Dinamo Tirana

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Dinamo Tiranë)
Jump to navigation Jump to search
FK Dinamo Tirana
Logo
Enw llawn FK Dinamo Tirana
Llysenwau Dinamovitët, Blutë (The Blues), Nëndetësja Blu (Blue Submarine)
Sefydlwyd Mawrth 3, 1950; 69 o flynyddoedd yn ôl (1950-03-03)
Maes Stadiwm Selman Stërmasi
, Tirana, Albania
(sy'n dal: 1,000)
Cadeirydd Besnik Sulaj
Rheolwr Igli Allmuça
Cynghrair Adran Gyntaf Albania, Grŵp A
2017–18 Adran Gyntaf Albania, Grŵp A, 5ed
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Tymor cyfredol

Mae Futboll Klub Dinamo Tirana neu. fel arfer, Dinamo Tirana yn glwb pêl-droed yn Tirana, prifddinas Albania. Buont yn un o'r clybiau mwyaf llwyddiannus y wlad, ond maent bellach (2018-19) ac mae'n chwarae yn y Kategoria e Parë ('Adran Gyntaf' ond ail-reng system pyramid Ffederasiwn Pêl-droed Albania. Mae Dinamo yn chwarae eu gemau cartref yn Stadioni Selman Stërmasi, sy'n dal o 10,000 o wylwyr.

Mae Dinamo wedi ennill 18 o gynghrair a thri ar ddeg o gwpanau cenedlaethol ac mae'n un o'r timau pwysicaf ym myd pêl-droed Albania. Mae'n cynnal cystadleuaeth ffyrnig gyda'r KF Tirana a'r Partizani Tirana. Lliwiau traddodiadol y clwb yn las a gwyn. Gelwir eu ffans pennaf, yr 'Ultras' yn Blue Boys.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Dinamo Tirana, 1981

Ceir peth amheuaeth dros ddyddiad sefydlu'r clwb. Yn ôl wicipedia yr iaith Albaneg, sefydlwyd Dinamo ar 19 Gorffennaf 1950.[1] Roedd hyn adeg rheolaeth gomiwnyddol ac unbeniaethol y wlad. Sefydlwyd Dinam, fel sawl clwb 'Dinamo' arall yn yr hen floc Sofietaidd, fel clwb y Weinyddiaeth Gartref.

Mae'n un o glybiau mwyaf llwyddiannus y wlad. rhwng 18 Ebrill 1951 - 1 Mehefin 1952 enillont 25 gêm o'r bron.[1] Yn 1971 chwaraeodd y tîm ei gêm gyntaf yn Ewrop gan gystadlu yn hen dwrnament Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.

O 1995 i 1997 fe'i gelwir yn KS Olimpik Tirana er mwyn ei dadgysylltu gydag hanes comiwnyddol y Clwb.

Cit[golygu | golygu cod y dudalen]

Cartref: Crys glas; trwsus a sanau gwyn
Oddi Cartref: Crys a trwsus gwyn; sanau glas.

gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Star full.svg Kategoria Superiore (Uwch Adran)

  • Enillwyr (18): 1950, 1951, 1952, 1953, 1955, 1956, 1960, 1966–67, 1972–73, 1974–75, 1975–76, 1976–77, 1979–80, 1985–86, 1989–90, 2001–02, 2007–08, 2009–10
  • Ail (9): 1954, 1957, 1961, 1962–63, 1963–64, 1970–71, 1980–81, 1984–85, 2003–04

Star full.svg Cwpan Albania

  • Enillwyr (13): 1950, 1951, 1952, 1953, 1954, 1960, 1970–71, 1973–74, 1977–78, 1981–82, 1988–89, 1989–90, 2002–03
  • Ail (6): 1972–73, 1976–77, 1978–79, 1981–82, 2001–02, 2003–04

Supercup Albania

  • Enillwyr (2): 1989, 2008
  • Ail (4): 1990, 2002, 2003, 2010

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. https://www.uefa.com/uefachampionsleague/news/newsid=2406769.html