Donald Anderson

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Donald Anderson
Official portrait of Lord Anderson of Swansea crop 2.jpg
Ganwyd 17 Mehefin 1939 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd, Cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Mae Donald Anderson, y barwn Anderson o Abertawe, PC, DL (ganwyd 17 Mehefin, 1939) yn wleidydd Llafur Cymreig, a wasanaethodd fel Aelod Seneddol dros Fynwy 1966-1970 a Dwyrain Abertawe 1974-2005.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Anderson yn Abertawe yn fab i David Robert Anderson ac Eva (née Mathias) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Gynradd Brynmill, Ysgol Ramadeg Abertawe (Ysgol yr Esgob Gore bellach) a Phrifysgol Cymru Abertawe lle graddiodd BA - dosbarth cyntaf mewn Hanes Cyfoes a Gwleidyddiaeth, ym 1960.

Priododd Dr Dorothy Trotman ym 1963 a chawsant dri mab.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Anderson yn gweithio i Wasanaeth Tramor ei Mawrhydi wedi ymadael a'r Brifysgol gan gynnwys gwasanaeth fel rhan o ddirprwyaeth Llysgenhadaeth Prydain i Hwngari ym Mudapest o 1963 i 1964. Ym 1964 cafodd ei benodi yn narlithydd yn Adran Damcaniaeth Wleidyddol a Llywodraeth Prifysgol Abertawe, lle fu'n gweithio hyd ei ethol i'r Senedd ym 1966.

Fe'i galwyd i'r bar yn Y Deml Ganol ym 1969.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholwyd Anderson yn Aelod Seneddol Mynwy ym 1966 pan gipiodd y sedd oddi wrth yr aelod Ceidwadol Peter Thorneycroft; collodd y sedd i'r Ceidwadwyr yn yr etholiad canlynol a gynhaliwyd ym 1970. Fe wasanaethodd fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i'r Gweinidog Amddiffyn ac fel is gadeirydd y Grŵp Llafur Cymreig yn San Steffan o 1969 hyd golli ei sedd.

O 1971 i 1975 fe wasanaethodd fel cynghorydd Llafur ar gyngor Kensington a Chelsea rhwng 1971 a 1975.

Bu farw AS Llafur Dwyrain Abertawe Neil McBride ym mis Medi 1974 a dewiswyd Donald Anderson fel yr ymgeisydd Llafur i'w olynu; gan i Etholiad Cyffredinol Mis Hydref 1974 gael ei alw yn fuan ar ôl i McBride farw ni fu angen am isetholiad. Etholwyd Anderson yn gyffyrddus a pharhaodd i wasanaethu fel AS yr etholaeth hyd ei ymddeoliad o Dŷ'r cyffredin yn 2005.[2]

Yn ystod ei ail gyfnod fel AS gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i'r Twrnai Cyffredinol o 1974 i 1979; fel llefarydd y wrthblaid ar faterion tramor o 1983 i 1992, fel llefarydd y wrthblaid ar amddiffyn o 1993 i 1994 ac fel y Twrnai Cyffredinol cysgodol o 1994 i 1995, ond ni chafodd swydd fel gweinidog pan oedd Llafur yn llywodraethu.

Bu'n aelod o'r Pwyllgor Dethol ar faterion Cymreig o 1980 i 1983 gan wasanaethu fel Cadeirydd y pwyllgor o 1981 i 1983. Bu'n aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref o 1992 i 1993 ac yn gadeirydd Y Pwyllgor Materion Tramor o 1997-2005.[3]. Yn ystod ei gyfnod fel cadeirydd y Pwyllgor faterion tramor cafodd ei feirniadu am beidio a holi'r Dr David Kelly yn "rhy galed" parthed yr Arfau Distryw Mawr yr honnid gan y Llywodraeth oedd yn eiddo i Sadam Hussain [4]

Yn ystod ymgyrch refferendwm datganoli i Gymru 1979, roedd Anderson yn un o'r Gang o Chwech o ASau Llafur Cymreig a fu'n brwydro yn erbyn datganoli i Gymru [5]

Cafodd Anderson ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel y Barwn Anderson o Abertawe yn 2005.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Anderson yn gweithredu fel Cymrawd Seneddol Coleg Sant Antwn, Rhydychen 1999-2000. Cafodd Ddoethuriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Gorllewin Morgannwg yn 2006. Fe'i gwnaed yn Rhyddfreiniwr Dinas a Sir Abertawe yn 200 a Dinas Llundain yn 2005 ac urddwyd ef yn Gymrawd Anrhydeddus Athrofa Addysg Uwch Abertawe yn 2005

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. ‘ANDERSON OF SWANSEA’, Who's Who 2014, A & C Black, ân imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2014; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, Nov 2014 adalwyd 18 Mehefin 2015
  2. BBC Veteran Labour MP standing down [1] adalwyd 20 Mehefin 2015
  3. MyParliament The Rt Hon. The Lord Anderson of Swansea [2] adalwyd 20 Mehefin 2015
  4. The Guardian "Hutton the Key Players -Donald Anderson [3] adalwyd 20 Mehefin 2015
  5. Adroddiad Y Comisiwn Richard [4] adalwyd 18 Mehefin 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Peter Thorneycroft
Aelod Seneddol Mynwy
19661970
Olynydd:
John Stradling Thomas
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Neil McBride
Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe
Hyd 19742005
Olynydd:
Siân James