Neidio i'r cynnwys

Diwéddgan (Fin de Partie)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Diweddgan)

 

Diwéddgan
Enghraifft o:gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurSamuel Beckett Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg Edit this on Wikidata
Genrecomedi trasig Edit this on Wikidata
CymeriadauHamm, Clov, Nagg, Nell Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afRoyal Court Theatre Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Drama un act abswrd gan y dramodydd Gwyddelig Samuel Beckett yw Diwéddgan (Ffrangeg Fin de partie; Saesneg Endgame) sy'n dyddio o'r 1950au. Beckett ei hun oedd yn gyfrifol am ei throsi i'r Saesneg o'r Ffrangeg wreiddiol.[1] Troswyd y ddrama i'r Gymraeg gan Yr Athro Gwyn Thomas ym 1969 ac ef a fathodd y teitl Cymraeg. Cyhoeddwyd y ddrama Gymraeg gan Wasg Prifysgol Cymru yn eu cyfres Y Ddrama yn Ewrop.

Cafodd y ddrama ei llwyfannu yn Llundain am y tro cyntaf ym 1957 a hynny yn y Ffrangeg wreiddiol. Mae'r stori'n ymwneud â hen ŵr dall a pharlysedig, sy'n ormesol gyda'i rieni oedranus a'i gydymaith mewn tŷ gwag. Crëir awyrgylch o ddiffeithwch ôl-apocalyptaidd ffuglennol yn y ddrama, wrth i bob cymeriad aros am "ddiwedd" amhenodol eu hoes. Cyfeiria'r teitl at symudiad terfynol mewn gêm o wyddbwyll. Fe'i hystyrir ymhlith gweithiau mwyaf nodedig Beckett.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Hamm
  • Clov
  • Nagg
  • Nell

Crynodeb

[golygu | golygu cod]

Mewn ystafell ddiflas a thywyll, mae Clov yn agor y llenni ac yn paratoi ei feistr Hamm ar gyfer ei ddiwrnod. Mae'n dweud, "Mae bron wedi gorffen," er nad yw'n glir at beth mae'n cyfeirio. Mae'n deffro Hamm trwy dynnu cynfas oddi arno. Ar ôl i Hamm dynnu hances gwaedlyd oddi ar ei ben, mae'n ateb "Mae'n bryd iddo ddod i ben." Mae'n galw Clov trwy chwibanu, ac mae'r ddau yn cellwair rhwng ei gilydd.

Mae rhieni Hamm, Nell a Nagg, yn byw mewn dau fin sbwriel yng nghefn y llwyfan. Mae Hamm yn eu trin yr un mor fygythiol, nawddoglyd a chwerw a'i was, er bod ei rieni yn dal i rannu rhywfaint o hiwmor gyda'i gilydd.

Dychwela Clov, ac maen nhw'n parhau i sgwrsio'n ddoniol ond gydag islais tywyll. Mae Clov yn bygwth gadael Hamm yn aml, ond yn sylweddoli nad oes ganddo unman i ddianc iddo. Caiff y byd y tu hwnt i'r ystafell ei gyfleu fel pe bai wedi'i ddinistrio. Mae llawer o'r hyn a welir ar y llwyfan yn fwriadol ddiflas ac undonog, er mwyn cyfleu yr undonedd poenus sy'n poenydio'r pedwar cymeriad.

Erbyn diwedd y ddrama, mae Clov yn benderfynol o adael ei feistr creulon, ac yn dweud wrtho nad oes mwy o'r poenladdwr ar ôl - meddygyniaeth y mae Hamm wedi'i fynnu drwy gydol y ddrama. Credai Hamm bod Clov wedi ymadael, a hynny am nad yw'n gallu ei weld, ond mae Clov yn dychwelyd, gan sefyll o'i flaen yn dawel gyda'i gôt a'i fagiau, heb fynd i unman. Mae Hamm yn galw am ei dad, ond nid yw'n cael ateb; mae'n ail-daenu ei hances waedlyd dros ei wyneb, gan fynnu ei fod am "aros" yno.

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Yn Ffrangeg / Saesneg

[golygu | golygu cod]

Cafodd y ddrama wreiddiol Fin de partie ei llwyfannu am y tro cyntaf yn Theatr y Royal Court yn Llundain ar 3 Ebrill 1957, a hynny yn Ffrangeg.

Yn Gymraeg

[golygu | golygu cod]
Poster Diwéddgan yn 2006

Llwyfannwyd y trosiad Cymraeg gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2006 gyda Judith Roberts yn cyfarwyddo; cynllunydd Colin Falconer; goleuo Ace McCarron: Cast:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Lyons, Charles R. (1983), Lyons, Charles R. (ed.), "'Endgame'", Samuel Beckett, London: Macmillan Education UK, pp. 50–74, doi:10.1007/978-1-349-17047-0_3, ISBN 978-1-349-17047-0, retrieved 20 March 2023.