Dinas Wakefield
| Math | bwrdeistref fetropolitan, ardal gyda statws dinas |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Gorllewin Swydd Efrog |
| Prifddinas | Wakefield |
| Poblogaeth | 345,038 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Peter Box |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gorllewin Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 338.6198 km² |
| Cyfesurynnau | 53.6831°N 1.4989°W |
| Cod SYG | E08000036 |
| GB-WKF | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | cabinet Cyngor Wakefield |
| Corff deddfwriaethol | council of Wakefield Metropolitan District Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | arweinydd Cyngor Wakefield |
| Pennaeth y Llywodraeth | Peter Box |
![]() | |
Bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Dinas Wakefield (Saesneg: City of Wakefield).
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 339 km², gyda 348,312 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Kirklees i'r gorllewin, Dinas Leeds i'r gogledd, Gogledd Swydd Efrog i'r dwyrain, a De Swydd Efrog i'r de.

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Gorllewin Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Rhennir y fwrdeistref yn 30 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys dinas Wakefield ei hun, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Castleford, Featherstone, Hemsworth, Knottingley, Normanton, Ossett, Pontefract a South Elmsall.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 1 Awst 2020
