Din Gwrygon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Din Gwrygon
TheWrekin.jpg
Math mynydd, coedwig frenhinol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Swydd Amwythig Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Uwch y môr 1,335 Troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.6684°N 2.5515°W Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd 978 Troedfedd Edit this on Wikidata
Rhiant gopa Kinder Scout Edit this on Wikidata
Cadwyn fynydd Shropshire Hills Edit this on Wikidata

Mae Din Gwrygon (Saesneg: The Wrekin) yn fryn yn nwyrain Swydd Amwythig, rhwng Amwythig i'r gorllewin a Telford i'r dwyrain. Ei uchder yw 407m.

Ceir bryngaer Geltaidd 8 hectar ar ei gopa. Mae ar diriogaeth llwyth y Cornovii ac mae rhai archaeolegwyr wedi dadlau ei bod yn "brifddinas" i'r llwyth. Ei enw gwreiddiol oedd Uriconio neu Uriconion ym Mrythoneg, sy'n rhoi 'Gwrygon' yn Gymraeg a 'Wrekin' yn Saesneg. Credir iddi roi ei henw i ddinas Rufeinig Viroconium Cornovium, prifddinas y Cornovii yn y cyfnod Rhufeinig, tua 5 milltir i'r gorllewin (safle Wroxeter heddiw).

Din Gwrygon o'r gogledd

Mae rhai ysgolheigion yn cynnig Din Gwrygon fel lleoliad Pengwern, llys brenhinoedd cynnar teyrnas Powys, ond does dim sicrwydd am hynny (posiblrwydd arall yw safle tref Yr Amwythig heddiw).

Enw arall ar Din Gwrygon yng nghyfnod y Normaniaid oedd 'Mont Gilbert', ar ôl meudwy a aeth i fyw ar ei gopa.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

England-geo-stub.png Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.