Dueglys Iwerydd
Dueglys Iwerydd Plagiochila bifaria | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Plagiochilaceae |
Genws: | Plagiochila |
Rhywogaeth: | P. bifaria |
Enw deuenwol | |
Plagiochila bifaria |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Dueglys Iwerydd (enw gwyddonol: Plagiochila bifaria; enw Saesneg: Killarney featherwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Yr hen enw ar y rhywogaeth hon oedd Plagiochila killarniensis.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru yn enwedig ar dir sydd ychydig yn galchog.
Disgrifiad[golygu | golygu cod]
Mae P. killarniensis fel arfer yn ffurfio twmpathau neu glytiau gwyrdd tywyll, brown golau neu borffor-frown, er y gall haenau mwy helaeth ddatblygu mewn safleoedd ffafriol. Mae 'r coesynnau'n tyfu hyd at 3 mm o led, ac mae'r dail bob yn ail ac fel arfer yn cael eu gorchuddio ac yn gorgyffwrdd, gyda dau ddant mawr ar y pigyn a dannedd pigog afreolaidd ar yr ymyl gefn.
Cynefin[golygu | golygu cod]
Mae Dueglys iwerydd (P. killarniensis) fel arfer yn tyfu ar greigiau a choed yng nghoetiroedd yr Iwerydd, ond gall gyrraedd llethrau ar dir uwch os gall ddod o hyd i gysgod a lleithder.
Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]
- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.