Doreen Lewis
Doreen Lewis | |
---|---|
Ganwyd | Doreen Davies 4 Ebrill 1953 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor, ffermwr |
Plant | Caryl Lewis |
Cantores canu gwlad a ffermwraig yw Doreen Lewis (ganwyd 4 Ebrill 1953).
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Doreen Davies yn Aberystwyth ac fe'i magwyd yn ardal Abermeurig yn Nyffryn Aeron, Ceredigion.
Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Felinfach ac yna yn Ysgol Gyfun Aberaeron.
Canu
[golygu | golygu cod]Yn 1969, rhyddhaodd Doreen ei record gyntaf Y Storm ar label Cambrian, â hithau ond yn 16 oed. Bu hyn yn ddechrau ar yrfa ddisglair i'r ferch ifanc o Abermeurig.
Daeth yn enw a gwyneb cyfarwydd yn ystod y blynyddoedd wedyn gan ymddangos ar lwyfannau a sgriniau teledu led led Cymru. Aeth ei gyrfa o nerth i nerth gan ryddhau nifer o recordiau ar label Sain, a chaneuon cofiadwy fel “Nans o’r Glyn”, “Rhowch i mi Ganu Gwlad”, “Cae’r Blode Menyn” a “Y Gwr Drwg”.
Hi yw'r unig ferch yn hanes canu pop Cymraeg i'w chyflwyno â disg aur am ei chyfraniad oes i adloniant.[1]
Mae Doreen wedi teithio ar hyd a lled Cymru a thramor yn canu am yn agos i 40 mlynedd – ac mae’n dal i fwynhau’r cyfansoddi a’r perfformio, os yw amser yn caniatau iddi ynghanol bwrlwm adref ar y fferm yng Ngheredigion.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd ei gŵr John yn Eglwys Ystrad Aeron yn mis Mai 1972. Ar ôl priodi symudodd y pâr i fyw i Sgwâr Alban yn Aberaeron. Yno fe magwyd eu plant, Gwyndaf a Caryl.[2]
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ha' Bach Mihangel
[golygu | golygu cod]- Cariad Di-Derfyn
- Os Daw'r Gwas Yn Feistr
- Y Gwely Plu
- Bob Yn Awr Ac Yn Y Man
- Mater Bach O 'Ngalon I
- Dy Oleuni Di
- Y Gwr Drwg
- Aderyn Mewn Llaw
- Rwy'n Siwr
- Ha' Bach Mihangel
- Un Storom Arall
- Cymru, Ti Yw Ngwynfyd
- Pan Edrychi Di I'm Llygaid I
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Brenhines canu gwlad , Cambrian News, 9 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd ar 9 Rhagfyr 2019.
- ↑ Yr ifanc a ŵyr: Doreen Lewis a Caryl Lewis , BBC Cymru Fyw, 26 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 10 Rhagfyr 2018.