Dydd Iau Dyrchafael

Oddi ar Wicipedia
Christi Himmelfahrt gan Gebhard Fugel, c. 1893

Gŵyl eciwmenaidd, Gristnogol yw Dydd Iau Dyrchafael neu Ddifiau Dyrchafael (sef 'dydd Iau y Dyrchafael') sy'n cyfeirio at gorff Crist yn codi o'r Ddaear i'r Nefoedd; fe'i seiliwyd ar adnod 1:3 yn yr Actau. Caiff yr ŵyl hon ei dathlu ar ddydd Iau, fel yr awgryma'r enw: ar y 40fed dydd o'r Pasg. Fe'i dethlir gan y rhan fwyaf o eglwysi Cristnogol ar y dydd hwn, ond mae rhai wedi'i symud i'r dydd Sul wedyn.

Cofnodwyd y term yn Gymraeg am y tro cyntaf gan Ieuan Deulwyn yn y 15g.[1]

Dathlwyd yr ŵyl yn gynnar iawn gan yr Eglwys Fore, mor bell yn ôl â'r 4g.[2] Mynnodd Awstin o Hippo yn y 5g mai ei tharddiad oedd yr Apostolion eu hunain, ac o'i ddisgrifiad gwyddys fod yr ŵyl wedi'i derbyn yn gyffredinol ac yn rhan bwysig ymhell cyn y 5g. Sonia'r saint John Chrysostom a Gregory o Nyssa - a 'Chyfansoddiad yr Apostolion' amdani'n aml.[3]

Yng ngwledydd Prydain, mewn rhai mannau arferid cerdded (neu 'guro') ffiniau'r plwyf ar y dydd hwn (e.e. Eglwys St Michael at the North Gate, Rhydychen). Arferai'r plwyfolion gerdded y meini a ddangosai ymhle roedd ffin y plwyf, gan farcio pob carreg gyda sialc a tharo'r cerrig gyda ffyn. Yn y gorffennol, arferid taro bechgyn ifanc y plwyf yn hytrach na'r cerrig, fel rhybydd na ddylent adael y plwyf wrth chwilio am gariadon. Ceid seremoni debyg yn Llantrisant, ond yng Ngorffennaf y cynhelid hwnnw.[4] Felly hefyd fannau eraill yng Nghymru.

Mewn llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Sgwennodd Saunders Lewis gerdd o'r enw Difiau Dyrchafael:

Beth sydd ymlaen fore o Fai ar y bronnydd?
Edrychwch arnynt, ar aur y banadl a’r euron
A’r wenwisg loyw ar ysgwyddau’r ddraenen
Ac emrallt astud y gwellt a’r lloi llonydd;
Gwelwch ganhwyllbren y gastanwydden yn olau,
Y perthi’n penlinio a’r lleian fedwen fud,
Deunod y gog dros ust llathraid y ffrwd
A’r rhith tarth yn gwyro o thuser y dolau:
Dowch allan, ddynion, o’r tai cyngor cyn
Gwasgar y cwning, dowch gyda’r wenci i weled
Codi o’r ddaear afrlladen ddifrycheulyd
A’r Tad yn cusanu’r Mab yn y gwlith gwyn.
Saunders Lewis

Sgwennodd William Blake hefyd gerdd (Saesneg) yn 1794 o'r enw Holy Thursday.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC); adalwyd Mawrth 2016
  2. Eusebius 'Life of Constantine' IV.54
  3. Louis Duchesne, Christian Worship: Its Origin and Evolution (Llundain, 1903), 491-515.
  4. Gwefan y BBC; adalwyd 24 Mawrth 2016