Dinas (drama)
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1970 |
| Awdur | W.S. Jones ac Emyr Humphreys |
| Cyhoeddwr | Llyfrau'r Dryw |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1970 |
| Argaeledd | allan o brint |
| ISBN | 0853390673 |
| Dechreuwyd | 1970 |
| Genre | Dramâu Cymraeg |
| Dynodwyr | |
"Moeswers mewn Tair Act" wedi'i gyfansoddi gan Wil Sam Jones ac Emyr Humphreys yw Dinas. Cyfansoddwyd y ddrama ym 1970.[1]
"Mae tynged Dinas yn y fantol. Dibynna'r perchennog, John Barig, yn Ilwyr ar ffyddlondeb Ossie ei was, ond mae'r cartref yn prysur ddadfeilio, a daw'n amlwg fod gan bawb sy'n troi o'u cwmpas ddiddordeb dwfn yn nhynged yr hen le - at eu dibenion eu hunain wrth gwrs... Yn ôl yr awduron: "Ein nod fel arfer yw difyrru: ond os ceir ambell ergyd yma ac acw gorau ol" - ac er i'r ddrama gael ei 'sgwennu ym 1970 mae'r 'ergydion' mor berthnasol ag erioed."[2]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- John Barig, gŵr Dinas
- Ossie, y gwas
- Neal, brawd Ossie
- Maureen, cariad Neal
- Yr Athro Rhydderch Barig M.A, nai John Barig
- Nyrs Davies
- Sgiffi, prynwr sgrap
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]1960au
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gymdeithas y Ddrama Gymraeg, Y Coleg Normal ym 1968. Cyfarwyddwr John Gwilym Jones; cast:
- John Barig - William R Lewis
- Ossie - Ieuan Bryn
- Neal - Ken Hughes
- Maureen - Wendy Lloyd Jones / Gweno Lloyd Price
- Yr Athro Rhydderch Barig M.A, nai John Barig - Gwyn Parry
- Nyrs Davies - Marwin Evans / Bethan Parry
- Sgiffi, prynwr sgrap - Cenwyn Edwards
1970au
[golygu | golygu cod]Darlledwyd y ddrama ar HTV ym 1972.
1980au
[golygu | golygu cod]
Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru ym 1982.[3]
- John Barig - Glyn Williams
- Ossie - Wyn Bowen Harries
- Neal - Cefin Roberts
- Maureen - Eluned Jones
- Yr Athro Rhydderch Barig M.A - John Ogwen
- Nyrs Davies - Beryl Williams
- Sgiffi - Stewart Jones

2020au
[golygu | golygu cod]Ail lwyfannwyd y ddrama gan Theatr Bara Caws yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionnydd yn 2023. Cyfarwyddydd Betsan Llwyd; cast: Iwan Charles, Richard Elfyn, Carys Gwilym, Dyfan Roberts, Mari Wyn, Rhodri Trefor, Llion Williams.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ W.S. Jones, ac Emyr Humphreys (1970). Dinas. Llyfrau'r Dryw.
- ↑ "Dinas | Arts Council of Wales". arts.wales. Cyrchwyd 2024-09-16.
- ↑ "Rhagorol online catalogue". diogel.gwynedd.llyw.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-09-16. Cyrchwyd 2024-09-16.