Dylanwadwr
| Enghraifft o: | galwedigaeth |
|---|---|
| Math | seleb rhyngrwyd, marchnatwr |
| Dynodwyr | |

Dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol (Saesneg: social media influencer)[2][3] a elwir hefyd yn ddylanwadwr ar-lein neu'n symlach yn ddylanwadwr[4] (influencer)[5] yw'r gair am unrhyw berson sy'n creu presenoldeb ar-lein drwy ei sylwebaeth, lluniau neu fideos, i gynyddu apêl bersonol a hyrwyddo diddordeb neu farn arbennig trwy'r cyfryngau cymdeithasol. Yr hyn sy'n hynod yw eu bod yn adnabyddus am eu gwaith hyrwyddo yn hytrach nag enwogrwydd a 'enillwyd' mewn maes arall yn gyntaf, hynny yw, nid yw dylanwadwr fel y cyfryw yn athletwr llwyddiannus, gwleidydd nodedig, academydd cyhoeddedig, dylunydd ffasiwn dylanwadol, neu'n gogydd nodedig.[6] Fe all person sydd wedi gwneud eu marc mewn maes penodol megis chwaraeon neu academia, ddod, maes o law, yn ddylanwadwr hefyd drwy eu defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol.
Efallai bod rhai dylanwadwyr yn gysylltiedig ag apiau cyfryngau cymdeithasol penodol fel TikTok,[7] Instagram,[8] LinkedIn neu Pinterest.[9]
O 2023 ymlaen, Instagram yw'r ap cyfryngau cymdeithasol y mae cwmnïau'n gwario'r mwyaf o arian hysbysebu arno wrth farchnata gyda dylanwadwyr.[10] Fodd bynnag, gall dylanwadwyr gael effaith ar unrhyw rwydwaith cyfryngau cymdeithasol.
Dylanwadwr neu Crëwr Cynnwys Ar-lein
[golygu | golygu cod]Daeth y term 'dylanwadwr' i fod yn air a therm o sarhad neu ddirmyg gyda'r awgrym o berson ffuantus yn gwneud fawr ddim ond hyrwyddo cynnyrch neu ffordd o fyw am arian ac enwogrwydd heb unrhyw waith ymchwil. Fel adwaith bydd rhai'n arddel y term crëwr cynnwys ar-lein (on-line content creator). Yn 2019 esboniodd Lily Pebbles, oedd â chyrhaeddiad o 1.27 miliwn o bobl ar draws pob llwyfan cyfryngau cymdeithasol, bod yn well ganddi gael ei galw'n 'crëwr cynnwys ar-lein' gan ei fod yn disgrifio'n gliriach y gwaith a'r amser mae'n rhoi fewn i'w phostiadau.[11]
Mathau o ddylanwadwyr
[golygu | golygu cod]
Arddull
[golygu | golygu cod]Gellir gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o ddylanwadwyr ar rwydweithiau cymdeithasol:
- Y Rhwydweithiwr: person busnes mentrus sy'n ceisio hyrwyddo cynnyrch, gan ei gyfuno â ffordd o fyw, heb angen am ymroi i'r gweithgaredd hwn llawn amser.
- Llywiwr barn: dylanwadwr sy'n cyfeirio at gynnyrch mewn sector penodol y mae'n arbenigo ynddo, a hynny'n gadarnhaol. Gall y dylanwadwyr hyn ddod yn llysgenhadon ar gyfer y brand maen nhw'n eirioli drosto.
- Trendsetter neu Darganfyddwr: maen nhw'n gyfrifol am sefydlu pa dueddiadau ynlgŷn â pha ddillad fydd yn cael eu gwisgo y tymor nesaf, a gallant hyd yn oed gael pŵer penderfynu penodol dros ddylunwyr ffasiwn.
- Gohebydd neu Gyfranogwr: rhai sy'n hysbysu eu dilynwyr yn gyson am holl newyddion brand neu gynnyrch.
Maint cynulleidfa
[golygu | golygu cod]Ceir graddfeydd ar faint cynulleidfa neu ddilynwyr dylanwadwyr. Yn aml, caiff dylanwadwyr eu grwpio yn seiliedig ar faint o ddilynwyr sydd ganddyn nhw. Ond nid nifer y dilynwyr yw popeth — mae hefyd yn ymwneud ag ymgysylltiad, niche, a hygrededd. Mae'r niferoedd hyn yn seiledig ar y byd Saesneg ei iaith:[9]
- Nano-ddylanwadwr - (1,000–10,000 o ddilynwyr). Cryfderau: Targedu niche, cysylltiadau dilys, a chyllidebau brand bach. Manteision: Cynulleidfa ymgysylltiedig iawn, lleisiau dibynadwy mewn cymunedau clos.
- Micro-ddylanwadwyr - (10,000–100,000 o ddilynwyr). Cryfderau: Ymgyrchoedd wedi'u targedu gydag ymgysylltiad cryf. Manteision: Mwy o gyrhaeddiad na nano, yn dal yn berthnasol iawn ac yn gost-effeithiol.
- Dylanwadwyr Haen Ganol - (100,000–500,000 o ddilynwyr). Cryfderau: Ymgyrchoedd sy'n chwilio am gydbwysedd rhwng cyrhaeddiad a dilysrwydd. Manteision: Yn dal i gael eu hystyried yn "real" gan eu dilynwyr, gyda gwelededd amlwg.
- Dylanwadwyr Macro - (100,000–1 miliwn o ddilynwyr). Cryfderau: Brandiau sy'n barod i ehangu a chyrraedd cynulleidfa ehangach. Manteision: Cyrhaeddiad ac ymgysylltiad cytbwys; gwelededd cadarn.
- Mega-Ddylanwadwyr - (1 miliwn+ o ddilynwyr). Cryfderau: Amlygrwydd enfawr ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth brand. Manteision: Cyrhaeddiad enfawr; yn ddelfrydol ar gyfer lansiadau byd-eang neu welededd mawr.
Dylanwadwyr Deallusrwydd Artiffisial
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â dylanwadwyr dynol, mae yna bellach ddylanwadwyr sy'n greadigaeth teclynnau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (GenAI).
Mae dylanwadwyr a gynhyrchir gan declynnau o'r fath yn newid y gêm drwy gynnig dull marchnata dylanwadwyr cwbl reoledig, sy'n seiliedig ar ddata, i frandiau. Wedi'u pweru gan ddysgu peirianyddol uwch, mae'r personoliaethau digidol hyn yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd mewn ffordd hyper-bersonol, gan gynhyrchu cynnwys wedi'i deilwra i ddewisiadau unigol. Gallant weithio o gwmpas y cloc, graddio rhyngweithiadau yn fyd-eang, a pheidio byth â wynebu risgiau dadlau dynol.[angen ffynhonnell]
Er bod dylanwadwyr o'r fath yn cynnig manteision fel hyblygrwydd creadigol a chreu cynnwys effeithlon, gall eu diffyg dilysrwydd dynol fod yn her i frandiau sy'n anelu at feithrin cysylltiadau personol dwfn â chynulleidfaoedd. Fodd bynnag, i frandiau sy'n edrych i arloesi ac aros ar flaen y gad, mae dylanwadwyr deallusrwydd artiffisial yn darparu cyfle cyffrous i brofi dyfodol marchnata.[9]
Dylanwadwyr Cymreig
[golygu | golygu cod]
Gan fod y farchnad Gymreig mor fychan, prin yw'r dylanwadwyr penodol Gymreig.[angen ffynhonnell] Serch hynny, ceir unigolion sydd â dilynwyr sylweddol o fewn Cymru sy'n hyrwyddo a thrafod materion Cymreig ym maes bwyd a bwytai, chwaraeon, cadw'n heini, teithio, a gwleidyddiaeth. Ymysg y rhai sy'n rhannu cynnwys gan fwyaf yn Saesneg ond gydag elfennau o'r iaith Gymraeg a chyfraniadau yn y Gymraeg, mae:
- Elen Wyn - @ElenWyn_ - crëwr o'r Gogledd sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd ac ymddangosodd ar gyfres 'The Traitors'. Mae'n gerddor ac yn trafod bywyd, cerddoriaeth a'r Gymraeg yn y ddwy iaith. Mae hefyd wedi hyrwyddo pethau fel teithio ar Trafnidiaeth Cymru.[12]
- Bethany Davies - @bfdavies - crëwr o Lanelli sy'n dysgu ac yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg ar TikTok ac yn rhannu negeseuon a hyrwyddo llefydd bwyta a bywyd yn achlysurol.[13]
- Gwion Ellis - @GwiEllis - bocsiwr amatur, rhedwr, pencampwr byd DEKA o ardal y Bala. Postio yn Saesneg gan fwyaf ond hefyd Cymraeg ar heriau chwaraeon a hefyd peth hyrwyddo cynnyrch.[1]
- Llio Angharad - @LlioAgharad - cyfraniadau ar fwyd, bwyta allan, teithio ardal Caerdydd a Chymru.[14]
- Cerys - @CerysDysgu - cyfraniadau ar wleidyddiaeth Cymru (pleidiol i Blaid Cymru), y Gymraeg a dysgu Cymraeg, bywyd, ac iechyd meddwl o ardal Bro Morgannwg.
- Stephen Owen Rule - @DoctorCymraeg - athro Cymraeg o Sir y Fflint sy'n rhannu cynnwys ar ddysgu'r iaith ac agweddau ar hanes a chymdeithaseg y Gymraeg yn Saesneg yn bennaf.
- Josef Roberts - @Tirlun - eglurhad o enwau llefydd yng Nghymru, yn Saesneg yn bennaf.[15] Bu i Joe gydweithio â Llwybr Arfordir Ceredigion i esbonio enwau llefydd ar hyd arfordir de Ceredigion yn haf 2026.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 "Top 20 Micro Influencers in Wales (Under 25k Followers) (Aug 2026)". Modash. 2026. Cyrchwyd 18 Awst 2026.
- ↑ Reilly, Liam (26 Tachwedd 2024). "Majority of social media influencers don't verify information before sharing it, study finds". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Tachwedd 2024. Cyrchwyd 10 Ionawr 2025.
- ↑ Tolentino, Daysia (18 Tachwedd 2024). "1 in 5 U.S. adults get their news from social media influencers, according to Pew report". NBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Tachwedd 2024. Cyrchwyd 10 Ionawr 2025.
- ↑ "Mae ymchwil yn dangos bod dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn cynyddu gwenwyndra a phŵer camwybodaeth". Prifysgol Caerdydd. 12 Mawrth 2026.
- ↑ Lai, Stephanie (2 Tachwedd 2022). "Campaigns Pay Influencers to Carry Their Messages, Skirting Political Ad Rules". New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Tachwedd 2022. Cyrchwyd 10 Ionawr 2025.
- ↑ Joshi, Yatish; Lim, Weng Marc; Jagani, Khyati; Kumar, Satish (25 Mehefin 2023). "Social media influencer marketing: foundations, trends, and ways forward". Electronic Commerce Research 25 (2): 1199–1253. doi:10.1007/s10660-023-09719-z. ISSN 1389-5753. https://link.springer.com/content/pdf/10.1007/s10660-023-09719-z.pdf.
- ↑ Ohlheiser, A.W. (6 Awst 2020). "A guide to the TikTokish apps that want to be the next TikTok". MIT Technology Review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2024. Cyrchwyd 3 Mawrth 2024.
- ↑ "Video captures men spraying Instagram influencer's dog during alleged robbery". CNN. 11 Mehefin 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2024. Cyrchwyd 3 Mawrth 2024.
- 1 2 3 "Types of Influencers". Metricool. 30 Ionawr 2026.
- ↑ Lepitak, Stephen (17 Ebrill 2023). "Instagram Remains a Priority Platform for Marketers. Here's Why". Ad Week. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2024. Cyrchwyd 3 Mawrth 2024.
- ↑ "How 'influencer' became a dirty word". BBC News. 22 Chwefror 2019.
- ↑ "About". Gwefan Elen Wyn. Cyrchwyd 27 Awst 2026.
- ↑ "TikTok: Welsh speakers use social media to teach others". BBC Wales. 28 Rhagfyr 2022.
- ↑ "Cardiff Influencers (City in Wales)". Feedspot. 2026. Cyrchwyd 18 Awst 2026.
- ↑ "Tirlun: The new Welsh speaker inspiring others with extraordinary insights into Welsh place names". Nation.Cymru. 22 Mawrth 2025.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Problemau a phryderon ar-lein: dylanwadwyr ar-lein Erthygl gan Hwb ar wefan Llywodraeth Cymru, 2023