Neidio i'r cynnwys

Dydd y Farn

Oddi ar Wicipedia
Dydd y Farn
Enghraifft o:thema mewn celf, cred crefyddol, cysyniad Beiblaidd Edit this on Wikidata
Mathbarn Edit this on Wikidata
Rhan odiwethafiaeth Gristnogol Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/015hb2 edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF27190 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dydd y Farn yw'r gred Gristnogol y bydd pawb yn codi o'r meirw ar ddiwedd y byd i gael eu barnu gan Dduw. Gellir ei alw hefyd wrth enwau eraill fel Y Farn Olaf, Y Farn Ddiwethaf, Y Farn Fawr a Dydd Brawd. Mae'r cysyniad yn bwysig yn y ffydd Islamaidd ac Iddewig hefyd. Yn y ffydd Gristnogol, credir y bydd Iesu Grist yn barnu pob person yn unigol.

Gwreiddiau Beiblaidd

[golygu | golygu cod]

Mae athrawiaeth Dydd y Farn a'r ffordd y mae'n cael ei phortreadu mewn llenyddiaeth a chelf wedi'u tynnu o lawer o ddarnau o adrannau apocalyptaidd y Beibl, ond yn fwyaf nodedig o ddysgeidiaeth Iesu yn Efengyl Mathew ac yn Efengyl Luc.

Mae Efengyl Mathew yn sôn am y farn derfynol:

Yn wir, rwy'n dweud wrthych y caiff tir Sodom a Gomorra lai i'w ddioddef yn Nydd y Farn na'r dref honno. (Mathew 10:15)[1]

Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl angylion gydag ef, yna bydd yn eistedd ar orsedd ei ogoniant. Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli'r defaid oddi wrth y geifr, ac fe esyd y defaid ar ei law dde a'r geifr ar y chwith. Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, "Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu'r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd." ... Yna fe ddywed wrth y rhai ar y chwith, ‘Ewch oddi wrthyf, chwi sydd dan felltith, i'r tân tragwyddol a baratowyd i'r diafol a'i angylion. ... Ac fe â'r rhain ymaith i gosb dragwyddol, ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol. (Mathew 25:31–4, 41, 46)

Darluniau o Ddydd y Farn

[golygu | golygu cod]

Roedd Dydd y Farn yn thema gyffredin mewn eiconograffeg grefyddol yr Oesoedd Canol a'r Dadeni Dysg. Roedd darluniadiau (wedi'u peintio neu wedi'u cerfio) o Iesu yn barnu'r meirw yn gyffredin mewn eglwysi, naill ai y tu allan ar dympanwm dros y fynedfa neu y tu mewn ar y wal orllewinol.

Allorlun gan Fra Angelico (1387–1395) yn darlunio Dydd y Farn. Ar y brig mae Iesu yn eistedd ar yr orsedd farn, wedi'i amgylchynu gan seintiau. Yn y canol oddi tano mae rhesi o feddau agored y mae'r meirw wedi codi ohonynt. Islaw llaw dde Iesu mae'r eneidiau a achubwyd yn cael eu harwain tuag at baradwys gan angylion. Islaw ei law chwith mae'r eneidiau condemniedig yn cael eu gyrru tuag at uffern gan gythreuliaid.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]