Drudwen (gyffredin)

Oddi ar Wicipedia
Drudwen
Sturnus vulgaris

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Sturnidae
Genws: Sturnus[*]
Rhywogaeth: Sturnus vulgaris
Enw deuenwol
Sturnus vulgaris

,



,



Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Drudwen (gyffredin) neu weithiau Aderyn yr eira (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: drudwy) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Sturnus vulgaris; yr enw Saesneg arno yw Common starling. Mae'n perthyn i deulu'r drudwy (Lladin: Sturnidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]

Dyma aderyn sydd i'w gael yng Nghymru a gwledydd eraill Prydain. Mae'r ddrudwen yn gyffredin yn Ewrop a gorllewin Asia, ac mae hefyd wedi ei chyflwyno i lawer o wledydd a chyfandiroedd eraill, er enghraifft Gogledd America, Awstralia a De Affrica. Yn y gaeaf, mae'n symud tua'r de neu tua'r gorllewin.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn S. vulgaris, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop ac Affrica.

Drudwennod yn Clwydo[golygu | golygu cod]

Drudwennod Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd

Ymddengys ei bod yn arferiad gan ddrudwennod ymgasglu yn eu cannoedd neu hyd yn oed filoedd i glwydo. Mae Gwarchodfa Natur Conwy wedi bod yn gyrchfan boblogaidd ganddynt. Gwelwyd sawl tystiolaeth ohonynt yn ymgasglu dan Bier Aberystwyth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yng ngwanwyn 2018 gwelwyd miloedd o ddrudwennod yn clwydo dan Bier Bae Colwyn hefyd. Mae contractwyr yn y broses o glirio'r pier o'r safle oherwydd bod Cyngor Bwrdeistref Conwy yn bryderus ynglŷn â'i gyflwr. O fewn ychydig fisoedd bydd y lloches yma'n diflannu. Tynnwyd y lluniau ar nos Sul, Chwefror 25, 2018 tua 1730.

Mae rhain yn closio uwchben y pier
Mae rhain yn closio uwchben y pier 
Sylwer pa mor agos at ei gilydd mae rhain yn hedfan
Sylwer pa mor agos at ei gilydd mae rhain yn hedfan 
Drudwennod ar ben to'n aros am weddill y teulu, cyn diflannu o'r golwg o dan y pier.
Drudwennod ar ben to'n aros am weddill y teulu, cyn diflannu o'r golwg o dan y pier. 

Dyma'r clwydfannau a oedd yn bodoli ddechrau'r 20g:

Yn un o rifynnau cyntaf y Journal of Animal Ecology (Rhif 8, 1933)[3] cyhoeddodd B.J. Marples ganlyniadau arolwg adaryddol cynnar (a'r unig un o'i fath hyd heddiw mae'n debyg) o glwydfannau drudwennod ym Mhrydain o'r enw The Winter Starling Roosts of Great Britain 1932-33. Dyma ganlyniadau gwreiddiol yr arolwg parthed Cymru - gellir eu cymharu a'r sefyllfa bresennol. Sylwch nad oedd clwydfan anferth a dramatic drudwennod pier Aberystwyth yn bod yr adeg honno, a chredai Marples iddo lwyddo i gofnodi y rhan fwyaf o glwydfannau Prydain.

Clwydfannau drudwennod yng Nghymru 1930au
Sir (BJM) Safle (BJM) Safle (Cymraeg)
Anglesey
(Môn)
Clwydfannau drudwennod yng Nghymru 1930au)
p,n EE OO EO OE Total
Stable 147 5 53 48 253
Long-lived 21 4 3 5 33
All primordial 168 9 56 53 286

Sir (BJM) Anglesey Brecon Cardigan Carmarthen Carmarthen Carnarvon Carnarvon Carnarvon Flint Glamorgan Glamorgan Glamorgan Glamorgan Glamorgan Merioneth Monmouth Montgomery Pembroke Pembroke Pembroke Pembroke Radnor Gladestrey Safle (BJM) Maelog Lake Llangorse Lake Cardigan Carmarthen Whiteland Aberdaron Afon Wen Great Orme Prestatyn Oxwich Swansea St Fagans Barry Island Rhymny Viaduct Aberdovey Tredegar Estate Newport Llanymynech Upton Bottoms Kingsbridge Fishguard Skokholm Llanfair Safle (Cymraeg) Llyn Maelog Llyn Syfaddan Aberteifi Caerfyrddin Hendy-gwyn Aberdaron Afon Wen Pen y Gogarth Prestatyn Abertawe Sain Ffagan Ynys y Barri Pont Cario Dwr Rhymeri (?) Aberdyfi YstâdTredegyr, Casnewydd Llanymynech Abergwaun Sgogwm Llythynwg

Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r ddrudwen (gyffredin) yn perthyn i deulu'r Adar Drudwy (Lladin: Sturnidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Dringwr pen plaen Rhabdornis inornatus
Drudwen Dawria Agropsar sturninus
Drudwen Sri Lanca Sturnornis albofrontatus
Drudwen adeinwen Neocichla gutturalis
Drudwen benllwyd Sturnia malabarica
Drudwen dagellog Creatophora cinerea
Drudwen ylfinbraff Scissirostrum dubium
Maina Bali Leucopsar rothschildi
Maina Mynydd Apo Goodfellowia miranda
Maina eurben Ampeliceps coronatus
Sturnia pagodarum Sturnia pagodarum
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Perthynas â'r Cymry[golygu | golygu cod]

Yn haf 1923 wrth iddo ymyrryd yn ddamweiniol â chladdfa Rufeinig ar ei dir ar fferm Magna Castra ger Henffordd, daeth y perchen o hyd i nifer o esgyrn deifiedig mewn dwy wrn neu biser 6 modfedd o uwchder. Adnabuwyd yr esgyrn gan Dr. P.R. Lowe fel rhai y ddrudwen. Beth oedd arwyddocad yr adar hyn tybed i bobl y cyfnod?[4]

Enwau Rhanbarthol, tafodieithol neu hynafol[golygu | golygu cod]

Drudws, Drudwy, Aderyn Diarth, Drudan, Trwdws Dyrnod yr Eira, Trwdan Dridw, Drudwst, Driddus, Aderyn Du’r Eira

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Marples, B.J. (1933): Journal of Animal Ecology (Rhif 8, 1933
  4. H. A. GILBERT. British Birds 1924
Safonwyd yr enw Drudwen gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.