Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Dydd Ewyllys Da)
Logo gwreiddiol yr Urdd

Bob blwyddyn yn ddi-dor ers 28 Mehefin 1922, mae plant a phobl ifanc Cymru wedi ysgrifennu ac anfon Neges Heddwch ac Ewyllys Da at blant a phobl ifanc y byd, a hynny ar Ddydd Ewyllys Da, sef 18 Mai.

Does dim un wlad arall yn y byd wedi llwyddo i wneud hyn, gan oroesi rhyfeloedd byd a newidiadau sylweddol mewn dulliau cyfathrebu, o gôd Morse i radio a'r gwasanaeth postio, i'r rhwydweithiau digidol heddiw.

Datblygir y neges hyd heddiw fel ymateb i ddigwyddiadau cyfoes, a thros y blynyddoedd derbyniwyd sawl ymateb o wledydd eraill. Mae'r broses o ysgrifennu ac anfon neges ar ran pobl ifanc Cymru at bobl ifanc ar draws y byd wedi ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol. Ers 1955, Urdd Gobaith Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am drefnu bod y neges yn cael ei hysgrifennu a'i rhannu bob blwyddyn.[1]

Yn 2019 aethpwyd â lansiad y Neges y tu hwnt i Glawdd Offa am y tro cyntaf erioed, gan fynd â phobl ifanc o Gymru ar ymweliad ag academi sy'n gweithio gyda phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yn Llundain - yr Eastside Young Leaders Academy.

Yn 2020, newidiwyd thema'r Neges o ymbweru merched i Stopio'r Cloc ac Ailddechrau "Er mwyn adlewyrchu gwir ddyheadau pobl ifanc Cymru, newidiwyd thema’r Neges eleni wrth iddynt geisio gwneud synnwyr o’r byd yn ystod argyfwng feirws Covid-19. Mae’n lythyr at y byd, ac yn arbennig at arweinwyr, yn galw arnom i beidio a dychwelyd i’r hen ffordd ddinistriol o fyw." [2]

Mae'r neges wedi ei hysgrifennu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Cynigiwyd y syniad o ddanfon "Neges o Ewyllys Da" gan y Parch. Gwilym Davies MA yng Nghynhadledd Ieuenctid Ysgol Gwasanaeth Cymdeithas Cymru ('Adolecent Conferecnce of the Welsh School of Social Service') a gynhaliwyd yn Llandrindod dros Sulgwyn 1922. Roedd Davies yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru a chynigiodd bod neges yn cael ei llunio gan ddisgyblion ysgol "holl 13 sir Cymru a Sir Fynwy" (roedd amwysedd ar y pryd os oedd Sir Fynwy (Gwent) yn rhan gyfansoddiadol o Gymru), dywedir "the suggestion was adopted with enthusiasm".[4] Aethpwyd ati i dderbyn cynigion gan ysgolion ac i Davies drefnu'r darllediad.

Mae'r Neges Heddwch ac Ewyllys da yn cael ei rhannu ar 18 Mai, dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn yr Hag yn 1899. Anfonwyd y Neges Heddwch ac Ewyllys Da gyntaf ar ffurf côd Morse drwy Swyddfa'r Post ar 28 Mehefin 1922, gan y Parch Gwilym Davies o Gwm Rhymni.[1] Mae wedi ei chyhoeddi'n ddi-dor ers hynny. Yn 1922, ymatebodd cyfarwyddwr gorsaf radio Tŵr Eiffel ym Mharis i'r neges drwy ei hailanfon o Dŵr Eiffel[5] a hynny mewn côd Morse. Yn 1924, derbyniwyd ymateb gan Archesgob Uppsala yn Sweden ac un oddi wrth weinidog addysg Gwlad Pwyl.

Darlledwyd y neges ar y BBC World Service am y tro cyntaf ym 1924[6], ac erbyn hyn mae'n cael ei chyfieithu i dros 40 o ieithoedd ac yn cael ei harddangos ar y we.

Cafwyd yr ymatebion cyntaf i'r Negeseuon Ewyllys Da yn 1924 gan gynnwys gan Archesgob Upsala [sic.] yn Sweden, Gweinidog Addysg Gwlad Pwyl, Millaszewski [sic.]. Gofynnwyd yn 1925, unwaith eto, i'r ymatebion i'r Neges cael eu danfon at ysgogydd y syniad, y Parch D.M. Davies yn swyddfa Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, 10, Richmond Terr, Park Place, Caerdydd.[4] Cafwyd ymatebion gan, ymysg eraill Léon Bourgeois (Gwladweinydd Ffrengig a meddyliwr ar y chwith), Paul Hymans (gwleidydd Ryddfrydol Belgaidd ac ail Ysgrifennydd Cyffredinol Cynghrair y Cenhedloedd) a Syr Eric Drummond, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynghrair y Cenhedloedd a Gweinidogion Addysg Siecoslofacia (Czecho-Slovakia) a'r Ffindir. Efallai'n annisgwyl cafwyd ymateb hefyd gan "Signior Mussolini", sef, arweinydd Ffasgaidd Yr Eidal. Yn 1925 cafwyd hefyd yr ymateb gyntaf o'r UDA i'r Neges a hynny gan Public School 6, Manhattan, Efrog Newydd a gafwyd erthygl am y fenter yn rhifyn mis Rhagfyr 1925 o'r cylchgrawn Americanaidd i blant, Everyland.[7]

Cafwyd 736 o ymatebion i'r Neges Heddwch ac Ewyllys Da ym 1938. Daeth 124 o'r ymatebion yma o'r Unol Daleithiau, a 304 o Rwmania.

Rhoddwyd cyfrifoldeb am gyhoeddi'r neges yn flynyddol i Urdd Gobaith Cymru yn y pumdegau. Bellach mae'n cael ei hysgrifennu'n flynyddol gan aelodau o Fwrdd Syr IfanC a Cymraeg Bob Dydd yr Urdd.

Neges ryngwladol[golygu | golygu cod]

Ni chafwyd ymateb i'r neges gyntaf yn 1922, er i gyfarwyddwr gorsaf y Tŵr Eiffel anfon y neges yn ei blaen. Fodd bynnag, ymhen deng mlynedd roedd 68 o wledydd wedi ymateb i neges pobl ifanc Cymru. Mae'r rhain yn gofnodion pwysig o farn bobl ifanc o'r gwledydd hyn, ac mae casgliad cynhwysfawr o'r ymatebion ar gael yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dros y degawdau cynhyrchwyd poster i gyd-fynd gyda'r neges a hynny gyda thema wahanol yn flynyddol.[8] Mae'r negeseuon fel rheol yn yr ieithoedd Celtaidd, prif ieithoedd Ewrop a nifer o ieithoedd eraill, mawr a bach y byd, gan gynnwys Esperanto[9] Rhan o draddodiad y Negeseuon yw bod plant o wledydd tramor yn ymateb i neges o Gymru a hynny'n aml ar ffurf llythyrau a darluniau.[10][11]. Erbyn heddiw daw'r ymateb ar y cyfan ar ffurf ebost neu luniau a fideos wedi eu rhannu dros y cyfryngau cymdeithasol.

Gellir gweld y Negeseuon diweddaraf, gan gynnwys fideo a grëwyd yn 2018 am y tro cyntaf, drwy fynd i wefan yr Urdd.[6]

Ceir pecynnau addysg yn flynyddol i athrawon a disgyblion eu dilyn ynghyd â phosteri o'r neges mewn gwahanol ieithoedd.[12]

Dyma rai o ymatebion o dramor i'r negeseuon a rannwyd yn rhyngwladol yn y gorffennol:

  • 1946 - Yr Almaen: “It is years since we have heard from the Welsh Children. How it grew dark! We should like to hear from you again.”
  • 1958 - Ariannin: “Mae’r gobeithion ar ieuenctid y byd, ac rydym ninnau ar y cyd gyda chi, am wireddu’r gobeithion hyn.”
  • 1972 - Gweriniaeth Siec: “Rhaid i ni uno yn gwrthwynebu grym y cenhedloedd mawr sy’n dymuno gwaredu’r byd o’r holl ieithoedd, diwylliannau a chenhedloedd ‘gwirion a disynnwyr o fach’.”[13]

Themâu y Negeseuon[golygu | golygu cod]

Roedd y neges gyntaf yn 1922 ac, yn ôl copi o daflen o 1925 ymddengys iddo fod yr un neges yn 1923, 1924 ac 1925.[4] Bydd y defnydd o'r Gymraeg a'r cyfeiriad at Gymru yn ymddangos yn ddiarth i ddarllenwyr cyfoes, dywedir: “Cenadwri Plant Cymru at Blant yr Holl Fyd trwy gyfrwng y Pellebr Diwifr.” (“Tywysogaeth Cymru a Mynwy”) Themâu: Bendith Duw, pob gwlad a chenedl, rhoi terfyn ar yr hen gwerylon, Cyfamod Cynghrair y Cenhedloedd, cyfaill pob mam. Dyfyniad: “Yna ni bydd raid i neb ohonom, pan awn yn hŷn, ddangos ein cariad tuagat wlad ein genedigaeth trwy gashau a lladd y naill y llall.”

Mae gan bob neges flynyddol thema arbennig. Mae nifer o'r themâu yn adlewyrchu sefyllfa a gwleidyddiaeth Cymru a'r byd ar yr adeg hwnnw. Er enghraifft:

  • 2020 - Thema'r Neges fydd Stopio'r Cloc ac Ailddechrau.[14]
  • 2019 - Llais [15] - codi llais i sefyll gyda phlant a phobl ifanc y byd sy'n dioddef o drais - trais cyllyll, trais gynnau a thrais drwy ryfel. Crewyd ar ffurf fideo a poster Archifwyd 2019-07-11 yn y Peiriant Wayback..
  • 2018 - Gobaith [16]- crëwyd gan bobl ifanc o ardal Morgannwg Ganol ar ffurf fideo yn ogystal â phoster am y tro cyntaf erioed.
  • 2015 - Cymru well gan ddefnyddio metaffor llong y Mimosa a hwyliodd i greu Cymru newydd yn y Wladfa.[17]
  • 2011 - thema 'Afghanistan' yn sgil y rhyfel yno yr oedd lluoedd Prydain yn rhan ohono.[18]
  • 2010 - y bygythiad i'r byd o newid hinsawdd a'r angen i weithredu'n sydyn.[19]
  • 1998 - sychder Ethiopia.[20]
  • 1986 - Cymru yn wlad ddiniwclear.[9]
  • 1970 - clawr modernaidd iawn a tu fewn i'r cylchgrawn rhestrir noddwyr sy'n cefnogi'r fenter gan gynnwys ysgolion o Gymru ac unigolion a sefydliadau o Gymru a thramor.[21]
  • 1969 - clawr Martin Luther King a lofruddiwyd y flwyddyn flaenorol. Y neges oedd, "Gallwn obeithio am fyd lle na fydd raid i’r un genedl ddioddef gormes gan genedl arall, a lle gwelir gorseddu brawdgarwch yn lle rhyfel, cariad yn lle casineb, a chyfiawnder yn lle trais.” Mae'r llyfryn hefyd yn cynnwys trosolwg ar 45 mlynedd gyntaf y neges.
  • 1939 - ail-adroddwyd neges 1938, "“Y mae ar y byd fwy o angen, heddiw nag erioed, am yr hyn na all neb ei roddi ond nyni, sef hyder a chyfeillgarwch yr ifanc.” [22]
  • 1933 - clawr gyda darlun o blant o wahanol wledydd a hiloedd y byd, yn dal dwylo yn eu gwisgoedd traddodiadol a dawnsio o gylch y byd, gyda merch yn y wisg Gymreig fwyaf amlwg.[23]
  • 1932 - cyhoeddwyd taflen 16 ochr neges gyda'r ddelwedd gyntaf ar y clawr - ffotograff o fachgen ifanc ar y radio a'r slogan "it's working!" a'r Neges Heddwch ac Ewyllys Da: “Neges Radio Ieuenctid Cymru i’r Byd.” Themâu: radio, “y mae’r byd yn awr megis un pentref mawr gan ein bod wedi ein dwyn o fewn clyw i’n gilydd”, arloeswyr, “am y rhai a roddodd adenydd i eiriau ehedeg o gyfandir i gyfandir. Hwynthwy oedd arwyr ffydd a gweledigaeth a gynorthwyodd i wneuthur ein byd yn gymdogaeth.” Tu fewn y daflen am y Neges y flwyddyn honno geir braslun o'r bobl a ddatblygodd darlledu radio fel technoleg a hefyd crynoad o rai o'r ymatebion tramor i'r negeseuon flaenorol gan gynnwys gwledydd more amrywiol â "Siska" yn Iwgoslafia (efallai Šiška sy'n rhan o Ljubljana yn Slofenia gyfoes), Latfia a thaleithiau megis Nova Scotia, Transvaal. Ceir neges torcalonnus o eironig gan Emma Finck, athrawes ar ran ei hysgol yn Hamburg yr Almaen, lle sonia am "I am convinced that the Welsh children's World Wireless Message will help us to save the world and to strengthen the confidence between the nations".[24] Ceir crynodeb o'r neges yn y daflen yn y Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Edidaleg ac Esperanto.
  • 1925 - Neges o heddwch a dilyn cennad Cynghrair y Cenhedloedd, ymddengys mai dyma oedd yr un neges a ddefnyddiwyd yn 1922 hyd o leiaf 1927 fel fe'i darlledwyd dros y radio.[4]

Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2019[golygu | golygu cod]

  • Cyrhaeddodd y Neges dros 5.2 miliwn o bobl ar draws y byd drwy #heddwch2019 ar y cyfryngau cymdeithasol.[25]
  • Cafodd y fideo ei chwarae 96,000 o weithiau hyd diwedd Mehefin 2019, a gwnaeth dros 20,000 ymgysylltu ar Instagram
  • Cyrhaeddwyd o leiaf 35 o wledydd a cyfieithwyd y Neges i 44 o ieithoedd.[26]

Derbyniwyd fideos dros y cyfryngau cymdeithasol gan yr actor Hollywood Matthew Rhys, Sadiq Khan (Maer Llundain), Eluned Morgan AC a Liz Saville Roberts AS yn ogystal â nifer fawr o ysgolion, unigolion, grwpiau a sefydliadau. Crëwyd ymateb fideo gan aelodau o'r Urdd yn Ynys Mon, mewn partneriaeth a Menter Iaith Mon, Multi-Tool Media a Ysgol Uwchradd Bodedern.

Un ymateb gafwyd o Galiffornia yn yr UDA oedd rap a sgwennwyd gan fachgen ifanc yn cyfeirio'n arbennig at godi llais yn erbyn trais gynnau, ac a rannwyd drwy fideo ar YouTube.

Derbyniwyd ymatebion ysgrifenedig yn eu cannoedd gan gynnwys gan yr actor Michael Sheen, Mark Drakeford (Prif Weinidog Cymru), yr actor Iwan Rheon, y cerddor Mei Gwynedd, yr actor Aneurin Barnard, y gwleidydd Mhairi Black AS, y canwr Lloyd Macey, y cogydd Beca Lyne-Pirkis, Bardd Plant Cymru, a Llywydd Cynulliad Cymru Elin Jones AC.  

Am y tro cyntaf erioed lansiwyd y Neges[27] y tu allan i Gymru, gan weithio gyda'r Eastside Young Leaders Academy aethpwyd a grŵp o Ysgol Uwchradd Plasmawr, Caerdydd a chynrychiolwyr o Fwrdd Syr IfanC a Chymraeg Bob Dydd. Gweithiwyd hefyd gyda phrosiect Fearless elusen Crimestoppers fu'n cynnal gweithdai yn Ysgol Plasmawr ac yn EYLA er mwyn dysgu mwy am effeithiau trais, a thrais cyllyll yn arbennig ar bobl ifanc.

Fel rhan o’r bartneriaeth gyda EYLA, gwahoddwyd nhw i ymweld ag Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd 2019 lle cawsant ddiwrnod llawn gweithgareddau gan gynnwys bod yn rhan o’r gynhadledd i’r wasg, ymweliad â’r Senedd, cyfle i grwydro’r maes, a bod yn y gynulleidfa yn ystod y seremoni. Yn ogystal â hyn cafwyd diddordeb mawr gan y cyfryngau a cynhaliwyd cyfweliadau gyda rhaglenni amrywiol ar Radio Cymru, Radio Wales ac S4C.

Cyflwynwyd y Neges ar lwyfan y pafiliwn, ac yn fyw ar S4C, gan Ethan Williams, Llywydd yr Urdd a Lena Zaharah, aelod o Cymraeg Bob Dydd a Bwrdd Syr IfanC fu’n rhan o’r ffilm, o greu’r neges ac o’r daith i Lundain. Dangoswyd fideo o rai o bobl ifanc EYLA yn adrodd llinellau o’r neges yn Gymraeg, yn ogystal â’r Neges ei hun ar fideo.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 The Story of the Urdd (1922-1972), tud 212-213
  2. "Urdd Gobaith Cymru / Neges Heddwch ac Ewyllys Da". www.urdd.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-23.
  3. Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru - Erthygl BBC Cymru
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 https://www.casgliadywerin.cymru/items/502465
  5. The Story of the Urdd (1922-1972), tud 23
  6. 6.0 6.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-05. Cyrchwyd 2019-05-05.
  7. https://www.casgliadywerin.cymru/items/502490
  8. https://www.casgliadywerin.cymru/discover/query/neges%20heddwch
  9. 9.0 9.1 https://www.casgliadywerin.cymru/items/522005
  10. https://www.casgliadywerin.cymru/items/920546
  11. https://www.casgliadywerin.cymru/items/921106
  12. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-05. Cyrchwyd 2019-05-05.
  13. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-13. Cyrchwyd 2016-06-03.
  14. "Urdd Gobaith Cymru / Neges Heddwch ac Ewyllys Da". www.urdd.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-02-07.
  15. Urdd Gobaith Cymru (2019-05-16), Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2019 (Isdeitlau Cymraeg), https://www.youtube.com/watch?v=LKI--YMFW7Q, adalwyd 2019-07-11
  16. Urdd Gobaith Cymru (2018-05-17), Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2018, https://www.youtube.com/watch?v=PLRick_FLqE, adalwyd 2019-07-11
  17. https://www.urdd.cymru/files/7514/2893/9032/nhed_2015_cymraeg.pdf
  18. https://www.urdd.cymru/files/2214/1052/1246/2011Cymrae.pdf
  19. https://www.urdd.cymru/files/9214/1052/1247/2010Cymraeg.pdf
  20. https://www.casgliadywerin.cymru/items/522041
  21. https://www.casgliadywerin.cymru/items/502931
  22. https://www.casgliadywerin.cymru/items/502644
  23. https://www.casgliadywerin.cymru/items/502565
  24. https://www.casgliadywerin.cymru/items/502553
  25. "Urdd Gobaith Cymru / Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2019". www.urdd.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-07-11.
  26. "Urdd Gobaith Cymru / Neges Heddwch Pecyn Addysg". www.urdd.cymru (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-11. Cyrchwyd 2019-07-11.
  27. "Mynd â Neges Ewyllys Da'r Urdd i Lundain" (yn Saesneg). 2019-05-17. Cyrchwyd 2019-07-11.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]