Gary Robert Jenkins

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Dr Gary Robert Jenkins)
Gary Robert Jenkins
Ganwyd14 Hydref 1966 Edit this on Wikidata
Bu farw5 Awst 2021 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethseiciatrydd Edit this on Wikidata

Roedd Dr Gary Robert Jenkins, neu, fel rheol, Dr Gary Jenkins (14 Hydref 1966 - 5 Awst 2021) yn feddyg 54 oed a laddwyd mewn ymosodiad homoffobig yng Nghaerdydd ar 20 Gorffennaf 2021.[1]

Ymosodiad[golygu | golygu cod]

Bu farw Dr Gary Jenkins, 54, yn yr ysbyty dros bythefnos ar ôl i'r tri - Jason Edwards, Lee Strickland, a Dionne Timms-Williams, 17, - ymosod arno a'i arteithio am bron i chwarter awr ym Mharc Bute, Caerdydd yn oriau mân 20 Gorffennaf 2021. Roedd y ferch, Dionne Timms-Williams oedd ond yn 16 oed ar y pryd. Dyfarnwyd 3 person yn euog o'i lofruddio yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 3 Chwefror 2022.[2]

Bu i Jenkins ddioddef chwarter awr o ymosodiad gan y tri person. Aethpwyd ef i Ysbyty Prifysgol Cymru Caerdydd i'w drin ond ni bu posib ei achub. Ar ôl i'r achos ddod i ben cyhoeddodd teulu Dr Jenkins ddatganiad i'r heddlu yn talu teyrnged i'r tad i ddau o blant uchel ei barch a hefyd yn diolch i'r tystion, Owain Hill a Louis Williams, a geisiodd gymorth ar adeg yr ymosodiad. Ceisiodd Mr Williams yn arwrol ddefnyddio ei gorff fel tarian ac ymosodwyd arno ei hun.[3] Dioddefodd Jenkins anaf i'w ymennydd a thoriadau i'w wyneb a'i asennau, a bu farw 16 diwrnod yn ddiweddarach. Roedd cydweithwyr Jenkins wedi ei rybuddio ac yn poeni amdanno yn mynychu parc Bute fin nos oherwydd hanes o ymosodiadau yno.[4]

Ymateb i'r Llofruddiaeth[golygu | golygu cod]

Roedd Jenkins yn agored ddeurywiol.[5] Achosodd llofruddiaeth Jenkins ymateb gref o bryder ac anniddigrwydd gan nifer, yn enwedig yn y gymuned hoyw. Mynegodd yr elusen Stonewall bryder mawr.

Dywedodd Iestyn Wyn, rheolwr ymgyrchoedd, polisi ac ymchwil Stonewall Cymru: “Dylai pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a queer fod yn rhydd i fyw eu bywydau heb ofn na chyfyngiad, ond mae marwolaeth drasig Dr Jenkins yn ein hatgoffa o y casineb y mae ein cymunedau yn ei wynebu tuag at rai presennol yn unig.”

Cododd Stonewall bryderon hefyd am y ffordd y cyflwynodd yr erlyniad yr achos, gan ddweud wrth y rheithgor “[his] sexual predilections would be his undoing” a’i fod yn cael ei hoffi’n fawr er gwaethaf ei “ddewisiadau ffordd o fyw neu beccadilloes”.

Dywedodd Wyn: “Mae sylwadau a wnaed yn ystod y treial wedi erydu ymhellach yr ymddiriedaeth sydd gan ein cymunedau yn ein system gyfiawnder – lle nad yw pedwar o bob pump (81%) o bobl LGBTQ+ eisoes yn riportio digwyddiadau casineb i’r heddlu. Wrth i bobl ledled y DU alaru am golled dorcalonnus Dr Jenkins, mae’n rhaid i’r llywodraeth gymryd camau brys i herio agweddau gwrth-LGBTQ+ a sicrhau bod ein holl gymunedau’n ddiogel ac yn rhydd.” [6]

Cafwyd ymateb gan Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a'r Gymraeg Llywodraeth Cymru (sydd hefyd yn ddyn hoyw i'r llofruddiaeth. Meddai, mewn trydariad yn Saesneg, "Ni chafodd ei ‘ddadwneud’ gan ei ‘gymaint rhywiol’. Ymosodwyd arno yn greulon a bu farw. Mae gennym ni ffordd bell i fynd.”[7] Rhoddodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, sydd hefyd yn hoyw, ei farn am ymddygiad y llys a nododd ei bryder hefyd bod "81% pobl LHDTC+ ddim yn cofnodi ei hymosodiadau".[8]

Gwylnos[golygu | golygu cod]

Ar ddydd Sul 6 Chwefror 2022 cynhaliwyd gwylnos i gofio am Dr Gary Jenkins ar risiau Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Cynhaliwyd munud o dawelwch i gofio am y seiciatrydd.[9] Nododd sawl siaradwr eu dymuniad i "dalu teyrnged" a "pharch" i Dr Jenkins a bod y "gwylnos wedi arddangos pa mor gryf ydy'r undod a'r cariad o fewn y gymuned hoyw yma yn Gaerdydd"[10][11]

Personol[golygu | golygu cod]

Roedd Gary Jenkins yn seiciatrydd ac yn briod, ac yn dad i ddau blentyn. Roedd wedi gweithio yn Ysbyty Frenhinol Hamadryad, ym Mae Caerdydd a Chanolfan Pendine ar Ffordd Cowbridge Road West, Caerdydd.[4] Roedd yn hoff o fyd natur ac o gerddoriaeth. [12]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. . Wikibiogae https://wikibioage.com/dr-gary-jenkins-wiki-bio-age-wife-died-family-instagram. Cyrchwyd 2022-02-04. Missing or empty |title= (help)
  2. "Tri'n euog o lofruddio seiciatrydd mewn ymosodiad homoffobig". BBC Cymru Fyw. 2022-02-03.
  3. "Bute Park murder victim Gary Jenkins' family pay tribute to 'incredibly generous and creative man'". Cyrchwyd 2022-02-03.
  4. 4.0 4.1 "Bute Park murder trial: concerns over homophobia of prosecution". The National Wales. 2022-02-03. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-04. Cyrchwyd 2022-02-04.
  5. "Doctor's haunting last words played in court after being left to die in 'homophobic' attack". Pink news. 2022-02-27.
  6. "Three found guilty of murdering Cardiff doctor in homophobic attack". The Guardian. 2022-02-03.
  7. "He was not "undone" by his "sexual proclivities". He was brutally attacked, and died". Twitter. 2022-01-26.
  8. "Devastated to hear about the horrific murder of Dr Gary Jenkins and how it was handled in court. Every lgbt person will have felt the fear. 81% of lgbt people already don't report hate crime - this will make it worse. Thoughts are with Gary's loved ones during this tragic time". Twitter. 2022-02-03.
  9. "Gwylnos er cof am seiciatrydd a gafodd ei lofruddio". BBC Cymru Fyw. 2022-02-06.
  10. "Daeth cannoedd ynghyd mewn gwylnos yng Nghaerdydd nos Sul i gofio Dr Gary Jenkins fu farw ar ôl i dri o bobl ymosod arno ym Mharc Bute yn y brifddinas y llynedd". Newyddion S4C. 2022-02-06. More than one of |website= a |journal= specified (help)
  11. "Gwylnos er cof am Dr Gary Jenkins yng Nghaerdydd". Golwg360. 2022-02-07.
  12. "Bute Park murder: Gary Jenkins was 'giant in personality'". BBC Wales. 2022-02-03.