Dusolina Giannini

Oddi ar Wicipedia
Dusolina Giannini
Ganwyd19 Rhagfyr 1902 Edit this on Wikidata
Philadelphia Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mehefin 1986 Edit this on Wikidata
Zürich Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Dusolina Giannini (19 Rhagfyr 1902 - 29 Mehefin 1986) yn soprano Americanaidd o dras Eidalaidd a oedd yn nodedig am ei pherfformiadau o arlwy opera'r Eidal.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganed Giannini yn Philadelphia i rieni o'r Eidal ac astudiodd gyda'i thad, Ferruccio Giannini, a oedd yn denor ac yn rhedeg ei gwmni opera ei hun. Roedd ei mam, Antonietta Briglia-Giannini, yn feiolinydd rhagorol. Roedd ei chwaer, Euphemia Giannini Gregory, hefyd yn gantores ac yn athrawes gerdd, daeth un o’i brodyr yn sielydd a’r llall, Vittorio Giannini, yn gyfansoddwr adnabyddus.[2] Cafodd wersi canu gan ei thad ac wedyn gan Marcella Sembrich yn Ninas Efrog Newydd.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Giannini ei gyrfa fel cantores cyngerdd ym 1923, yn Efrog Newydd, gan ymddangos yn Lloegr hefyd.[3]

Gwnaeth ei début operatig yn Hamburg ym 1925 yn chware rôl y teil yn Aida gan Giuseppe Verdi. Aeth ymrwymiadau dilynol â hi i Ferlin, Fienna a Covent Garden, yn ogystal ag i Salzburg (1934-6), lle canodd Donna Anna yn Don Giovanni, Mozart o dan arweiniad Bruno Walter ac Alice Ford yn Falstaff Verdi o dan Arturo Toscanini. Yn 1938 creodd rhan Hester Prynne yn The Scarlet Letter, opera gan ei brawd, Vittorio. Dechreuodd ei gyrfa yn Opera Metropolitan, Efrog Newydd gydag Aida ym 1936 a pharhaodd tan 1941.[4] Yn ystod y cyfnod hwnnw bu hefyd yn chwarae rhan Donna Anna, Santuzza yn Cavalleria rusticana a rôl y teitl yn Tosca. Ar ôl ymddangos yn Chicago (1938-42) a San Francisco (1939-43) cymerodd ran yn nhymor cyntaf Opera Dinas Efrog Newydd (1943), fel Tosca yn y sioe agoriadol, ac yna yn rôl deitl Carmen a gan adfer ei rôl fel Santuzza. Gwahoddodd Siegfried Wagner hi i ganu Kundry yn Parsifal yng Ngŵyl Bayreuth, ond, fel yr esboniodd Giannini, "ymyrrodd dyn o’r enw Hitler â fy nghynlluniau.[5] Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, parhaodd i ymddangos ym Mharis, Llundain, Berlin a Fienna.

Ymddeolodd o'r llwyfan ar ddechrau'r 1960au ac yna trodd at ddysgu, yn Zurich yn bennaf.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn Zurich yn 83 mlwydd oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]