Dolur Rhydd (grŵp roc)

Oddi ar Wicipedia

Grŵp roc o ardal Dyffryn Aeron yng Ngheredigion oedd Dolur Rhydd.

Bu'r grŵp yn perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan yn 1984, ac mewn dros 60 o nosweithiau ar draws Cymru rhwng 1984 ac 1986. Roeddynt yn chwarae cerddoriaeth roc traddodiadol gitâr drydan.

Enillodd y grŵp gystadleuaeth 'Brwydr y Bandiau' yn Llambed ac ar sail hynny, recordio sesiwn i BBC Radio Cymru. Bu hefyd iddynt ryddhau, Anial Dir, caset o'u caneuon. Cafwyd cyfweliad gyda'r grŵp ar gyfer un o raglenni'n rhagweld yr Eisteddfod yn ymweld â'r ardal.

Ymysg eu caneuon roedd "Hwp e miwn, Dai" a "Cwrw Dai WAC".

Aelodau[golygu | golygu cod]

  • Jiwlian Tomos - llais
  • Owen Llywelyn - gitâr
  • Dylan 'Cap' Williams - bâs
  • Neil Davies - drymiau
  • Edwin Harries - allweddellau
  • Alwyn 'Pwds' Davies - un bys