Dosbarth Safonol 9F Rheilffordd Brydeinig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
9f01LB.jpg

Mae Dosbarth Safonol 9F Rheilffordd Brydeinig yn fath o Locomotif stêm 2-10-0 cynlluniwyd gan Robert Riddles yn Brighton[1] yn ystod y 1950au ar gyfer trenau nwyddau.

Gweithiodd y locomotifau cynharaf o 1954 ymlaen. Pwysau’r locomotifau oedd 86 tunnell, 14 canbwys, a’r tendar dros 50 tunnell, er oedd amrywiaeth rhwng locomotifau gwahanol y dosbarth. Adeiladwyd 251 o locomotifau, 53 yn Swindon a 198 yn Cryw. Roedd gan 10 ohonynyt, adeladwyd ym 1955, boeler Franco-Crosti. Evening Star, rhif 92220, oedd y locomotif st êm olaf adeiladwyd gan Rheilffordd Brydeinig.[2]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]