Dyddiaduron teulu Thomas Jones, Cwningar, Niwbwrch
Casgliad o ddyddiaduron wedi cael eu hysgrifennu yn bennaf gan Thomas Jones yn disgrifio ei waith bob dydd ar ei dyddyn, Cwningar, Niwbwrch. Ei wraig oedd Cadi Penras. Y prif ddyddiadurwr oedd Thomas Jones, Cwningar, ond cafodd rhai o'r dyddiaduron diweddaraf eu hysgrifennu gan ei fab Richard. Mae'r dyddiadur hwn yn un o nifer o ddyddiaduron amgylcheddol Cymreig.
Mae cofnodion ffenolegol, gwaith amaethyddol ayb. a chofnodion yn ymwneud â’r tywydd i gyd i’w gweld yma [1] yn y Tywyddiadur, gwefan Llên Natur.
Hanes y teulu[golygu | golygu cod]
Aelodau o'r teulu[golygu | golygu cod]
- Thomas Jones (y prif ddyddiadurwr)
- Richard Jones (mab TJ, awdur y dyddiaduron diweddarach, weithiau heb fod yn glir p'un ai TJ ynteu RJ a'u hysgrifennodd).
Plant[golygu | golygu cod]
Gwaith pob dydd[golygu | golygu cod]
Tyddynwr oedd Thomas Jones ond roedd hefyd yn trapio cwningod a'i gwerthu yng Nghaernarfon, roedd y cwningod yn dod a llawer o incwm iddo.
Dyddiaduron[golygu | golygu cod]
Ym mysg dyddiaduron teulu Thomas Jones gwelwn wyth dyddiadur wedi eu hysgrifennu rhwng 1870 a 1881 (1872, 1876, 1877 ac 1879 ar goll), hefyd, mae un llyfryn yn cofnodi dyddiadau paru’r hychod â’r baeddod, a’r buchod (gan enwi pob un) â’r teirw rhwng y blynyddoedd 1882 a 1887. Ni ellir dweud â phendantrwydd mai Thomas Jones yw awdur pob un, ond mae’r llaw ysgrifen yn gymharol debyg ynddynt i gyd.
Llyfrau Cownts[golygu | golygu cod]
Yn ogystal â’r dyddiaduron mae wyth o lyfrau “cownt” yn dyddio rhwng 1842 a 1933. Mae'r llyfrau hyn yn dangos economi Cwningar mewn llawysgrifen gwreiddiol.
Maent yn cofnodi:
- cyfrifon cwnhingod
- cyfrifon rhandiroedd
- morhesg cyfrifon
- gwerthu matiau
- cyfrifon cyflogau’r gweithwyr
- cyfrifon crydd
- Enwau a rhif y rhai sydd wedi ymuno ar Gymdeithasfa Ddirwestol yn Niwbwrch…512 o enwau
- enwau’r ffermydd, eu maint a swm y rhent rhestrau prynu a gwerthu nwyddau, a’u prisiau
- Cyfrifon y troliau’n cario cerrig
- Cyfrif y ‘clyb’
- ac efallai cyfrif ymgymerwr angladdau.
Ffynonellau[golygu | golygu cod]
Cefndir Dearegol[golygu | golygu cod]
Fe leolir Gwningar yn Niwbwrch ar Ynys Mon, rhwng y tywyn ar tir amaethyddol gwerthfawr oedd ei dyddyn, nid oes dim amheuaeth fod lleoliad ei dyddyn yn cael ei adlewyrchu'n gryf yn ei ffordd o fyw draddodiadol ef.