Donatiaeth

Oddi ar Wicipedia
Donatiaeth
Enghraifft o'r canlynolathrawiaeth, Heresi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sect Gristnogol yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig oedd Donatiaeth a ymffurffiodd yng Ngogledd Affrica yn y 4g, dan arweiniad yr Esgob Donatus Magnus, ac a oroesodd hyd at y 7g. Sbardunwyd y sgism gan etholiad Caecilian yn Esgob Carthago (a leolir heddiw yn Nhiwnisia) yn 312, dewis a wrthwynebwyd gan rai am iddo gael ei gysegru gan "fradychwr" i'r ffydd, hynny yw un a ildiodd gopïau o'r Beibl i'r awdurdodau yn ystod erledigaeth y Cristnogion gan yr Ymerawdwr Diocletian.[1][2]

Yn hanesyddol, mae Donatiaeth yn un o sawl mudiad sgismatig yn yr Eglwys Fore, megis Montaniaeth a Nofatianaeth yn Asia Leiaf a Meletiaeth yn yr Aifft. Dalient taw hwynt-hwy ydoedd yr unig wir eglwys, a dim ond y rhai sy'n byw bywyd di-fai sy'n perthyn i'r eglwys, ac nid arddelant ordinhadau unrhyw sect arall. Gwrthodasant ymyrraeth wladol mewn materion eglwysig.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Donatists. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Hydref 2022.
  2. (Saesneg) W. H. C. Frend, "Donatism", Encyclopedia of Religion (1987). Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 24 Hydref 2022.
  3.  Donatist. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 24 Hydref 2022.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.