Dosbarth hamddenol

Oddi ar Wicipedia

Haen o'r gymdeithas a gyfansoddir gan elit sydd yn arddangos yn rheolaidd eu statws yw'r dosbarth hamddenol. Cysylltir y syniad yn arbennig â'r economydd cymdeithasegol Americanaidd Thorstein Veblen a gyhoeddodd The Theory of the Leisure Class yn 1899.[1] Wrth sefydlu statws mae gwariant yn bwysicach nag incwm ac yn aml fe enillir gwell statws trwy dreuliant amlwg (conspicuous consumption). Gwelir felly dyfodiad dosbarth hamddenol sydd yn dominyddu ac yn diraddio hamdden o fewn cymdeithas; ond, gallai'r broses hon fod yn nodwedd anhepgorol yn y system economaidd gyfalafol.[2] Perthyn syniadau Veblen i gategori dadansoddiadau beirniadol o'r gymdeithas nwyddau traul, ffurf ar drafodaeth sydd yn gysylltiedig ag awduron megis Lewis Mumford a J. B. Priestley. Gorwedd arwyddocâd cyfoes syniadau Veblen yn y ffaith y ceir mewn cymdeithasau cyfoethog rhannau mawr o'r boblogaeth sydd yn rhannu egwyddorion ac agweddau'r dosbarth hamddenol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am gymdeithaseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.