Dyddiadur D.O. Jones, Tŷ Uchaf, Padog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Dyddiadur D.O. Jones, Ty Uchaf, Padog)
Neidio i: llywio, chwilio

Hanes dyddiadur a bywyd y ffermwr, y gwladwr a'r bardd David Owen Jones ("DO") o Gwm Einion ger Pentrefoelas sydd yma. Mae ei ddyddiadur yn dechrau yn 1934 ac yn parhau yn ddi-dor hyd ei farwolaeth yn 1999, er nad yw'r cynnwys o ganol y 1950au ymlaen wedi ei ruddhau gan y teulu, na'i drawsgrifio ar adeg paratoi'r dudalen hon (Awst 2017). Mae'r ddogfen wreiddiol yn eiddo i'r teulu ac ar wahan i ambell gip gafwyd arni, dibynnir ar drawsgrifiad detholus merch DO, Gwawr Angharad Jones (GAJ), am y dystiolaeth sydd yma. Dylid cadw mewn cof bod canllawiau golygyddol a ddewisodd GAJ yn ffafrio amlygu straeon diddorol y fro dros waith amaethyddol beunyddiol tra chyfarwydd i'r gynulleidfa roedd ganddi mewn golwg, sef darllenwyr papur bro Yr Odyn.

Tynnir yn drwm yma ar ddwy ffynhonnell sydd heb eu cyhoeddi: yn gyntaf, araith angladdol DO gan gymydog a chyfaill, a ryddhawyd gan y teulu i'r diben hwn, ac yn ail, traethawd hir y botanegydd Lari Parc. Nod Lari oedd ceisio crynhoi cynnwys y dyddiaduron a oedd ar gael iddo, sef y rhai rhwng 1939 a 1954 tra'n canolbwyntio ar reolaeth "Y Wernydd", cyfres o gaeau gwlyb sydd yn rhedeg gyda'r afon.

Y Dyddiadur: trosolwg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r dyddiadur yn cynnwys bywyd y fferm, bywyd cymdeithasol, y tywydd, y byd mawr a bywyd personol y teulu. Ag eithrio'r elfen olaf, trawsgrifiwyd detholion o'r dyddiaduron fesul mis i'w gyhoeddi ym Mhapur Bro Yr Odyn gan GAJ. Bu'n garedig iawn yn rhannu'r trawsgrifiadau, fel yr ymddangosasant yn y papur bro, gyda phrosiect Llên Natur i'w gyhoeddi ar lein yn y Tywyddiadur[angen ffynhonnell]. Nid yw'r trawsgrifiad ond ar ei hanner eto ond mae'r wybodaeth sydd eisoes ar gael yn swmp ac yn werthfawr.

Seilir hanes rheolaeth y Wernydd ar gofnodion penodol o ddyddiadur David O. Jones. Cadwai gofnodion am weithgareddau'r ffarm, y tywydd a digwyddiadadau o ddydd i ddydd. Cofnodai ddigwyddiadau yn ei fro a'r newyddion o du hwnt yn ystod yr ail rhyfel byd. Rhed y cofnodion o 1934 hyd at 2000, pan fu farw DO Jones. Clytiog yw'r wybodaeth sydd ar gael i ni hyd yma: nid oes cyfeiriad gennym at y Wernydd tan 1939 ac ni wyddom beth a hepgorwyd yn y broses golygu cynradd. Ni thrawsgrifwyd unrhyw gofnodion ar ôl i 1954 ond mae'r gwaith fel y'i disgrifwyd uchod yn parhau.

Mae'n debyg i fferm Ty Uchaf dderbyn sylw ehangach pan gyhoeddwyd rhannau o ddyddiaduron DO Jones ym mhapur bro Llanrwst a'r cylch, Yr Odyn. Yn ogystal, cafodd dyddiaduron DO sylw metereologwyr yng nghylchgrawn dysgedig Weather[2]. Gobeithir y bydd yn bosibl uno sylwadau tywydd y dyddiaduriwr efo basau data eraill sydd yn ymwneud a'r hinsawdd er mwyn calibreiddio a monitro newidiadau yn yr hinsawdd lleol.

Bwrdwn golygiad GAJ o ddyddiaduron ei thad oedd cyfnod y rhyfel, a digwyddiadau unigryw o fyw trwy'r cyfnod wedi eu hanelu at gynulleidfa papur bro Yr Odyn. Felly, yng geiriau'r golygydd, a merch DO Jones:

'Gan fod dyddiadur fy nhad yn cynnwys llawer o hanes a newyddion eang yr [ail] Rhyfel [byd] yr wyf wedi gorfod tynnu llawer o'i waith dyddiol amaethyddol i ffwrdd.'

Gan na olygwyd y dyddiaduron â phwyslais ar weithgareddau'r ffarm, nid oes cofnod cyfan, fe dybir, o bob gweithgaredd ar diroedd Ty Uchaf. Er enghraifft, yn ystod yr wythnos 14 -17 Awst 1940 mae DO Jones yn cyfeirio at 'tanu ystodiau gwair yn y Wernydd hefo picfforch", er nad oes cyfeiriad at dorri'r gwair o gwbl y flwyddyn honno yn y trawsgrifiad sydd ar gael. Efallai na chofnododd DO ei fod wedi torri gwair y flwyddyn honno, neu, yn hytrach, golygwyd allan unrhyw gyfeiriad ato er byrdra. Canlyniad hyn efallai yw bylchau rhwng rhai cofnodion. Gobeithir i fwy o wybodaeth gael ei ryddhau gyda threigl y blynyddoedd.

Arwyddocad Y Wernydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Arferiad naturiol y teulu yw galw'r caeau hyn yn "Y Wernydd" yn hytrach nag "Y Gwernydd" mwy gramadegol cywir. Dilynir yma arferiad y teulu.

Mae'r pedwar cae sydd yn rhedeg cyfochrog a'r afon Eidda yn destun diddordeb heddiw fel safle o ddiddordeb cadwriaethol arbennig, ac erbyn hyn yn cael ey trin felly gan y perchen presennol John Jones (mab y dyddiadurwr). Cofnododd DO lawer iawn o'r hyn a wnaeth yn amaethyddol ar y caeauhyn, fel y croniclodd weithgareddau tebyg ar y caeau yng ngweddill y fferm. Yr hyn sydd yn arbennig yma yw'r cyfle a gawn, diolch i fanylder y dyddiadurwr, i weld pa waith a arweiniodd at y cyfoeth o blanhigion sydd erbyn hyn wedi cael ei gydnabod dan ddeddf gwlad fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Tybed a yw'r Safle hwn yn unigryw ymhlith y cyfryw safleoedd yng Nghymru yn rhinwedd y cronicl o weithgareddau sydd ar gof a chadw, yn olrhain ei hanes dros gyfran helaeth yr 20g?

Y Dyn[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae llawer o'r wybodaeth am fywyd DO yn dibynnu'n helaeth ar deyrnged angladdol i "frenin Cwm Eidda" a ddarllenwyd gan gyfaill y teulu, Hywel Tai Duon, ddydd ei angladd yn 1999.

Bywyd

"Ganed D.O. yma yn 'Sbyty [pentref Ysbyty Ifan] yn 'Rafon Bach ym mis Mai 1920. Symud wedyn i Ty'n Lon ac yn unarddeg oed troi am Gwm Eidda i fferm Bryn Ddraenen. Pan yn ddeunaw oed, croesi'r afon Eidda i Ty Uchaf ac yno treuliodd D.O. ei fywyd yn amaethu nes daeth yr alwad i groesi afon arall y dyddiau diwethaf yma."

Y Bardd

"Fel bardd yn anad dim arall y cofiwn i am D.O. Does 'na ddim modd cyfri sawl pennill ac englyn a gyfansoddodd D.O. i gyfarch hwn ac arall ar achlysuron arbennig. Deuai'r ceisiadau yn gyson ac ni chlywyd am D.O. yn gwrthod neb. Byddai troeon trwstan yn ei gynhyrfu fel bardd ac mae'r "Odyn" dros y blynyddoedd yn frith o'i waith. Dileit mawr arall gan D.O. oedd bod yn aelod o dim Ymryson y Beirdd Nant Conwy a enillodd dlws barddas ddwy waith, yn Eisteddfod Wrecsam 1977 a Chaernarfon 1979. Nhw hefyd gipiodd y gyfres gyntaf o 'Dalwrn y Beirdd' ar Radio Cymru yn 1980. Er ei lwyddiant ar lefel genedlaethol roedd D.O. yn gefnogwr selog i eisteddfodau bach y wlad gyda chaneuon cocos, limrigau, telynegion ac englynion dirifedi. 'Roedd ganddo wastad ffugenwau gwreiddiol o "Ddoctor Wilcox" i "Fendigeidfran". Bu'n ysgrifennydd Eisteddfod 'Sbyty am flynyddoedd a gwyddom y byddai wrth ei fodd yn gweld yr eisteddfod yn dal ati yn y mileniwm newydd. Urddwyd D.O. a Choban Werdd yr Orsedd yn 1959 a'r Goban Las yn 1960. Gwisgodd ei Goban Las a balchder adeg cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1989. Mae bardd, wrth gwrs, yn cael rhyw ryddid gwahanol i ni feidrolion. Tra byddem ni'n cysgu yn yr oriau man byddai D.O. yn llosgi'r gannwyll ac efallai yn gorffwyso ar adegau eraill. Rhyddid wedyn i fynd yn sownd hefo'r Bol Aur yn yr un hen le bob blwyddyn nes bedyddio'r fan y 'twll barddoni'. 'Roedd gan D.O. feddwl y byd o Gapel Padog. Bu'n athro ar y dosbarth hynaf yn yr Ysgol Sul am ddeugain mlynedd. Yn ystod y chwedegau D.O. oedd tacsi Ysgol Sul Cwm Eidda hefo'r 'Yellow Submarine'- Fford Consyl melyn mawr gyda'r rhif VDM 7. Fe gyrhaeddai Padog yn llusgo'r llawr - dau o Bryn Ddraenen, dau o Eidda, chwech o Ty Ucha, dau o Ben y Geulan a thri o Fron Ddu ac os ydi fy syms i'n iawn...llond car golew. Fe aeth y dosbarth hynaf ati i ddarllen y Beibl o glawr i glawr a chymerodd yr orchwyl dros naw mlynedd i'w chwblhau. Deuai'r athro a phaced o 'Roses' i'r darllenwyr bob sul a dyna sut y cawsom ni'r egni i orffen y dasg. Sefydliad arall a oedd yn agos at galon D.O. oedd Neuad Goffa Ysbyty 'ma. Bu'n ysgrifennydd am 43 o flynyddoedd. Ceiswyd dwyn ychydig o berswad ar D.O. i leihau peth o faich y swydd ond ei ateb bob tro fyddai "Mae gweithwyr gorau'r nef wedi marw yn eu gwaith". Ac felly y bu. Fe barhaodd gyda gwaith y Neuadd hyd ddiwedd ei oes. Bu hefyd yn aelod o Gyngor Plwy Eidda am bron i hanner can mlynedd ac am gyfnod ar hen gyngor Nant Conwy."

Y Dyddiadurwr

"Allwn ni ddim son am fywyd DO. heb son am ei ddyddiaduron. Bu'n cadw dyddiadur bob dydd yn ddi-dor ers 1934 - cyfanswm o 65 o flynyddoedd. Cofnodai'n gyntaf ei fywyd bob dydd o gwmpas y fferm, a hefyd gweddill y teulu. Yna byddai'n mynd ati i gofnodi digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol sydd erbyn hyn yn adlewyrchiad o dreigl yr amseroedd yn ystod ei oes. Mae ei ddyddiaduron yn gofnod o'r newid a fu ym myd amaeth o fyd y pladur a'r injan ddyrnu i fyd y byrnau mawr. Mae'r cyfan rhwng cloriau ei ddyddiaduron a phleser i D.O. oedd cael rhannu eu cynnwys ar dudalennau'r 'Odyn' "

Y Rhyfel

"Mae arswyd y rhyfel yn amlwg yn y dyddiaduron nes bod dyn yn amau weithiau oedd hi'n werth i bobl Cwm Eidda godi tatws gan gymaint o fomiau oedd yn disgyn. Mi roedd D.O. yn gofiadur wrth reddf. Gwelodd yn gynnar werth cadw cofnod o ddigwyddiadau megis hanes Pererindodau Capel Padog ers y gyntaf yn 1971. Mae'r holl gofnodion wedi eu cadw'n daclus ac yn drefnus drwy gyfrwng llun a llên yn ei lyfrau twt. Yn ystod y rhyfel roedd D.O. yn aelod o'r 'Home Guard' a tasa Hitler wedi glanio ar gae Bod Ifan 'ma fasa hi ddim yn dda arno fo. Un tro cafodd 'Home Guard' 'Sbyty y newydd fod Almaenwyr wedi parashwtio i lawr ar Benmachno. 'Full alert' wedyn am y Migneint a gorwedd yn un rhes yn y grug wrth Ty Cipar tan i'r wawr dorri a'r barrug yn flanced wen drostynt. Ond 'false alarm' oedd hi diolch byth. Dro arall 'mock invasion' o Fetws y Coed. Wrth i fyddin 'Home Guard' 'Sbyty ddynesu, gwaeddodd rhyw Sais oedd yn cuddio yng ngwrych ei ardd "You'r dead, mate!" Heb yn wybod iddo 'roedd na un o 'Sbyty tu ol iddo yn llechu yn ei batshyn tatws a lefarodd y geiriau anfarwol "You're deader!" Yn ystod y cyfnod yma daeth D.O. yn giamstar ar y 'morse code' yn wir yn un o'r goreuon yn y cyfrwng hwnnw."

Natur

"Fel Cymro ymhyfrydai D.O. ym mynyddoedd ei wlad a phan oedd yn iau fe gerddodd lawer ar fynyddoedd Eryri, ac yn falch o ddweud iddo fod ar ben y Wyddfa o leiaf ddeg gwaith. Ond fedrwch chi ddim caru'ch gwlad heb garu'ch bro eich hun a Chwm Eidda oedd cariad cyntaf D.O. Fo oedd y Brenin a'r Cwm oedd ei deyrnas. Dotiai bob gwanwyn at y ffrwydriad o fywyd gwyllt a lenwai'r cwm.

Ymddiddorai'n arbennig yn y blodau prin yn Wern Ty Ucha'. Sylweddolodd yn gynnar fod tegeiriannau ac ysgall anghyffredin ymysg banadl y Wern ac aeth ati ar ei liwt ei hun i warchod y trysorau yma. Hyn oll cyn bod son am SSSI na mudiadau gwarchod natur. 'Roedd D.O. yn naturiaethwr wrth reddf ac wrth ei fodd yn crwydro'r wernydd. Sylweddolodd D.O. hefyd fod nifer yr adar bach yn raddol ostwng ac mai'r brain tyddyn oedd y gelyn. Cafodd afael ar gratsh brain a mynd a fo i'r cae ar gefn y bol aur. Fe ddaliodd gannoedd o frain hefo'r ddyfais anhygoel yma a gwnaeth fwy na'i ran dros gadwraeth yng nghefn gwlad."

Cymreigtod

Flynyddoedd yn ddiweddarach daeth cyfrwng cyfathrebu arall i'w ddiddori sef y 'CB' neu Radio'r Werin. 'Roedd gan bawb ffug enw ar y tonfeddi ac yn teyrnasu yn y Ty Ucha' roedd "Owain Glyndwr" ei hun sef ffug enw D.O. wrth gwrs. Mae'r ffug enw yma yn dod a ni at elfen bwysig yn ei gymeriad sef ei Gymreictod. 'Roedd D.O. yn Gymro cadarn a wnaeth ddiwmod da o waith dros Gymru. 'Roedd y plant yn son y noson o'r blaen fel y byddai D.O. yn anwybyddu seremoniau mawr y teulu brenhinol. Bydd yn golled fawr inni fel cangen y Blaid am ein trysorydd a'n aelod hynaf. Bydd llawer ohonoch yn cofio D.O, o'i weld yn siopa yn Llanrwst ar ddydd Mawrth. 'Roedd ganddo rownd siopa benodol a fyddai bob tro yn gorffen yn Kwiks. Oherwydd galwadau eraill ni fyddai yn cyrraedd tan ddiwedd pnawn pan fyddai'r bara'n prinhau. Lawer gwaith y dychwelodd adref gan ddweud y drefn yn arw fod Season dre wedi sbyddu'r bara sleis i gyd o Kwiks! Mi 'roedd D.O. yn gwsmer da i'r siop werthai feiros yn y dre gan ei fod yn mynd drwy focseidiau ohonynt. Er ei waith a'i amryfal ddiddordebau, blaenoriaeth D.O. bob amser oedd ei deulu. 'Roedd yn wr a thad annwyl, yn daid a brawd tyner ac fel pennaeth mwyn yn y Ty Ucha'. Yno yn y misoedd olaf y cai'r tendans gorau, a'r unig nyrs a wnai'r tro oedd Brenda. Cafodd dreulio ei ddyddiau olaf yng Nghwm Eidda a pha ffordd well i ddiweddu gydai'i englyn i'r Cwm:
Llain o gwm pellenig yw - cwm y gog
Cwm y gan ddiledryw,
Odiaeth o brydferth ydyw
Er ei fwyn y caraf fyw.

Perchnogaeth y Tir[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe fu ffarm Ty Uchaf, Padog yn rhan o ystad arglwydd ??? nes iddo ddod yn ddiweddarach i feddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Symudodd teulu DO Jones i Ty Uchaf yn 1938 i ffarmio'r lle. Heddiw, ffermir y lle gan fab DO, sef J Jones, sydd yn rheoli'r ffarm dan nawdd cynllun cadwriaethol 'Glastir'. Mae'r ffarm wedi'i leoli y tu fewn i ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri.

Bywyd y Fferm[golygu | golygu cod y dudalen]

Seilir y canlynol ar gynnwys y dyddiaduron.

Cnydau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ceirch:

Dyma ddetholiad o gofnodion DO am geirch [i'w grynhoi]:

Tymor

22 8 1949 Dechrau torri ceirch

Dechrau torri ceirch 20 9 1938 3 9 1940 22 8 1949

13 3 1935 Ceirch a chynhaeaf da arno

5 4 1935 dechrau hau tir glas Ffridd Newydd hefo ceirch scot oats

25 4 1940 Hau ceirch tir glas Weirglodd Ffynnon

1947 Dechrau hau ceirch ar 26 o Ebrill a gorffen hau yn mis Mai.

1 5 1940 Gorffen hau ceirch Scot Potato yn Cae Sofl a llyfnu hefo'r wedd.

Mathau Ionawr 7 Cofnod (1937-1951) Chwefror blewceirch

1 5 1940 Gorffen hau ceirch Scot Potato yn Cae Sofl a llyfnu hefo'r wedd

Economeg 20 3 1945 Cael subsidy am wneud blawd ceirch gan y llywodraeth £1.3.10d.

15 6 1942 Mynd i Felin Pentrefoelas hefo y gaseg ar drol i nol pres blawd ceirch £1-15-5c

Y Broses

14 3 1940 Cario pynau ceirch a haidd i'r granar

16 3 1953 Mynd a ceirch i Dylasau Uchaf hefo'r tractor i'w falu yn flawd.

18 3 1955 Dyrnu yma heddiw, 5 ddaeth yma i ddyrnu, dwy domen o geirch reit ddel a blewceirch a haidd.

10 4 1937 Cario deuddeg llwyth o sachau ceirch hefo'r drol i Bryn Ddraenan i'r granar, cario y manus i'r hofel.

20 4 1956 Mynd i Eidda i grushio ceirch.

21 4 1956 dragio un ocyn ar y ceirch

10 5 1945 Hau Blewceirch S171, 2011bs yn Rhos Isa, llyfnu un tro, ac un ocyn i dori'r garw.

23 5 1947 Prynu ceirch fidio Golden Rain gan Hafod y Maidd.

6 6 1941 Annie Davies yma yn pobi bara ceirch.

16 6 1956 Codi ceirch yn y granar i sachau, 12 sachaid a`i sgubo.

5 7 1952 Codi ceirch i sachau yn y granar. (yr unig gofnod Gorfennaf) .

26 8 1955 Tori ceirch gwaelod cae bont hefo`r injan, gafra.

24 9 1934 Torri blewceirch hefo pladur a gafra.

29 9 1934 Gwneud tas o flewceirch.

4 9 1937 Torri ceirch hefo pladur yn Cae Bach ac yn Clwt Pen Coed. Gafra a chodi geifr, grytio y stric a hogi y bladur.

14 9 1939 Gorffen torri ceirch Cae Canol hefo'r injan.

26 9 1940 Symud sofl ysgybau ceirch i'w sychu.

29 9 1943 Y Binder yma yn torri ceirch Cae Lwyd. Torri hefo'r bladur.

1 9 1944 Torri ceirch yn Cae Crwn hefo pladur yn y bore a nos. Gafra a chodi geifr.

14 9 1945 Torri blewceirch yn Rhos Isa, dechrau hefo injan yn y pnawn ac hefo pladur gyda'r nos, gafra a chodi geifr.

23 9 1946 Tori ceirch Scot Potato hefo pladuriau yn cae llwybr.

1 9 1949 Tori ceirch yn buarth rhywiog hefo tractor ar bamford, gafra a chodi geifr, torri blew ceirch gyda pladur gyda‘r nos.

6 9 1949 Cario ceirch cae sofl a chodi ŷd yn buarth rhywiog a weirglodd ffynnon

4 10 1935 Torri ceirch top Bryn Pella hefo pladur a'i arfa. Braf.

27 10 1939 Prynu tas o wellt ceirch £1. 7 0d.

3 10 1946 Tori ceirch cae bont hefo injan yn y pnawn, tipio, gafra, codi geifr gyda'r nos tan lO.OOyh.

4 10 1952 Tori blewceirch wern isa hefo pladur yn y pnawn.

11 10 1952 Tori ýd wern isa a blewceirch hefo pladur.

17 10 1953 17. Cario blewceirch top cae llwyd, 6 llwyth. Gwneud tâs yn gadlas yd, 5 llwyth, mynd a un llwyth i'r gadlas wair. Y tâs yn taflu* yn y nos i bob man. Teg, clir, hyfryd, hafaidd. [*Wrth i’r das setlo, sychu a chrebachu’n raddol gall newid ei siap. Ac os nad ydi hi wedi cael ei chodi neu ei hadeiladu’n iawn (cofiwch bod ‘na grefft i godi tas, fel oedd i godi llwyth o wair rhydd / sgubau i’r drol neu fêls i’r trelar) mi aiff i wyro i’r un ochr. Os aiff hi i wyro dros ei thraed ormod mi all chwalu neu daflu. I osgoi hynny rhaid ei chodi’n iawn, h.y. efo’r ochrau’n gwyro chydig bach at i mewn (yn enwedig os yn das fawr) a’r gwair / sgubau wedi eu gosod neu eu dosbarthu’n gyfartal a chytbwys, a’u sathru (= pacio’n ddigon caled). Un ffordd i atal y das rhag gwyro gormod fyddai rhoi polion yn ei herbyn i’w dal i fyny. Twm Elias]

21 11 1950 Dyrnu ceirch yn Gwernouau. DYRNU Y GWAITH PENNAF

15 11 1948 Dyrnu haner cwlas blew ceirch a hanner cwlas ceirch.

9 11 1954 Tori ceirch tir glas wern ganol hefo pladuriau, uncle Tom a finnau, nhad yn gafra.Codi geifr yn olau y lleuad.

13 11 1957 Llanhau a sgubo llofft granar a gwneud lle i’r ceirch.

10 12 1953 Nhad yn toi y das blewceirch.

20 12 1940 Yr Injan Ddyrnu yma heddiw.... y ceirch y bwrw yn dda iawn.

6 12 1937 Mynd a sachau ceirch i Felin, Pentrefoelas i wneud yn flawd hefo Ross y gaseg a'r Cargo.

Mawn[golygu | golygu cod y dudalen]

Da byw[golygu | golygu cod y dudalen]

Rheolaeth y Wernydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae peth hanes am reolaeth y Wernydd o gofnodion dyddiadur a wnaed gan dad J Jones, DO Jones (5/5/1920 - 2000). Mae'r hanes sydd i'w cael yn rhedeg o 1934 hyd at 1954. I ryw raddau, mae'r hanes yn esbonio'r sefyllfa llystyfiannol sydd i'w gweld ar y safle heddiw. Yn ôl y cofnodion sydd ar gael, yr oedd dau gyfnod o waith amaethyddol dwys ar rannau o'r Wernydd. Y gyntaf oedd dwysáu cynhyrchiad bwydydd yn ystod yr ail ryfel byd, a'r ail yr ymdrech i wneud gwledydd Prydain yn hunan-gynhaliol ar ran bwydydd crau fel polisi tymor hir ar ôl i'r rhyfel gorffen. Efallai, yr oedd trydydd uchafbwynt wrth i Bolisi Amaeth Cyffredin y Farchnad Gyffredin (CE rwan) dalu sybsidiau hael i ffermwyr i gynyddu cynhyrchiad dim ots am ganlyniadau i'r amgylchedd.

Nid oes hanes rheolaeth cyn 1934 i'w cael, nag arolwg llystyfiant ychwaith???, felly mae'n anodd dweud efo sicrwydd nad oedd dim newid, ond mae ambell rhywogaeth yn dangos yn weddol sicr bod newid ym mhoblogaeth rhanau o'r caeau wedi digwydd.

Nodir bod y gweithgareddau traddodiadol canlynol wedi cymryd lle yn y wernydd: torri neu ladd mawn, torri scrwff a/neu broc, torri rhedyn,torri brwyn a'u bydylu a llosgi ffegiach. Nodir hefyd gweithgarethau dwysach eu naws, aredig tir glas, hau hadau gwair, rowlio gwair, llyfnu, chwalu basic slag, ysgaru calch poeth, hau a medi ceirch a blewgeirch, bwchu yd. O bryd i'w gilydd fyddai DO yn agor ffosydd, teilo/'sgaru, lladd gwair. Pori gan amryw anifeiliaid: gwartheg, defaid, ceffylau. Hefyd bu defnydd o'r Wernydd fel ffynhonnell dwr, hel priciau tân; claddu anifeiliaid; a hel eiddew at fwydo ddefaid.

Diddorol ydyw i weld cyfeiriad at dorri mawn - arfer sydd wedi hen ddiflannu o gefn gwlad Cymru. O'r cofnodion sydd gennym, yr oedd DO Jones wedi torri, ac/neu hel mawn o fawnog Ty Uchaf yn y Wern Ganol, naw gwaith mewn ugain mlynedd. Cymerir mai at ddefnydd domestig yn unig ydoedd, er ar 10 -20 o Fehefin 1939, fe geir gofnod o ddefnyddio mawn at 'dorri' wyn (?eu hysbaddu?):

Mehefin 10-20, 1939: Torri ar yr wyn gyda Johnny Roberts, Blaen Eidda. Gwneud tân mawn wrth gorlan y ffridd a'u torri ar sdol yno. Pricio pys a teneuo rhesi moron yn y clwt tatws. Newyddion drwg o gyfandir Iwrop. Ystormus, tymhestlog a llifogydd. Transplantio dau ddwsin o gabbages yn Cae Bont. Gwerthu pedwar pwys o fenyn am bedwar swllt a chwech. Y gaseg yn geni ebol.

Y byddai'n ddiddorol casglu'r termau a ddefnyddid wrth hel mawn, can ni alla lawer i'w cofio pellach; mae'r un peth yn deilwng am yr offer a ddefnyddid i dorri'r fawn. Ar ymweliad â Ty Uchaf, ar 18/6/2013, fe dywedir J Jones, y deiliad, a mab DO, ei fod o'n cofio ei dad yn torri mawn yn 1967. Hefyd, fe dangosodd i ni dau o'r palau/rhawiau a ddefnydid i dorri'r mawn.

Mae DO Jones wedi cofnodi gweithgareddau yn ymwneud â chaffael mawn ar gyfer naw mlynedd o'r ugain mlynedd â drawsgrifwyd. (Rhaid cofio, ni thrawsgrifwyd dyddiaduron DO Jones at berwyl amaeth na thywydd, ond yn hytrach at adrodd hanes ffarmwr yn ystod yr ail rhyfel byd - ac bydd rhaid ystyried hyn yn y sylwadau sydd yn dilyn.) Tybir tan yng nghanol y 1950'au, y byddai defnydd o fawn at gynhesu trigfannau ddim yn anghyffredin mewn ardaloedd lle'r oedd mawn ar gael yng Nghymru.

Yr oedd y Bnr Jones yn dangos i ni'r hen fawnog yn y wern ganol. Yr oedd ar 18/6/2013, yn bosibl gweld ei therfin fel grwn bach yn y brwyn. Ar ymweliad go sydyn, heblaw i frwyn, glaswellt y gweunydd, a bedw ifanc, nid oedd unrhywbeth nodweddiadol yn fotanegol am y fawnog.

Mae rhai hen fawnogydd wedi eu dynodi am eu hamrywiaeth llystyfiannol, gan eu bod yn gynefin i blanhigion wedi eu haddasu at amgylchedd anodd iawn i dyfu ynddo. Nid ydy hyn yn wir pob tro, wrth feddwl am draethau anferth ucheldir y Pennines, lle mae erwau aneirif o rug yn tyfu ar wlau helaeth o fawn. Fe tybir gan rhai, Dyfyniad, bod ymyraeth ar fawnog yn creu amgylchedd ffres, newydd haws i dyfu ynddo, a felly cynyddu'r bioamrywiaeth yn yr ardal lleol. Yn sicr, mae rhai o blanhigion sydd yn gallu tyfu mewn mawnog, y wlithlys, Drosera rotundifolia, i'w cael yn rhannau eraill y Wernydd, felly, nid anhawdd i'w propagules, cyrraedd yr hen fawnog. Ni ymddangosai hyn i fod yn wir yn yr achos hyn. Wedi dweud hynny, nid oes cofnod genym o'r gymuned fotanegol cyn i waith gychwyn ar y fawnog, nag unrhyw syniad o amser y defnyddwyd y fawnog. Er bod DO Jones yn cyfeirio at dynnu nifer o lwythu o fawn o'r safle, nid ydy'n glir beth a olygir gan lwyth. Felly, yn anwyddus ydy'r cyfaint a gafodd ei elldynu o flwyddyn i flwyddyn, neu yn ei grynswth, ac felly amhosibl amcangyfrif yr ymyraeth i'r safle. Ond deg dweud mae ar lefel cymharol fychan at ddefnydd domesteg byddai'r elldynnu.

Rhaid cofio y bodolir wahanol mathau o fawndir sydd yn araf iawn yn ffurfio gwahnol mathau o fawn: mawn hesg, a mawn fwsogl er enghraifft. Efallai bod fawnog hesglyd/ brwynllyd o lai o ddiddordeb ar ran cadwriaeth na fawnog fwswgl Sphagnum?

Mae'r techneg a grebyllir gan DO Jones am waith paratoadol ar fawnog oedd 'donni', sef 'di-donni', hynny yw codi haen, neu 'croenen' (hen Gymraeg 'ton' = croen) o wyneb y fawnog. Nid oes sôn am sut y defnyddwyd y groenen: wedi'i llosgi, neu wedi' taflu ymaith rhywle allan i ffwrdd o'r gwaith.

Mae'r cofnodion sydd genym o waith ar fawnog Ty Uchaf yn dangos mai ym mis Mehefin yn bennaf, mae un cofnod ar gyfer mis Mai, y torwyd y mawn. Byddai'r gweithgareddau'n digwydd yn ol pob tebyg ar ôl i'r tir sychu ddigon. Gan bod torri mawn yn digwydd adeg y flwyddyn pan blodeuai'r rhan fwyaf o blanhigion, teg ydyw gofyn a fyddai gweithgareddau torri mawn yn amharu ar osod hadau planhigion y corstir, ac felly amharu ar eu cylch atgenhedlu?

Gwaredi ar hen Lystyfiant

Cynhwysir yn y dosbarth hwn o weithgareddau traddodiadol y torri a gwaredu gwahanol fathau o lystyfiant megis: rhedyn, brwyn, broc, scrwff, ffeg ac ati. Dau berwyl sydd ynghlwm a'r gweithgareddau hyn: rhyddhau porfa bras o hen lysdyfiant i annog tyfiant ir mwy at ddant porwyr wrth dynnu ymaith defnydd a fyddai angen cyflenwad prin nitrogen y borfa i'w diraddio; a defnyddio'r gwair, rhedyn ac ati ar gyfer gwaith y ffarm. Broc, neu scrwff ydy gwair a wneir o borfa frwynog. Ffeg ydy gweddillion porfa ar ddiwedd y tymor tyfu, ac os na chaiff ei thynnu ymaith, neu ei losgi, byddai'n mygu'r twf newydd yn y gwanwyn. Mae ceffylau, ac yn enwedig asynod, yn gallu enill peth maeth o'r hen weiriau felly, er na alla wartheg na defaid ennyn cymaint. Byddai ffermwyr yn arfer defnyddio'r broc neu'r rhedyn at sodre, neu sarn oddi dan anifeiliad yn y beudy. Defnydd arall oedd i doi'r 'cwitch' (cladd) tatws':

2/11/1944: Llosgi tair canwyll Sulpher yn sied yr ieir. Codi tatws yn cae Cefn Beudy a cwithcio. Tori baich o redyn yn cae Llwyd ai gario at y cwitch.

8 - 14/10/1937: Gorffen cau y ffens rhwng ffridd ganol isaf ar nyrs goed, tynnu moron a beetrwds yn yr ardd. Codi tatws a gwneud dau cwitch mawr a nol llwyth o frwyn i roi ar y tatws.

O ddyddiaduron DO Jones, Cwm Eidda, Padog, fel yr amddangosent yn yr Odyn.

Tybed, a oedd yr hen arfer o dorri rhedyn at berwylion hwsmonaeth y ffarm yn un ffactor a oedd yn rheoli helaethiad y blanhigyn?

Byddai llosgi'r hen lysdyfiant yn ychwanegu peth calsiwm a photasiwm i'r pridd, ond fe gollir unrhyw nitrogen a ffosfwrws. Siawns, na fyddai'r halwynion yn aros yn hir ar gael wrth i'n glaw eu golchi i lawr y golofn bridd. Pe llosgai unrhyw tân yn rhy boeth, byddai'n bosibl llosgi peth o'r pridd ei hun a gwneud difrod sylweddol i'r borfa.

Wrth basio, yr oedd DO yn defnyddio'r gair 'sgrwff' yn ei ddyddiaduron, ac yr ydwyf wedi clywed defnydd yr un gair yn Arfon yn hwyr y 1990'au, a chychwyn y 2000'au. Defnyddir J Jones, y deilydd presennol, y gair 'broc'. Mae'r gair 'ffeg' effallai yn perthyn i eiriau Saesneg ffag end, a fog fel yn yorkshire fog, maswellt penwyn, gweiryn a gysylltir efo porfa wael. Mae Duncan Brown yn adrodd iddo holi ffarmwr o ardal Stiperstones yn Swydd Amwythig am enw ei fferm, sef 'Feg'. Dywedodd mai llystyfiant diwerth, llwyd, diwedd y tymor a olygai, sef yr union ystyr a geir yn nyddiadur DO.

Gweithgareddau i waredi ar hen borfa.

Yn y dosbarth hwn ceir torri tir glas, hau hadau gwair, a rowlio gwair. Perwyl y gweithgareddau ydy i ladd yr hen borfa, llawn o 'chwyn' amaethyddol, ac ail-greu porfa mwy cynhyrchiol, neu greu gwely at hau cnydau eraill. Os ail-heuir porfa, defnyddir rhywogaethau mwy cynhyrchiol, rhygwellt parhaol, a meillion. O'r cofnodion sydd genym, yr oedd dim ond dau adeg o dorri glastir. Digwyddai'r un cyntaf o'r 10fed tan y 23ain o Ragfyr 1939 yn y Wern Ganol. Yr ail dro fe dorrir tirglas y Wern Isa' ar 30ain o Ebrill 1952. Er nad ydy'r cofnodion yn dangos hyn, tybir mai dim ond rhannau o'r gwahanol caeau o'r Wernydd cafodd eu torri. Byddai'r llethrau, y ffrydiau ac ambell i graig yn brigo yn ei gwneud hi'n anodd trin y caeau i gyd. Nid ydy DO yn crybwyll pa fodd yr aredid y tir glas. Er hynny, weithiau fe ddefnyddid dractorau ar log gan y weinyddiaeth amaeth, neu'r cyngor sir:

           MAI 1-2-3-4 - 1941: Aredig tir haidd Cae Canol hefo tractor y War Ag. John Jones Ty'n Gerddi            yn aredig. Tynnu tatws o'r ddau cwitch. Bugeilio. Tywydd teg braf. Llenwi ffurflen National
           Service a'i phostio yn Padog. Prydain ac Irac yn rhyfela. Nol hadau gwair o Ty Mawr. Gorffen   aredig Weirglodd Ffynnon. Cymanfa Ganu yn Ysbyty ar y 3ydd. Hitler yn areithio yn Berlin.        Awyrennau y Germans yn bomio o gwmpas.
      
           11/2/1943: Cryshio ceirch yn yr rhewl hefo tractor y sir 2awr £1-0-0. Mynd i Llan i nol rations            ac ir Home Guard. Awelog braf.
          
           7/5/1946:  Cario 11 cant o datws hefo cargo o cae crwn i'r ysgubor. Tractor Fron Ddu yma yn           troi tir tatws a sweds ei ddragio ai droi.
          
           14/3/1947: Mynd i Betws yn y pnawn,mynd at Mr J.Berry,Pentre Du i holi am wair a gwellt.
           Erythgl yn y North Wales Times;
           One hundred thousand sheep starving, fodder by plane, newly born lambs freeze to death,             position desperate. Mr Tudor Hughes of Denbigh estimates that 15,000 sheep are in danger of         perishing and that a large number of cattle are starving on the farms in areas like Ysbyty Ifan   and Pentrellyncymer, the position is desperate.
           Cyfri’r y gost wedi’r storom gyda’r dadmer yn dechrau yn y gogledd a’r meirioli yn y De. Daw’r cyfle i ddechrau cyfri’r golled a achosodd saith wythnos o’r eira ar rhew mwyaf a       welwyd y ganrif hon. Cymer gryn amser i weld beth yn union fydd maint y difrod i ddiwydiant        ac amethyddiaeth,ond credir i Gymru golli 250,000 tunnell o lo a 300,000 o ddefaid fel    enghraifft, ond bu’n waeth ar anifail na dyn a bu un o’r ymdrechion mwyaf lliwgar iw hachub          yn Llangadfan, Sir Drefaldwyn, dydd Sul. O’r bryniau gerllaw gwylodd ein gohebydd yr awyren             dakato gyntaf yn dynesu am 11.30am at y tannau a gyneuwyd iw harwain tua’r fan lle’r oedd            dwy fil o famogau wedi ei cau i mewn gan eira ac yn newynnu. Ym Mhen y Bont Fawr,      Maldwyn, syrthiodd defaid a ddaeth i lawr o’r Berwyn yn farw yn y stryd. Ni ellid dibynnu ar y         borfa ychwaith. Bydd blewyn cynnar wythnosau’n hwyr yn ymddangos eleni. Ychwanneger y      ffaith na allodd yr rhelyw o’r amaethwyr droi cwys o’u cwota aredig hyd yma,yn ôl Mr        C.T.Smith ysgrifennydd Undeb Amaethwyr Brycheiniog a Maesyfed. Y mae’n bosib y colli’r             chwarter defaid y ddwy Sir,a chollir eu hanner mewn rhai mannau, mae’r amgylchiadau’n dal            mor ddrwg yn Mrycheiniog fel bod yr Amaethwyr wedi gorfod difa eu holl wartheg am eu bod     yn newynnu. Bu colledion trwm ar ferlod mynydd a defaid, newynodd saith o heffrod i    amaethwr arall. Yn Sir Ddinbych bu’r golled yn ddifrifol; Bu brain gwancus yn ymosod ar lygaid defaid yn y Sir, ar defaid oherwydd ei gwendid yn methu a’u gwrthsefyll.


Nid oes unrhyw amheuaeth y byddai'r math gweithgareddau wedi cael effaith andwyol ar y blanhigion gwylltion a dyfai ar y rhannau o'r Wernydd a aredwyd.

Bydd hau â hadau gwair, neu â hadau eraill, mae cofnodion am hau geirch o amryw mathau, a 'rhoi ocyn ar yr hadau ar reps' (Wern Isa') yn ffordd sicr o leihau'n sylweddol y rhywogaethau gwylltion a fu'n tyfu ar y Wernydd. Mae un cofnod ym mis Ebrill 1942 am 'hau hadau gwair yn Wern Ganol'. Yr un dyddiad, 27/4/1942, bu DO yn cofnodi 'Hau ceirch yn Cae Sofl ar Wern Ganol'. Ar 24/4/1942, dyma fo'n gofnodi 'Sgaru calch poeth hefo rhaw yn Cae Beudy ar Wern Ganol'. Eto, nid oes sôn am ba rannau o Wern Ganol a drinwyd, ac oherwydd natur y gwahanol llethrau, a'r bodolaeth o ffrydiau, anodd credu mai'r cyfan a drinid.

12/6/1953. Testio gwartheg 21 o ohonynt, Mr Roberts ffariar yma. Llyfnu wern isa yn y pnawn. Mynd i Llanrwst ac i Cwmlanerch i baratoi at y Rali. Cyro polion a gwneud cylch, codi tent. Poeth, braf, teg a hyfryd.

24/6/1953. Poeth, gwres. Cael tunnell o lô, y lori lô yn mynd ar draws mic y gath ddu ac yn ei lladd, biti ofnadwy. Nol y rowl o Blaen Eidda Isa. Rowlio wern isa ddwywaith a rhoi ocyn ar yr hadau ar reps, gosod 4 finger ar yr injan ladd gwair. Cau llyn golchi defaid yn y ffridd. Mynd i Betws hefo'r car i nol ffisig i Owain Glyn. Nol barclothau gwlan o ffatri Penmachno. Gwres mawr.


Mae'r cofnodion o 'Rowlio ' yn y Wernydd sydd genym yn dangos digwyddai'r gweithgaredd dwywaith: ym mis Mehefin 1941, pan oedd y rhyfel yn ei anterth, ac ym Mehefin 1953. Y ffaith oedd angen rowlio gwair yn yr haf, yn hytrach nag yn y gwanwyn - i wasgu pridd a godwyd gan rew - yn awgrymu i finnau - a nid arbennigwr yn y maes ydwyf - y cafwyd ei wneud i helpu gweiriau ifanc sefydlu wrth gywasgu eu gwreiddiau rhywfaint er mwyn gallu wrthsefyll eu rhyddhau gan y gwynt, ac yn bwysicach, eu rhwygo'n rhydd gan weithgareddau lladd gwair: y byddai gwreiddiau priddog yn difetha'r gwair, ac yn creu tir glas clytiog wedyn. Am hyn, mae rowlio gwair yn awgrymu amaeth dwys â'r perwyl o gynhyrchu cnwd swmpus. Y byddai unrhyw trwch o wair uwchben planhigion hen borfa yn eu mygu, a lleihau'n sylweddol eu poblogaeth. Yn fyr, nid ydyw'r rhan fwyaf o blanhigion gwyllt yn gallu defnyddio lefelau uchel o faetholion a ychwanegwyd i borfa i gystadlu efo gweiriau sydd yn tyfu'n uwch ac felly yn eu cysgodi. Ym Mehefin, 1953, mae DO yn cyfeirio at ' Rowlio wern isa ddwywaith a rhoi ocyn ar yr hadau ar reps '. Mae hyn yn swnio fel tyfu cnwd o 'rep' (maip efallai) i'r defaid pori arnynt yn yr hydref a'r gaeaf, wedi ei is-hau (undersown) â hadau gwair i dyfu ar ôl i'r bresych darfod. Fe welir y math o dechneg yn un dwys o ddefnydd i gynyddu cynhyrchiad y tir, ond dim fel y rheolaeth 'sensitif' sydd angen i ffafrio parhâd planhigion cynhenid. Y byddai'r math rheolaeth wedi lleihau'r amrywiaeth a fyddai, efallai fod wedi bodoli ar y darn o Wern Isa' cyn i'r triniaeth hon. (Rhaid cofio, nid oes cofnod o fodolaeth unrhyw beth ar y Wernydd cyn i ddyddiaduron DO Jones.)

Gweithgareddau sydd yn ymwneud â thyfu ŷd

Mae'r cofnodion sydd genym yn dangos y digwyddai weithgareddau megis 'hau ceirch' yng ngwanwyn 1940, 1941, ac 1942; mae'r cofnodion a gyhoeddir yn dangos 'medi ceirch', neu 'torri blewceirch', a 'bwchi yd' ym 1941, 1942, ac 1952. Yn gyntaf, rhaid gofyn y cwestiwn: a fethai'r ceirch a heuwyd ym 1940, gan nid oes cofnod o'u medi? Ond rhaid cofio hefyd, pwyslais y cofnodion a ddetholwyd ydy helyntion ail-rhyfel byd. ???Bwchi yd??? Mae blewceirch Avena strigosa, weithiau cyfeirir atynt fel ceirch cymreig, neu geirch du, yn rhywogaeth gwahanol i geirch 'arferol' -Avena sativa. Fe'u tyfwyd mewn ardaloedd o briddoedd sal ac mewn llefydd na fyddai'n rhoi gobaith i geirch arferol dyfu. Math o geirch gyntefig ydynt, a nid oes fawr o rawn arnynt. Fel arfer, y byddent cael eu rhoi ar y gwellt i anifeiliad bwyta dros y gaeaf. Yr oedd Sefydliad y Tirglas, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth yn eu tyfu. (Gwybodaeth gan Twm Elias - cyfathrebiad personol)

Mae'n arwyddocaol nid oes sôn am rawn arall - haidd er enghraifft - cael ei dyfu ar y Wernydd.

Petai cnwd o geirch, hirgoesog wedi llwyddo i dyfu i aeddfedrwydd ar y Wernydd, y byddai hyn fod wedi dirywio'n sylweddol unrhyw bioamrywiaeth flaenorol a fyddai, o bosibl, wedi bodoli.

Er hynny, byddai'r gweithgareddau a ddefnyddwyd i hyrwyddo llwyddiant cnwd o geirch ar y Wernydd, megis: 'chwalu sorod basig - basic slag - a 'sgaru calch poeth a sgaru tail, ynghylch â'r amaethiadau i dyfu ceirch wedi hen chwalu'r gymuned blaenorol o blanhigion gwylltion. Er hynny, mae cemeg y ffosfforws (!!! the chemistry o ffosforus yn hytrach na the chemical ffosfforus) mewn priddoedd yn gymhleth iawn: er gwaethaf bodolaeth y maetholyn yn y pridd, mae'r argaeledd i blanhigion yn dibynnu ar nifer helaeth o ffactorau: mae gwerthoedd isel ac uchel o pH y pridd yn gallu lleihau'n sylweddol ar ei argaeledd. (????)

Agor Ffosydd

Beth ydy traenio, neu agor ffosydd? Mae ffôs bas yn un peth; mae un dwfn yn rhywbeth arall. Galla agor ffôs bas yn helpu traeniad caeau ac felly atal y pridd mynd yn anaerobig. Mae'n atal tyfiant o blanhigion megis brwyn a mwsogl, ac yn hybu twf porfa cymysg: gweiriau a fforbiau. Mae ffôs dwfn yn sychu lefelau uwch ac is y pridd, ac felly yn newid yn llwyr ffactorau edafic y safle. Pan ymunir traenio'r tir efo newid y porfa i gynhyrchiad uchel, 'economaidd', mae siawns uchel bydd y planhigion naturiol yn methu cystadlu efo'r newid mewn amgylchiadau ecolegol ac yn farw oherwydd. Yn anffodus, nid oes genym syniad o ymdrechion traenio cyn i gofnodion DO Jones. Ar yr ymweliad i'r safle, 18/6/2013, yr oedd amrywiaeth o ffosydd: rhai dwfn, rhai bas i'w gweld. Mae'r cofnodion yn dangos ymdrech i draenio'r Wern Isa' yn hwyr 1940: efallai mewn ymateb i'r argyfwng bwydydd oherwydd ymdrechion yr Almaen i godi argae ar wledydd Prydain. Mae'r Wern Isa' yn ymddangos i fod y cae gwlypach o'r tri chae mawr (ni edrychwyd ar y Gotel ar 18/6/2013). Wedyn, agorwyd ffôs yn y Wern Uchaf yn 1942. Bu ymdrechion traenio, fe dybir, ym mis Ebrill, 1945, ac felly wedi'i gynllunio cyn i'r rhyfel orffen:

           17/4/1945. Mesur ffosydd yn y ffridd ac yn y Wernydd, Mr John Roberts Dylasa Ucha yn ei rhoi i lawr ar y map, i gael grant ffosydd gan y llywodraeth. Y mae i bob golwg fod y Rhyfel            mawr yn dirwyn i ben. Clywed y Gog yn canu. Sylwi fod y Ddraenen Wen wedi blodeuo yn       gyntaf eleni.

(Y ddraenen wen wedi blodeuo'n gyntaf eleni: i gymharu efo beth? Derwen, onnen, neu hyd yn oed y ddraenen ddu? At ba ddywediad y cyfeirir y sylw 'ma?)


Ar ôl i'r rhyfel orffen, bu agor ffosydd yn y Wern Uchaf, Mawrth, 1950, a'r Wern Ganol, Ionawr, 1954. Nid ydym yn gwybod sut y ffoswyd: ffôs bas efallai efo caib a phal, ond y byddai ffosydd dyfnion angen peiriant. Byddai peiriant trwm wedi cywasgi'r pridd, a'r planhigion. Yn lle y taflid y 'gwastraff? Fel arfer dros yr ardal cyfagos i'r ffôs gan fygu'r llystyfiant.

Teilo, neu 'sgaru

Mae gwasgaru tail ar lefel isel yn helpu cadw ffrwythlondeb yn y pridd. Er hynny, rhaid cofio, ni ymatebir llawer o blanhigion y borfa 'wyllt' i lefelau uchel o faetholion megis nitrogen. Ar gyfer lefelau uwch o dail ac wrth ddefnyddio rhywogaethau 'nitrofile' megis y rhygwellt parhaol, fe geir fwy o drwch, ac o bosibl gwell ansawdd gwair hefyd. Byddai teilo yn drwm ar gaeau gwlyb yn debyg o arwain at olchiad y maetholion i fewn i gyrff o ddwr: colled felly i'r ffarmwr, a chodi'r bosibiliad o 'eutrification' o'r dyfroedd. Efo'r rheolaeth cywir, ceir gnwd trymach pan ddefnyddir lefelau uwch o dail, ond y byddai'r gweiriau agronomaidd yn all-gystadlu'r hen amrywiaethau a'r 'fforbiaid' ac yn gwaredu'r diddordeb lled-naturiol a fodolir cynt.

Lladd Gwair

Mae torri gwair wedi bod yn rhan annatod o fywyd cefn gwlad ers cyn gof. Gwelir tynnu cnwd o wair ysgafn o borfa lled-naturiol, isel ei chynhyrchiad yn draddodiadol, ac yn dechneg sydd wedi creu'r dolydd, a'r gweirgloddiau llawn o flodau a fodolir yn eang cyn yr ail-rhyfel byd. (Rhaid cynwys rhywle esboniad o gysyniad lled-naturiol) Ers hynny, fe gollwyd yr rhan fwyaf o'r rheiny i ddwyshád amaethyddol, ac i newidiadau yn ddefnydd y tir: ystadau o dai, ffatrioedd, traff-ffyrdd, archfarchnatoedd, elldynnu mwynau. Fe fyddai'r hen arfer, 'traddodiadol' o wneud gwair yn cychwyn ar ôl i'r gwair cael ei wneud a'i cludo ymaith: byddai'r ffarmwr yn gadael i'w stoc pori caeau'r gwair trwy'r hydref ac os bosibl i fewn i'r gaeaf. Daw'r gwanwyn, byddai'r anifeiliaid cael eu symud ymaith, a fe deilir y caeau efo tail o'r domen. Nid oedd yr hen ffarmio yn cynhyrchu pentyrrau o dail: llai o wartheg, llai o dail, ac felly digon tenau oedd y teilo. Gadawyd y glaswellt a'r blodau i dyfu. Fel arfer fe dorrwyd y gwair ym mis Gorffennaf, neu fis Awst dibynnol ar swmp y cnwd ac yn bennaf oll, y tywydd. Fe droiïd y gwair i'w sychu ar y cae nifer o weithiau, cyn ei gludo o'r cae. Petai amgylchiadau tywydd a thwf y glaswellt yn caniatáu, fe dorid adladd. Wedyn byddai'r porwyr yn dychwelyd. Yr oedd y susdem hon yn gadael i ddigon o amser i blanhigion blynyddol blodeu a gosod eu hadau. Byddai troi'r gwair yn gwasgaru hadau o gwmpas y cae. Mae'r arfer o wneud gwair neu sylwair yn fuan yn yr haf gyda nifer o adladdau wedi torri ar draws cylch yr hen blanhigion blodeuol. Hyd yn oed i blanhigion lluosflwydd, ni allent gystadlu efo'r 'nitrofiles' uchel eu twf ac sydd yn mygu'r hen weiriau byrach. Ffarwel felly, i'r gribell felyn, a welir beth bynnag fel chwyn.

Yn anffodus, nid oes genym fawr o wybodaeth am swmp nag ansawdd y gwair a wnaed ar gaeau'r Wernydd yn ystod yr amser dan sylw. Mae'r golygiad sydd genym o gofnodion DO Jones yn sôn am ladd gwair ym mis Medi yn 1939, mis Awst 1940, eto Awst yn 1942. Mae bwlch yn y cofnodion tan 1950; fe dorrwyd gwair yn y Wernydd ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno, a gorffenai'r cofnodion efo torri gwair ym mis Gorffennaf, 1951.

Yn amlwg, mae gwneud gwair yn holl ddibynnol ar gyfnod o dywydd sych a chynnes iawn. Felly, y tywydd byddai'n ffactor mawr pryd gaiff y gwair ei dorri, ac mae hyn yn esbonio'r amrywiaeth yn amserau cynhaeafu gwair. Cyn i ragolygon tywydd dibynadwy,a pheiriannau lladd gwair, yr oedd lladd gwair yn orchwyl llafurus, â llefel uchel o ansicrwydd am ganlyniadau da: y byddai tywydd drwg yn difetha'r cnwd â goblygiadau am y da byw gallu goroesi gaeaf caled. Y byddai cynhaeaf sal o wair yn effeithio'n sylweddol ar gynhyrchiad llaeth dros y gaeaf, efo goblygiadau ar incwm a bywoliaeth y ffarmwr.

Yn anffodus, nid oes genym fawr dim syniad am union leoliad yn y Wernydd lle dorrid wair. Mae DO Jones yn sôn am weithgareddau gwneud/cario gwair yn wern uchaf unwaith yn 1940, ac yn bennaf yn wern ganol: 1939, 1941, 1942, 1951; bu dorri gwair unwaith (o'r cofnodion sydd genym) yn wern isaf yn 1951. Mae DO yn manylu at dorri gwair yn 'top wern ganol' a top wern isa' dim ond yn 1950, ac 1951 yn ôl eu trefn. Er hynny, mae'r cynllun cynefinoedd a fapwyd gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru / CCW, yn dangos bod lleoliad dwy ardal 'glastir wedi'i wella'n rhannol' ar rannau uchaf y wern uchaf a'r rhan fwyaf o'r wern ganol:

Am ryw reswm, nid oes sôn am bori anifeiliaid ar y Wernydd tan 1946. Efallai, cafodd y cofnodion priodol eu golygu allan. Efallai, na fu pori ar y Wernydd tan 1946. Byddai'n bur ryfeddol pe na borai'r Wernydd yn ystod yr ail rhyfel byd wrth ystyried y pwysau a roddwyd ar ffermwyr i gynhyrchu mwy. Ond heb wybodaeth pendant, waeth i mi heb ddyfalu am ddefnyddai eraill bosibl i'r Wernydd. Mwy na thebyg, yr oedd anifeiliaid fferm yn pori ar rannau o'r Wernydd, ond nid oes cofnod am hyn. O'r ugain mlynedd a ddetholwyd gan deulu DO Jones, mae cofnodion am bori'r Wernydd ar gael am dim ond bedair blynedd. Gwartheg bu'n pori ar o leiaf un diwrnod yn 1946, ac eto yn 1953. Mae cofnodion am fodolaeth defaid yn y Wernydd ym mis Mawrth, 1947, ac iddynt gael eu bwydo efo gwair 12 -14 o Chwefror, 1953. Yr oedd ceffylau ar y Wernydd ym mis Mehefin a mis Medi, 1947, ac eto ym mis Mai 1948. Nid oes sôn am ba hyd, nag am y nifer pennau'r anifeiliaid bu'n pori. Mae'n anodd ceisio amcancyfri nifer yr anifeiliaid oedd gan fferm DO Jones, gan nad ydy'n crybwyll eu niferoedd. Tybir, nid oedd y pori, o leiaf ar y Wernydd, yn hytrach na gweddill y ffarm, dim yn ddwys, er yr unig ffactor sydd yn dwyn â'r casgliad i'r fei ydy bod y ffarm yn un gymharol fychan a dim o flaen y gad mewn dod â thechnegau newydd i fewn.

Amryw o ddefnyddiau achlysurol

Yn y tabl o ffeithiau am y Wernydd, Atodiad XYX, gwelir rhestr o ddefnyddiau eraill a wnaed am, ac yn y Wernydd. Maent yn amrywio o ddefnyddio dwr yr Eidda - pan oedd angen dyfrio anifeiliaid yn yr afon, yr oedd yn oer iawn - pibellau wedi rhewi; claddu amryw o anifeiliaid; ac hel bwydydd argyfwng i ddefaid: eiddew (iorwg) - arwydd arall o dywydd eiraog, a felly diffyg porfa. Nid oes dim i awgrymu mai dim ond yn achlysurol bu'r defnyddiau hyn, ac felly dim yn debyg o amharu ar fioamrywiaeth lled-naturiol y Wernydd.

Cefndir i ymdrechion cynyddu cynhyrchiant amaethyddiaeth yng Nghymru

Mae ymchwiliad tua dwy awr ar y rhyngwe yn dangos nid ydyw hanes agronomaeth wedi'i hymchwilio'n susdymataidd, na'i osod i lawr i'w ddarllen yn llawn eto. Er hynny, mae'n bosibl dwyn bras casgliadau o'r gwahanol tudalennau sydd ar gael. Tybir bod llystyfiant copa ardal Padog byddai coedwig cymysg o dderw a chyll. Nid oes cofnod o bryd gafodd y 'Gwyddgwyllt' ei glirio, er gwyddys fu ymdrechion gan dim llai na brenin Lloegr i ddad-goedio rhannau o Gymru

         'Ac wedi trigo'n hir yn eu pebyllau yno heb feiddio cyrchu i ymladd eu gilydd, llidio gwnaeth y brenin yn ddirfawr; a chyffroi ei lu hyd yng        nghoed Dyffryn Ceiriog, a pheri torri'r coed a'i fwrw i'r llawr.' Brut y          Tywysogion, fersiwn Llyfr Coch Hergest, Jones, golygydd, Gwasg y        Brifysgol, Caerdydd, 1955.

Posiblach efallai, clirwyd ardaloedd eang o Gymru o'i choed gan fynachod er mwyn creu y ffriddoedd (sheepwalks ) i'r diwydiant gwlân.

Wrth fynd ymlaen, mae'n bwysig cofio nas ehangdir solet o goed aeddfed oedd yr hen wyddgwyllt, ond yn hytrach clytwaith o wahanol gymunedau coediog: rhai aeddfed efo dilynwyr, o wahanol rhywiogaethau oddi danynt; rhai efo canopi tyn, rhai eraill efo canopi agored; i gyd efo haeniau is o lwyni, fforbiau uchel ac isel, a haen o bryoffyte. Byddai tyllau a wnaed mewn y canopi gan ystormydd a gweithgareddau megaffauna megis baedd gwyllt ac elcod yn ffafrio, am gyfnod go fyr, y fforbiau ein bod ni rwan yn ystyried rhan o gymunedau glastir lled-naturiol. Gan nid y tir âr gorau ydy'r Wernydd, y mae'n weddol sicr ni chai'r Wernydd llawer o sylw gan agronomwyr y 18g. Fe'u porwyd, mae'n debyg, gan defaid, gwartheg a cheffylau ar lefel ysgafn, efallai gan gymryd cnwd ysgafn o wair mewn blynyddoedd sych.

Mae union natur rheolaeth cyffredinol tiroedd megis y Wernydd yn dod yn gliriach wrth i'w hoesau ein dynesu ni. Er hynny, ffeithiau negyddol ydynt, mae'n debyg. Nid oedd cyfnod y deddfau yd wedi cynyddu rhyw lawer y cynhychiant amaethyddol - oherwydd y diffygon bwyd a brofwyd yn ystod y cofnod: 1815 - 1846. Wedyn y byddai'n amhosibl i ffermwyr Cymru i gystadlu â'r mewnforion ŷd rhad. Gwir, nid tan hanner ffordd trwy ryfel cyntaf y byd gwelwn dechreu ffurfio polisiau amaeth yng ngwledydd Prydain. Tua'r un cyfnod yn cychwyn o gwmpas 1873 fe gychwynai dirwasgiad amaethyddol a pharhâi tan efallai 1940. [4] Yn siml, yr oedd ymherodraeth Prydeinig yn ei hanterth, ac yr oedd technoleg megis rhewi, llongau ager mawr ac amgylchiadau hinsoddol y trefedigaethau tramor yn gwneud hi'n gymaint rhatach i fewnforio bwydydd - at gost amaethyddiaeth mewnol. Ar gychwyn yr ail ryfel byd, fe fewnforwyd 55 x 106 tunell o fwyd (60%), yn dibynnu ar y ffynhonellau, o fwydydd Prydain. [5] Yr un pryd, yr oedd arwynebedd tir ffarm gweithredol yn lleihau: yn 1918, diwedd y rhyfel mawr, yr oedd 12 x 106 erw mewn defnydd amaethyddol o ryw fath, erbyn 1926, yr oedd i lawr i 9 x 106 erw. Yr ymdrechiai'r llywodraeth i ymyryd: yr oedd polisiau i wella incwm ffermwyr, ac i sicrhau hawl i symud tenantiaethau ymlaen yn y teulu. Bu sybsidi ar galch i helpu ffermwyr trin eu tir. Yr oedd rhyw wellhad, erbyn cychwyn yr ail ryfel byd, yr oedd yr erwau amaethyddol wedi codi'n ôl i ffigwr ddiwedd y rhyfel cyntaf. Ar gychwyn y rhyfel yn erbyn Nazistiaeth, nid oedd amaethyddiaeth yng ngwledydd Prydain, na economi cefn gwlad yn iach: y gwneid y rhan sylweddol o orchwylion ffarm o hyd â llaw, neu geffylau:

        Mehefin 1-10 - 1939:  Chwalu priddwadd [sic]. Gwerthu 8 pwys o fenyn am ddeg swllt. Mynd a Ross y gaseg i'r Efail 'Sbyty i'w phedoli. Gwres llethol. Gollwng llouau bach allan. Mynd i Llanrwst hefo beic. Gweld ffilm 'Strange Borders'. Mynd hefo beic i gyngerdd yng Ngherrigydrudion. Mynd â'r crwc i Cae Lloeau i ddal dwr. Prynu dwsin o gywion Light Sussex, a dwsin o rai Rhode Island Red am 8 swllt a chwe cheiniog y dwsin gan D.Davies, M.S.R, B.A, Bryn Till, Cefn Berain. Gwres Mawr. cario 8 llwyth o fawn o'r ffridd hefo Ross ar drol. Gwneud y mawn yn gowlas yn yr hofel. Bwydo cywion hwyaid.

     Medi 1-2il - 1939: Torri haidd hefo pladuriau yn Cae Bont gafra a chodi geifr, Godro.

Yr oedd economi cefn gwlad Cymru wedi disgyn i fewn i drwmgwsg: nid oedd dim yn gweithio:

      Gorffennaf 1-10 - 1939: Mynd a dwy fuwch at y tarw i Dylasau Isaf. Talu deg swllt am y ddwy. Gwerthu deg dwsin o wyau i Irwin's Llanrwst am saith swllt. Gwerthu chwe phwys o fenyn am saith swllt. Pawb yn cwyno am y bywyd caled. Mewnforion yn llethu'r wlad. Neb ag arian i brynu dim byd. Papur newydd: 'Stagnant economy strangle the Country'. Nol cywion ieir o steshon Betws-y-coed. Minorcas ac Exchequer Leghorns. Mellt a thranau ofnadwy.

Y Rhyfel a'i effaith ar y wernydd

         3ydd [Medi, 1939]: Y Prif Weinidog Neville Chamberlain yn cyhoeddi bod rhyfel rhwng Prydain,          Ffrainc a Poland yn erbyn yr Almaen, am unarddeg o gloch y bore. Gorffen torri haidd Cae       Bont, nol neges hefo beic, awyr las braf.
        

Yr oedd yn berffaith amlwg erbyn cychwyn 1939 byddai rhyfel yn digwydd. Paratoid at hyn: ar galan Medi, 1939, fe ddaethpwyd â Rheoliadau Amddiffyn y Deyrnas i rym. Ym mhlith ystod eang o bwerau argyfwng, fe godwyd pwerau i reoleiddio rheolaeth tir amaeth, diweddu tenantiaethau, a chymryd meddiant o diroedd. Un o amcanion Hitler yn y 'cyfanryfel' oedd nadu bwyd i'w elynion. Fel y gwelwyd uchod, dibynnai wledydd Prydain ar fewnforion bwydydd i fwy na hanner bob dim a fwyteid. Fe suddwyd nifer o longau masnach yn fuan yn y rhyfel:

         14eg [Medi, 1939]:Gorffen torri ceirch Cae Canol hefo'r injan. Rhyfel yn gwaethygu, suddo    llawer o longau masnach i'r wlad yma.

Yr oedd ar Brydain angen llongau masnach i gludo materiel rhyfel, a fe fyddai peidio a mewnforio miliynau o dunnelli o fwydydd yn rhyddhau longau. Fe fewnforwyd 12 x 106 tunell o fwyd ddiwedd 1939 i gymharu efo 55 miliwn tunell yn y blynyddoedd cyn y rhyfel: y byddai rhaid i ffermydd led led yr ynys hon ysgwyddo'r baich. Fe aed ati efo ymgyrchoedd tyfu llysiau yng ngerddi pobl, ac wrth ddwyn tiroedd llai addas i amaethyddiaeth o dan yr aradr. Heb os, yr oedd panig, a swyddogion yn rhoi gorchmynion na wnai unrhyw synwyr: mae straeon dirif i'w clywed o hyd ym y gymuned amaethyddol am aredig gweundir grugog yn y rhuthr i gynhyrchu digon o fwyd. Ofer bu llawer o'r math ymdrechion. Serch hynny, cynnyddai'r cyfan arwynebedd tir amaethyddol o 12 miliwn erw at 18 miliwn. Fe aredwyd rhannau o'r Wernydd yn yr ymgyrch hon.

Mae'r effaith i'w gweld hyd heddiw. Mae'r traean mwyaf gorllewinol Wern Ucha', a tua hanner Wern Ganol yn dangos arwyddion clir o ymyraeth amaethyddol ar eu cymunedau biolegol: fe'u dynodwyd gan CCGC fel 'MG6' glastir wedi'i wella'n rhannol. Mae presenoldeb rhygwellt parhaol, a meillion gwyn yn dangos hyn.

Yn anffodus, nid ydy'r cofnodion sydd ar gael yn dangos maint y cynhaeaf ceirch neu wair a gynhyrchwyd gan y Wernydd; na'r nifer yr anifeiliaid bu'n pori'r caeau. Efallai bod y diffyg cofnodion yn dangos mai ofer bu'r ymdrech, ond dyfalu byddai dwyn y casgliad hwn. Er hynny, mae'r cofnodion, er mor bratiog ydynt, yn dangos yn glir y digwyddai amaethu dwys ar ranau'r Wernyd: tori tir glas, hau sorod basig, calchu, hau â hadau gwair, hau â cheirch, torri ffosydd a chael cnwd ar ddiwedd y broses. Efallai, cawn weld sumptom o'r panig a pherodd gan bwerau'r Gweinyddiaeth Amaeth a Physgodfeydd yn y teilo a gofnodwyd am Fehefin, 1941: nid ydyw'n arferol teilo'r adeg y flwyddyn. Ond fe ddygwyd '7 llwyth' o geirch ŷd o'r Wern Ganol ddiwedd mis Medi, 1941.

Hanes y Wernydd ar ôl Rhyfel Byd 1939 - 1945

           31/5/1945: Cwmona, godro. Agor 15 o rhesi Sweds yn cae crwn hefo mochyn. Ffrancod wedi          shelio Damascus ac wedi lladd canoedd o bobl. Newid olwyn flaen y car. Llenwi ffurflen tatws,         gwlan a phetrol. Y mae'r argoelion yn profi yn ddios y bydd y prinder bwyd a nwyddau yn        parhau am beth amser.

Ar ôl i'r ail rhyfel byd orffen, ni newidiodd y sefylla dwys o brinder bwydydd. Yr oedd gan wledydd Prydain ddyledion rhyngwladol anferth, ac yr oedd angen ail-adeiladu ar ôl difrod enbyd ymgyrchoedd bomio'r Natziaid. Nid oedd arian ar gael i dalu am mewnforio bwydydd, a felly parhaodd yr ymgyrch i wneud amaethyddiaeth yng Nghymru a gweddill Brydain yn hunangynhaliol. Fe welwyd hyn gan ni orffennai ddogni rhai o fwydydd tan yn fuan yn 1954. Heb os, yr oedd llai o banic - nid oedd gorfodaeth ennill rhyfel ar chwarae - ac yr oedd mwy o fyfyrio a meddwl a defnydd o wyddor agronomaeth, ond yr oedd ymdrechion dwys a pharhaol i gynyddu swmp cynhyrchiad amaethyddol yn yr ynysoedd hyn. Ar ôl y rhyfel yr oedd yr hen fyd amaethyddol, a fu'n llesg ers chwarter olaf y 19g wedi ei chwalu. Yr oedd anghenion bwyd y rhyfel wedi codi prisiau nwyddau: ac yr oedd y ffermwyr, felly yn barotach i ymdrechi. Deuid â mwy o beiriannau, a chynyddai maint a phwer yr rhain hefyd, yn ogystal â'r wyddor amaethyddol i fewn i helpu codi cynhyrchiant ac effeithiolrwydd; telid sybsidiau i ffarmwyr i'w hysbarduno cynhyrchu mwy:

         20/4/1945: Mr W.D.Williams Fron Ddu yma yn troi Rhos Isa efo tractor ac aradr tair cwys.

         8/4/1946: Cael siec Subsidy y gwartheg £12.02. Mynd i'r ffridd i hel y sbinod. Troi sofl cae tan          beudy. Malu gwellt ganol dydd. Mynd i Betws hefo beic gyda'r nos i weld ffilm Behind Closed        Doors. Tywydd oer a chymylog.

Cyn i ddiwedd yr ail-ryfel byd, yr oedd cynefinoedd lled-naturiol yn gyffredin, a rhan o fywyd cefn gwlad. Gwir, yr oedd yr hen dechnegau a phatrymau'r hen amaeth wedi eu creu. Yr oedd y caeau blodeuog, y coedwigoedd, y gwernydd a'r rhostiroedd, y migwyn a'r gwlyptiroedd yn rhan o brofiad unrhywun ag ymwelai ag ardaloedd gwledig. Mae'n gwir bod rhai o bobl wedi ffurfio gwarchodleoedd cadwriaethol cyn i RBII (rhyfel byd 2), ond ni welid angen i warchod y milynau o erwau o gynefinoedd cyffredin iawn. Ond, wrth i ymdrechion cynyddu swmp cynhyrchiant bwydydd o diroedd Cymru fynd yn eu blaen, fe gollwyd ein tirlun yn enw cynydd. Cawn weld hyn ar weithgareddau a wnaed ar Wernydd, Tŷ Uchaf, Padog. Fe dorrid dirglas yn y Wern Isa' ym mis Ebrill,1952. Ni chofnodai DO torri tirglas y Wernydd ers Ragfyr, 1939. Wedyn yn Hydref 1952, bu dorri blewceirch, a'i gario adref o'r un cae. Beth sydd yn ddiddorol, ydy'r ffaith bod rhedyn, y rhedyn ungoes, Pteridium aquilinum, yn tyfu'n rhemp ar ochrau uchaf y Wern Isa':

         Aur dan rhedyn, arian dan eithin, a newyn dan rug - hen ddywediad.

Yr oedd yn amlwg ar ymweliad 18/6/2013, a chyfeiriai DO at y blanhigyn:

           17/10/1952. Nol 65 o ddefaid o mynydd yr Hwylfa i'r ffridd. Nol llwyth o redyn o'r wern          isa. Mynd hefo'r car i Cefn Treflach Llanfairtalhaearn i nol Mrs Jones ar plant adref. £1. Braf.


Ai hyn yn arwydd o ddefnydd callach o'r Wernydd er mwyn cynyddu cnydau? Er hynny, nid oes sôn am anifeiliaid, o gwbl, ar y Wernydd tan mis Mai, 1946. Ni ddehonglir hyn fel arwydd nad oedd pori ar y Wernydd tan hynny - y byddai'r lladd gwair a ddigwyddai yno, wedi'i rhagflaenu gan bori yn ôl hen arfer a defod - ond yn hytrach fel yr oedd ymwybod DO am y Wernydd yn ddigon uchel i gael sylw. Efallai, hefyd, yr oedd DO yn dilyn y tuedd i ddefnyddio pob fodfedd at rywbeth: nid ydy caeau'r Wernydd y rhai gorau, ond efo tipyn o deilo a chalchu, gallent gynhyrchu cnwd gwell o laswellt, a felly cadw mwy o stoc nag o'r blaen. Yr oedd hefyd, parhad yn lladd gwair: efo gwasgaru tail ar Wern Isa' yn Ebrill 1947, arwydd o baratoi at gnwd o wair wedyn, er yr unig gofnodion am Wern Isa' am y flwyddyn honno yn ymwneud a cheffylau. Fe dorrid wair yng Ngorffennaf, 1950 yn y Wern Uchaf, a'r Wern Ganol. Fe fyddai hyn wedi cael effaith ar blanhigion y Wernydd: amgylcheddau pridd a ffafriai gweiriau 'nitroffile ', mwy o bori, mwy o garnau sathru'r fforbiau i lawer.

Hynt a Helynt y Wernydd: 1955 hyd Heddiw

Yr hyn sydd yn ein denu at gaeau'r Wernydd ydy eu hamrywiaeth o rywiogaethau mewn clytwaith o gynefinoedd sydd, yn gynnar yr 21g, yn ddigon prin i ennill dynodiad o ddiddordeb neilltuol. Mae'n hollol glir bod anghenion dwys yr ail rhyfel byd, wedi cael effaith parhaol ar gyfansoddiad y Wernydd. Ni wyddys hanes y Wernydd o 1955 tan eu dynodiad fel SDdGA, er, mae'n bur debyg yr oedd polisi amaethyddol y Farchnad Gyffredin wedi cael effaith ar reolaeth y Wernydd. Bydd rhaid aros nes i ddetholiadau o ddyddiaduron DO ddod i'r fei.

Er hynny, yr hyn sydd yn taro unrhyw ymwelydd i'r Wernydd yn y Gwanwyn ydy'r boblogaeth mawr o'r gronell. Mae'r planhigyn yn tyfu ar draws y safle, hyd yn oed yn yr ardaloedd 'rhannol wedi'u gwella'. Mae natur y Wernydd sydd, fe dybir, yn gwraidd llwyddiant y peli aur. Efallai, fe ddinistrwyd gwasgariad y blanhigyn ar ôl aredig, teilo, hau a chynaeafu. Er hynny, ni fyddai llethrau, ffrydiau, a lefelau isel o ddefnydd i amaethyddiaeth dwys y Wernydd wedi ffafrio'r ymdrech heb sybsidy. Mae'n debyg wrth i bwysau artiffisial amaethyddiaeth dan sybsididi orffen, estynnai poblogaethau planhigion glastir lled-naturiol i fewn i wagle i'w ymelwa arno.

Fel enghraifft: mae'r gronell yn yr un teulu a'r blodau menyn. Mae hadau'r teulu hon yn ffrwythau sych, caled â bachyn bach ar eu pennau - addasiad da at afael ym blew amryw anifeiliaid i'w gwasgaru. Pe tai boblogaeth fach planhigion tebyg ar ymylon y safle, byddai pori a gwneud gwair yn ad-hau planhigion i fewn i lefydd lle dinistrywd cynt. Mae'r cysyniad o 'fanc hadau' yn helpu esbonio ail-dwf poblogaeth planhigion a fu farw. Mae'r gallu i hadau rhai blanhigion i oroesi nifer go lew o flynyddoedd yn fantais esblygol i ymdopi â newidiadau mewn cynefin: e.e. coed yn tyfu, a chysgodi safle, cyn i'r rhod troi a rhoi cyfle i hadau ail-sefydlu poblogaeth.

Gan fodolir ddiddordeb mewn caeau blodeuog, lled-naturiol, mae nifer wedi ymdrechu i'w hail-creu (eisiau dyfyniad) â pheth llwyddiant. Mae un techneg yn torri cae flodeuog fel petai'n gwneud gwair, ond yn gyflym symud y glaswellt ir i'r safle i'w ail-hau, a sychu'r gwair ar y safle newydd. Mae'r troi a chodi sydd angen i sychu a gwyntyllu'r glaswellt yn bwrw hadau'r hen weirglodd yn y safle newydd.

Bywyd Cymdeithasol[golygu | golygu cod y dudalen]

Seilir y canlynol ar gynnwys y dyddiaduron.

Y Tywydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Seilir y canlynol ar gynnwys y dyddiaduron.

Y Byd Mawr[golygu | golygu cod y dudalen]

Seilir y canlynol ar gynnwys y dyddiaduron.

Cadwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Tynnir yn drwm ar draethawd hir (heb eto ei gyhoeddi) y botanegydd Lari Parc[1].

Mae caeau'r Gwernydd, Tŷ Uchaf wedi eu dynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig am eu cymunedau o blanhigion tir glas prin. Bodolir gofnod am reolaeth y caeau o 1939 tan o leiaf 1954 (o bosib tan y 1990au). Mae'r cofnodion yn rhoi cyfle i ganfod rôl rheolaeth y safle ar ei amrywiaeth fiolegol. Mae'r ffaith bod cofnod o reolaeth y safle yn y Gymraeg yn ffactor o ddiddordeb ychwanegol.

Mae caeau'r Gwernydd ('Y Wernydd' ar lafar yn naturiol gan y teulu) yn glytwaith o amryw fathau o weundir. Mae'r Wernydd hyn yn cynnwys pedwar cae: 'Wern Ucha', 'Wern Ganol', 'Wern Isa', a'r 'Gotel'. Y Wern Ganol ydy'r mwyaf o ran arwynebedd, sef 6 ½ erw. Arwynebedd y gwernydd yn eu cyfanrwydd yw 11.5 erw. Maent yn rhedeg i lawr llethr Cwm Eidda o uchder o 240 – 210 m gan wynebu i'r De Ddwyrain. Mae llethrau'r caeau yn amrywio o ogwydd serth i gymhedrol ac yn cydregeg gyda'r afon Eidda. Uwchben y Wernydd ceir caeau eraill fferm Tŷ Uchaf: ffurfir eu ffîn isaf gan Afon Eidda. Mae rhannau sych a rhannau gwlyb iawn yng nghaeau'r Wernydd gyda nifer o ffrydiau'n codi ar y safle. Mewn ambell le mae craig yn brigo'r wyneb.

Dynodiad swyddogol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCW) (bellach yn Cyfoeth Naturiol Cymru) wedi mapio'r amrywiol bio-gynefinoedd ar y safle. Dosrannwyd y cynefinoedd hyn i dri phrif grwp, sef: glastir sych mesotroffig, gwernydd mwsoglyd, a gweirgloddau llaith. Dosrannir pob un o'r brif grwpiau i fewn i is-cymunedau:

  • MG5a: Glastir sych, mesotroffeg, a ddiffinir gan bresenoldeb rhonwellt y ci, Cynosurus cristatus, a'r pengaled Centaurea nigra; diffinir yr is-grwp gan bresenoldeb ytbys y ddôl Lathyrum pratensis. Mae peth treiddiad o rygwellt parhaol Lolium perenne, a diffyg pys y ceirw Lotus corniculatus i'w weld, o bosib oherwydd ymdrechion i wella cynnyrch y caeau, ac oherwydd eu hagosrwydd at ardal o lastir a gafodd ei wella'n sylweddol.
  • MG5c: fel yr uchod ond efo presenoldeb glaswellt y rhos Danthonia decumbens, fel dangosydd o'r is-grwp; llawer llai o dreiddiad rhywogaethau sydd yn arwydd o ymyrraeth technegau amaethyddol dwys, a ddangosir gan bresenoldeb nifer o rywiogaethau eraill yn y gymuned hon: maeswellt cyffredin Agrostis capillaris, perwellt y gwanwyn Anthoxanthum odoratum, peiswellt coch Festuca rubra, maswellt penwyn Holcus lanatus, pys y ceirw Lotus corniculatus, cneuen y ddaear Conopodium majus, yr effros Euphrasia spp., meillionen goch Trifolium pratense, peradyl yr hydref Leontodon autumnalis, tamaid y cythraul Succisa pratensis, tresgl y moch Potentilla erecta, ytbysen y coed Lathyrus montanus (L. linifolius).
  • MG6: Glastir sych, mesotroffig, wedi ei wella'n rhannol: â lefelau uchel o rygwellt parhaol Lolium perenne a rhonwellt y ci Cynosurus cristatus.
  • U4c: Glastir [eisiau mwy o ffeithiau o NVC] â lefelau uchel o faeswellt cyffredin Agrostis ?tenuis, a'r friwydd wen Galium, a phresenoldeb ystbys y coed Lathyrus a chribau San Ffraid Betonica officinalis.
  • M6d: Gwernydd [beth ydy 'mire' yn y G?] mwsoglyd â lefelau uchel o sêr hesg Carex, ag amryw o fwsoglau migwyn Sphagnum, a brwyn blodeufain Juncus acuiflora, i ddiffinio'r is-gymuned.
  • M10a: Gwernydd ......mwsoglyd â lefelau uchel o hesg ysgar Carex, a thafod y gors Pinguicula, a Carex demissa ????, a brwyn goddfog Juncus. Mae peth ymraddio i fewn i lastir wedi'i wella wrth i ronwellt y ci a meillion cyffredin Trifolium repens, ymdreiddio i'r cynefin.
  • M23a: Gweirglodd llaith brwynog â lefelau uchel o Juncus acutiflorus Galium palustre; fe ddiffinir yr is-grwp gan bresenoldeb maeswellt y cŵn Agrostis canina, y maswellt penwyn Holcus, glaswellt y gweunydd Molinia caerulea, pys y ceirw mawr Lotus uliginosus (L. pedunculatus), blodau menyn y ddôl Ranunculus acris, a suran y cŵn Rumex acetosa
  • M25c: fel yr uchod ond yr is-grwp wedi'i ddiffinio gan bresenoldeb glaswellt y gweunydd, llysiau'r angel, Angelica sylvestris, a'r erwain, Filipendula ulmaria.
  • M26: Mire???? a ddiffinir gan las y gweunydd, Molinia, a gwalchlys y gors, Crepis paludosa, â phresenoldeb hesg melynllwyd, Carex hostiana, hesg y chwain, Carex pulicaris, mswogl migwyn, Sphagnum contortum, llysiau'r angel, peiswellt coch, maswellt penwyn, perwellt y gwanwyn, a'r gronell (peli aur, yr enw lleol), Trollius europaeus.

Fe raddwyd y Wernydd fel safle o werth cadwriaethol gymhedrol i uchel am ei glytwaith o gymunedau glastirol gwlyb a sych gyda graddfeydd clir rhyngddynt. Yn anffodus, fe gafodd rhannau o'r Wernydd eu gwella'n amaethyddol efo chryn llwyddiant. Mae'r poblogaethau o blanhigion anghyffredin yn nodwedd, ac yn enwedig y gronell Trollius europaeus (peli aur ydy'r enw lleol), yr ysgallen fwyth Cirsium heterophyllum. Planhigion eraill o ddiddordeb ar ran eu prinder cymharol ydy ffacbys chwerw Vicia orobus, dant y pysgodyn Serratula tinctoria, a chracheithin Genista anglica.


Felly, fe ddynodwyd y Wernydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - SSSI.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Parc, L (c2014): Rheolaeth o gaeau Gwernydd Ty Uchaf, Padog yn ystod y cyfnod 1939-53