynebu peryglon rhyfel yn ddyddiol - rhyfel sy'n digwydd o fewn y wladwriaeth Brydeinig", nododd yn rhaglen y cynhyrchiad ym 1993.[2]
Addaswyd y ddrama yn ffilm ar gyfer S4C o dan yr enw Branwen.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Kevin McCarthy
- Branwen Roberts
- Llion T. Roberts
- Peredur Roberts
- Mathonwy Roberts
- Huw Arwel Evans
- Swyddog
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama'n wreiddiol yng Ngŵyl flynyddol Hwyl a Fflag, Codi'r Hwyl ym 1992. Wedi datblygu pellach, ail-lwyfannwyd y ddrama y flwyddyn ganlynol o dan gyfarwyddyd Wyn Williams; cynllunydd Christopher Green; goleuo Bobi Jones; sain Lloyd Elis; cast:[2]
- Kevin McCarthy - Idris Morris Jones
- Branwen Roberts - Nia WIlliams
- Llion T. Roberts - Grey Evans
- Peredur Roberts - Dafydd Dafis
- Mathonwy Roberts - Rhys Bleddyn
- Huw Arwel Evans /Swyddog - Huw Llŷr