Dinarzh

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dinard
Dinarzh
Pointe de la Malouine
Pointe de la Malouine
Arfbais Dinard
Arfbais
Dinard is located in France
Dinard
Cyfesurynnau: 48°38′00″N 2°03′37″W / 48.6333°N 2.0603°W / 48.6333; -2.0603Cyfesurynnau: 48°38′00″N 2°03′37″W / 48.6333°N 2.0603°W / 48.6333; -2.0603
Gwlad Ffrainc
Rhanbarth Llydaw
Département Ille-et-Vilaine
Arrondissement Saint-Malo
Canton Dinard
Arwynebedd1 8 km2 (3 mi sg)
Poblogaeth (2009)2 10,724
Cylchfa amser CET (UTC+1)
 • Haf (DST) CEST (UTC+2)
1 Data o Gofrestr Tir Ffrainc, sy'n hepgor llynnoedd, pyllau, rhewlifau > 1 km² (0.386 sq mi neu 247 erw) ac aberoedd yr afonydd.
2 'Poblogaeth heb "gyfri dwbwl": trigolion mwy nag un gymuned (e.e. myfyrwyr a milwyr - cyfrifwyd unwaith yn unig.

Mae Dinarzh (Ffrangeg: Dinard) yn gymuned yn department Il-ha-Gwilen (Ffrangeg: d'Ille-et-Vilaine), Llydaw. Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.

Poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Population - Municipality code 35093

Cysylltiadau Rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Bws Tîm Cymru yn Dinarzh Ewro 2016

Defnyddiodd Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru Novotel Thalassa, Dinarzh fel eu cartref yn ystod Pencampwriaeth UEFA Euro 2016.[1]

gefeillio[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Dinarzh wedi'i gefeillio â:

Pellteroedd[golygu | golygu cod y dudalen]

O'r gymuned i: Roazhon

Préfecture

Paris

Prifddinas Ffrainc

Calais

Prif Porthladd o Brydain

Caerdydd

Prifddinas Cymru

Llundain

Lloegr

Fel hed yr aderyn (km) 64.317 324.955 382.367 327.228 348.105
Ar y ffordd (km) 72.076 420.725 518.516 619.898 686.890

[2]

Pobl Dinarzh[golygu | golygu cod y dudalen]

Genedigaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Victor Colas de la Baronnais (1764 - 1825), swyddog milwrol a Brenhinwr.
  • Malo Colas de la Baronnais (1770 - 1795) swyddog milwrol a Brenhinwr, brawd yr uchod.
  • Pierre Guillaume Gicquel des Touches (1770 - 1824), morwr Ffrengig.
  • Philippe Barot (g 1949), pêl-droediwr Ffrengig.
  • John Paul Cohuet (g 1954), pêl-droediwr Ffrengig.
  • Yves Colleu (g, 1961), pêl-droediwr Ffrengig a hyfforddwr.

Marwolaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Jean Abel Gruvel (1870 - 1941), Ffrangeg biolegydd morol.
  • Camille Le Mercier d'Erm (1888 - 1978), bardd a chenedlaetholwr Llydewig.
  • Michel Roux-Spitz (1888 - 1957), pensaer Ffrengig.
  • Clara Tambour (1891 - 1982), actores Ffrengig.

Ymwelwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu llawer o enwogion rhyngwladol yn ymweld a Dinard fel cyrchfan gwyliau, gan gynnwys:

  • Albert I, Brenin yr Belgiaid
  • Jacques Chirac, cyn Lywydd y Weriniaeth Ffrengig (1995-2007) a sefydlodd yno arddangosfa Pinault yn yr haf 200,939
  • Agatha Christie, awdur Prydeinig
  • Winston Churchill, Prif Weinidog Prydain
  • Kirk Douglas, actor Americanaidd
  • Edward VII, Tywysog Cymru a Brenin y Deyrnas Unedig ac Iwerddon
  • Siôr V, Dug Efrog a Brenin y Deyrnas Unedig ac Gogledd yr Iwerddon, mab y blaenorol
  • Hugh Grant, actor Prydeinig
  • teulu Hennessy, o dras Gwyddelig, perchenogion y cwmni cognac enwog
  • Victor Hugo, awdur Ffrengig
  • Albert Lacroix, cyhoeddwr o Wlad Belg
  • Lawrence o Arabia, anturiaethwr Prydeinig oedd yn byw yn Dinard ei blentyndod cynnar 1891-1894, wedi symud yno o Dremadog.
  • Pablo Picasso, arlunydd Sbaeneg
  • Dominique de Villepin, cyn-brif weinidog Ffrainc (2005-2007)

Traethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan y dref nifer o draethau, pob un yn tywodlyd, yn lân ac agos i ganol y dref. Y brif traeth yw Plage de l'Écluse yr ail fwyaf yw Saint Enogat mae thraethau Prieuré hefyd yn nodedig.

Plage du Prieuré, gyda thref Dinarzh ar y chwith a Saint Malo yn y pellter

Adeiladau Hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Harbwr yr Ynys
  • Tŷ'r Tywysog Du
  • Manoir de la Baronnais
  • Cyn Priordy Dinarzh
  • Villa "Les Roches Brunes"


Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Flag of Brittany (Gwenn ha du).svg Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.