Diwydiant mwydion a phapur


Y diwydiant sy'n ymwneud â throi planhigion prennaidd yn fwydion, papur, a phapurbord yw'r diwydiant mwydion a phapur. Gwneir papur trwy fathru pren yn seliwlos gan ddefnyddio naill ai ffrithiant neu gemegion. Yn ystod y broses hon, ceith gwared â'r gwastraff a'r dŵr gan adael papur.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Gwnaed brwynbapur (papyrws) gan yr Hen Eifftiaid drwy osod stribynnau tenau o'r planhigyn papurfrwyn yn haenau ar onglau sgwâr i'w gilydd. Cychwynnodd y broses fodern o droi mwydion yn bapur yn Tsieina tua'r flwyddyn 105. Pan ddaeth y broses i Ewrop tua mil o flynyddoedd yn hwyrach defnyddiwyd crwyn anifeiliaid i wneud memrwn neu barsment. Oherwydd y pris uchel o ddefnyddio croen, gwnaed papur hefyd o ddefnyddiau megis cotwm a lliain. Yn nhreigl amser tyfodd lefelau llythrennedd a chylchrediad papurau newydd a chylchgronau, a sbardunwyd yr ymchwil am ddefnydd crai rhatach. Erbyn y 19g, pren oedd y dewis mwyaf boblogaidd. Yn Ewrop, a'r Almaen yn enwedig, datblygodd cynhyrchwyr papur beiriannau i dorri boncyffion yn fwydion ac i sychu a gwastadu'r mwydion gan ddefnyddio cyfres o roleri gwasgu, pob un yn fwy o faint ac yn gyflymach na'r un blaenorol. Gyda'r broses hon, cafodd nifer o fathau o fwydion a phapurau ei fasgynhyrchu, a'r rhataf oedd papur papur newydd. Trowyd mwydion yn gynnyrch hylendid personol newydd megis hancesi papur a phapur tŷ bach.[1]
Rhestr y prif gwmnïau yn ôl maint cynnyrch
[golygu | golygu cod]Dyma'r deg cwmni cynhyrchu papur a bord (P&B) mwyaf yn y byd yn 2012, yn ôl adroddiad blynyddol y cylchgrawn Pulp and Paper International (PPI):[2]
| Safle | Cwmni | Gwlad | Cynnyrch P&B (1000 tunnell) |
|---|---|---|---|
| 1 | International Paper | 12,901 | |
| 2 | Oji Paper | 10,721 | |
| 3 | UPM | 10,700 | |
| 4 | Nine Dragons Paper Holdings | 10,450 | |
| 5 | Stora Enso | 10,268 | |
| 6 | RockTenn | 8,075 | |
| 7 | Sappi | 7,705 | |
| 8 | Smurfit Kappa Group | 6,900 | |
| 9 | Mitsubishi Paper Mills | 5,917 | |
| 10 | Nippon Paper | 5,590 |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Pulp and Paper Industry. The Canadian Encyclopedia. Adalwyd ar 12 Hydref 2014.
- ↑ (Saesneg) The PPI Top 100. Pulp and Paper International (Medi 2013). Adalwyd ar 12 Hydref 2014.