Dora the Explorer

Oddi ar Wicipedia
Logo Dora the Explorer

Cymeriad animeiddiedig mewn cyfres deledu addysgol o America yw Dora the Explorer. Crewyd y cymeriad gan Chris Gifford, Valerie Walsh Valdes ac Eric Weiner. Daeth Dora the Explorer yn gyfres deledu yn 2000, ac mae'r rhaglen yn parhau ar rwydwaith deledu Nickelodeon, sy'n cynnwys sianel Nick Jr.. Darlledwyd fersiwn gyda throslais Sbaeneg am y tro cyntaf ym mis Medi 2006, fel rhan o floc Nick en español ar sianel Telemundo. Ers Ebrill 2008, mae'r fersiwn yma wedi parhau ar Univision fel rhan o'r bloc Planeta U.

Mae addasiad ffilm 'gweithredu byw' yn yr arfaeth gan Paramount Pictures a bwriedir ei rhyddhau ym mis Awst 2019.[1]

Mae'r gyfres yn seiliedig ar anturiaethau Dora, merch Latina saith mlwydd oed. Mae'n mynd ar drywydd perthnasol i weithgaredd sydd wedi cymryd ei sylw, a hynny yng nghwmni sach cefn porffor sy'n gallu siarad a mwnci o'r enw Boots (sydd wedi'i enwi ar ôl ei esgidiau coch). Mae pob pennod yn cyflwyno cyfres o weithgareddau neu ddigwyddiadau, ac mae disgwyl i Dora a Boots, gyda chymorth y gynulleidfa, ddatrys posau sy'n seiliedig ar rigymau, yr iaith Sbaeneg, neu gyfri.

O dro i dro, mae Dora yn dod ar draws Swiper, llwynog sy'n lladrata. Er mwyn ei atal, rhaid i Dora ddweud "Swiper no swiping" dair gwaith. Weithiau mae disgwyl i'r gynulleidfa helpu Dora a Boots i ddod o hyd i'r eitemau sydd wedi'u dwyn. Maen nhw weithiau yn gorfod wynebu hen ellyll blin - "Grumpy Old Troll" - sy'n byw o dan bont y mae'n rhaid iddyn nhw ei chroesi. Mae'r ellyll yn rhoi rhigwm iddyn nhw ei ddatrys, eto gyda chymorth y gynulleidfa, cyn eu bod yn cael croesi.

Mae pob pennod yn diweddu gyda Dora yn llwyddo i gyrraedd y nod, ac yn canu can o lawenydd gyda Boots. Mae'r gyfres wedi'i chyfieithu i nifer o ieithoedd, gan gynnwys Arabeg, Cantonaidd, Iseldireg, Gwyddeleg, Hindi, Daneg, Tyrceg. Nid yw wedi'i chyfieithu i'r Gymraeg.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Kit, Borys (October 23, 2017). "'Dora the Explorer' Movie in the Works With Nick Stoller (Exclusive)". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd October 23, 2017.