Mercher y Lludw

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Dydd Mercher y Lludw)
Lludw ar dalcen Cristion Americanaidd.

Diwrnod cyntaf Tymor y Grawys ydy Dydd Mercher y Lludw, yn ôl y Calendr Cristnogol, ac yn fwy na dim: diwrnod o ympryd. Caiff ei gynnal 46 diwrnod cyn y Pasg, 40 o ddyddiau ympryd, gyda chwe Sul nad ydynt yn cael eu cyfri'n ddyddiau ympryd. Dydd Mawrth Ynyd yw'r diwrnod sy'n ei ragflaenu.

Daw'r enw o'r arferiad o roi lludw ar dalcen person i ddangos ei fod yn edifarhau ac mewn galar. Daw'r traddodiad hwn o'r arferiad o sychu dail y palmwydd, a gysegrwyd ar Sul y Blodau, flwyddyn ynghynt, eu llosgi a defnyddio'u lludw i ffurfio siap croes gan lefaru'r geiriau "Edifarhewch, a chredwch yn yr Efengyl" neu "Cofiwch mai o lwch y daethoch ac i'r llwch y dychwelwch".[1]

Yn ôl yr Efengyl yn ôl Mathew, Yr Efengyl yn ôl Marc a'r Efengyl yn ôl Mathew, treuliodd Crist 40 diwrnod yn ymprydio yn yr anialwch, fel paratoad ar gyfer ei Groeshoelio; yno cafodd ei demtio gan y Satan.[2]

Mae Mercher y Lludw yn digwydd ar dyddiau hyn yn y blynyddoedd nesaf:

  • 2016 – Chwefror 10
  • 2017 – Mawrth 1
  • 2018 – Chwefror 14
  • 2019 – Mawrth 6
  • 2020 – Chwefror 26
  • 2021 – Chwefror 17
  • 2022 – Mawrth 2
  • 2023 – Chwefror 22

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  1. Roman Missal: Ash Wednesday
  2. "What is Lent and why does it last forty days?". The United Methodist Church. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 October 2007. Cyrchwyd 24 August 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)