Diwrnod Canser y Byd
| Enghraifft o: | diwrnod rhyngwladol, diwrnod ymwybyddiaeth |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 2000 |
| Prif bwnc | canser |
| Gwefan | https://www.worldcancerday.org/es, https://www.worldcancerday.org/our-story |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0273456 |
| Quora | World-cancer-day |
Cynhelir Diwrnod Canser y Byd bob blwyddyn ar 4 Chwefror i gynyddu ymwybyddiaeth o ganser ac i annog ymchwil meddygol i rwystro, canfod, a thrin y clefyd hwn. Sefydlwyd y diwrnod yn sgil arwyddo Siarter Paris yn Erbyn Canser ar 4 Chwefror 2000 yn ystod Uwchgynhadledd y Byd yn Erbyn Canser ym Mharis, Ffrainc. Fe'i hyrwyddir gan yr Undeb Rhyngwladol dros Reoli Canser (UICC), ac yn 2008 cyhoeddwyd Datganiad Canser y Byd i amlinellu amcanion y mudiad. Cydnabyddir y diwrnod gan y Cenhedloedd Unedig.
Cynhelir cannoedd o ddigwyddiadau o gwmpas y byd i nodi Diwrnod Canser y Byd, gyda'r nod o atal camwybodaeth, lledaenu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth, a lleihau'r stigma ynghylch yr afiechyd. Ers 2009, cyhoeddir "thema" ar gyfer Diwrnod Canser y Byd i ffocysu amcanion a gweithgareddau'r ymgyrch. Er enghraifft, thema'r blynyddoedd o 2025 i 2027 ydy "Undeb Unigryw", i bwysleisio arwyddocâd gofal canser holistaidd, personol sy'n ymestyn y tu hwnt i driniaeth glinigol.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Diwrnod Canser y Byd 2025", Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Adalwyd ar 4 Chwefror 2025.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- (Saesneg) Gwefan yr UICC