Doctor ar ei Waethaf
| Enghraifft o: | ffars ar gyfer y llwyfan |
|---|---|
| Awdur | Molière cyfieithiad Saunders Lewis |
| Gwlad | Ffrainc |
| Iaith | Ffrangeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1666 - [cyhoeddiad Cymraeg 1924] |
| Dechrau/Sefydlu | 1666 |
| Genre | comedi, ffars |
| Cymeriadau | Q138339185 |
| Lleoliad y perff. 1af | Palais-Royal |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
| Dynodwyr | |
Ffars gan Molière yw Doctor ar ei Waethaf (Ffrangeg: Le Médecin malgré lui; Saesneg: The doctor/physician in spite of himself) a gyflwynwyd gyntaf ym 1666 yn théâtre du Palais-Royal ym Mharis, gan y Troupe du Roi. Cyhoeddwyd y llawysgrif ddechrau 1667.[1] Troswyd y ddrama i'r Gymraeg gan Saunders Lewis a'i chyhoeddi gan Hughes a'i Fab ym 1924. Mae'r ddrama ymhlith sawl drama gan Molière sy'n canolbwyntio ar y cymeriad "Sganarelle", a bortreadwyd gan Molière ei hun, ac mae'n ddychan gomig o feddygaeth Ffrengig yr 17eg ganrif. Collwyd y gerddoriaeth wreiddiol a gyfansoddwyd gan Marc-Antoine Charpentier.
Canolbwyntir y stori ar Sganarelle, torrwr coed tlawd (coedwigwr) sy'n alcoholig ac yn wancus. Mae'n gwario ei holl arian prin ar fwyd a diod iddo'i hun. Un diwrnod, mae'n curo ei wraig yn ystod dadl rhyngddynt. Mewn dial, mae'r wraig yn argyhoeddi dau o weision bonheddwr cyfagos, bod Sganarelle yn feddyg ecsentrig sydd angen ei guro er mwyn iddo gyfaddef ei hunaniaeth a'i waith. Er yn amharod i dderbyn ei yrfa newydd ar y dechrau, gorfodir Sganarelle, i esgus bod yn feddyg addysgedig. Mae'n cael y dasg o wella "Lucinde", merch y bonheddwr cyfoethog, sy'n fud. Mae'r claf mewn gwirionedd yn ffugio ei salwch er mwyn osgoi priodas wedi'i threfnu.

Cymeriadau
[golygu | golygu cod]| Enwau Molière | Enwau Saunders Lewis | Disgrifiad |
|---|---|---|
| Sganarelle | ||
| Martine | ||
| Lucinde | ||
| Léandre | ||
| Geronte | ||
| Valère | ||
| Lucas | ||
| Jacqueline | ||
| Monsieur Robert | ||
| Thibaut | ||
| Perrin |
Crynodeb
[golygu | golygu cod]Mae'r torrwr coed tlawd Sganarelle, yn gwneud bywyd yn uffern i'w wraig a'i deulu drwy wario'r ychydig mae'n ei ennill ar fwyd a diod, arno'i hun. Wrth i'r ddrama agor, gwelir ef yn dadlau â'i wraig, Martine, ac yn y pen draw yn ei churo. Mae hi'n penderfynu dial arno. Wrth iddi gynllwynio, mae hi'n clywed dau was i ddyn cyfoethog yn sôn am eu rhwystredigaeth am na allant ddod o hyd i feddyg a all wella salwch dirgel merch eu meistr. Mae hi'n argyhoeddi'r ddau fod ei gŵr yn feddyg disglair ond ecsentrig, ond bod rhaid iddynt ei guro i gyfaddef ei fod yn feddyg. Mae'r gweision yn dod o hyd i Sganarelle yn torri coed ac yn yfed yn y coed gerllaw ac yn ei guro nes iddo gyfaddef o'r diwedd ei fod yn feddyg.
Mae'r gweision yn mynd ag ef i gyfarfod â'u meistr, Geronte, a'i ferch Lucinde sydd bellach yn fud, er bod ei "salwch" yn ddirgelwch i'w theulu. Mae Sganarelle'n treulio ei sesiwn gyntaf gyda hi, gan geisio ffugio bod yn feddyg go iawn, rhag cael ei guro eto. Pan sylweddola'r arian mae Geronte yn fodlon ei dalu iddo, mae'n penderfynu rhoi'r gorau i dorri coed ac aros yn "feddyg" am weddill ei oes.
Ar ddiwedd y ddrama, mae Sganarelle yn darganfod mai dim ond esgus bod yn sâl mae ei glaf, am nad yw hi'n ei garu'r gŵr y mae'n cael ei gorfodi i'w briodi. Dilynir y datguddiad gan y ffars a'i uchafbwynt yw bod Sganarelle bron a chael ei ddienyddio. Mae'r ddrama'n gorffen gyda "moment glasurol" a adweinid fel "deus ex machina"; gyda chariad Lucinde, dymuniadau Geronte, a thynged Sganarelle yn cael eu datrys yn daclus ac yn hapus.
Addasiadau
[golygu | golygu cod]Addaswyd drama Molière gan Henry Fielding o dan yr enw The Mock Doctor, a chyfansoddodd Charles Gounod opera gan ddefnyddio libreto gan Jules Barbier a Michel Carré a oedd yn seiliedig ar y ddrama.
Perfformiwyd addasiad radio awr o hyd o'r ddrama gan Ernest Kinoy ar Theatr NBC ar Fehefin 25, 1950. Darlledwyd addasiad radio awr o hyd arall ar Theatr Haf Lux ar Orffennaf 13, 1953.
- Ffilmiau
- Le Médecin malgré lui, wedi'i gyfarwyddo gan Émile Chautard, 1910
- Medico per forza, directed gan Carlo Campogalliani, gyda Ettore Petrolini, 1931
- The Doctor in Spite of Himself, Hong Kong ffilm Cheung Tat-ming, 1999
- Le Médecin malgré lui (Toubib al affia), ffilm o Moroco gan Henry Jacques
- Barddoniaeth
- Le Médecin malgré lui, gan William Carlos Williams
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The Doctor in Spite of Himself". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Awst 2018. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2015.