Dim Ond Heno
Enghraifft o'r canlynol | drama lwyfan |
---|---|
Dyddiad cynharaf | 1991 |
Awdur | Gwion Lynch |
Cyhoeddwr | heb ei chyhoeddi |
Iaith | Cymraeg |
Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Gwynedd |
Drama fuddugol Tlws Y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Delyn 1991 yw Dim Ond Heno o waith Gwion Lynch. Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Gwynedd yn ystod wythnos yr Ŵyl. Lleolir y ddrama mewn argraffdy yng Ngogledd Cymru ac mae'n delio efo helyntion Meibion Glyndŵr.[1]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]"Argraffdy yw'r lleoliad a Mei, y prif gymeriad, yw golygydd y papur bro lleol. Mae'r gŵr ifanc hwn yn wynebu problemau sy'n boenus o gyfoes nid yn unig ar lefel gymdeithasol a gwleidyddol ond hefyd ar lefel bersonol. Pennaf loes Mei yw'r mewnlifiad ac agwedd lugoer ei gyd-Gymry tuag at hyn. Mae ei ddaliadau gwleidyddol yn arwain at wrthdaro rhyngddo ef a'i gyd-olygydd, Elen. Cymhlethir yr holl sefyllfa gan ei ddiffyg teyrngarwch creulon tuag at ei gyd-weithiwr a'i gyfaill, Gruff. Mae gwraig Gruff, Sioned, yn wrthrych serch Mei. Ychwanegir at y cymhlethdod pan deflir bom dân i mewn i'r argraffdy ar adeg pur dyngedfennol yn y ddrama gan rai a'u geilw eu hunain yn 'Sons of George'."[2]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Enillodd y ddrama Dlws Y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Delyn 1991 gan y beirniaid Meic Povey, William R Lewis a J.O Roberts. Un o amodau newydd y gystadleuaeth oedd llwyfannu'r ddrama fuddugol yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Theatr Gwynedd.
Derbyniodd y ddrama lenyddol feirniadaeth gymysg gan y beirniaid: "Ingol o hawdd ar brydiau oedd inni ein huniaethu'n hunain â'r sefyllfa yn y ddrama hon. Llwyddodd 'Leitho' [ffugenw Gwion Lynch] i'n cynhyrfu nid drwy bregethu a fflangellu ond drwy ddyfeisio plot cyffrous i gynnal ei weledigaeth. O safbwynt crefft y mae iddi rai gwendidau. Yr ail a'r drydedd act yw'r broblem. Mae angen tocio darnau hwnt ac yma i lyfnhau'r rhediad ac ychwanegu ambell olygfa i egluro'n well gymhellion y cymeriadau. Edrycher eto, hefyd, ar gymeriad y plismon. O'i gymharu â'r cymeriadau eraill y mae braidd yn arwynebol. Ond problemau i'w datrys gyda chyfarwyddwr yw'r rhain."[2]
Aeth y ddrama wreiddiol drwy broses o'i hail-sgwennu a'i haddasu yn sylweddol, cyn y llwyfannu terfynol. Arweiniodd hynny at ddrwg-deimlad ymysg rhai dramodwyr ac actorion.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Mei
- Gethin
- Gruff
- Ellen
- Sioned
- Nia
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Delyn 1991. Cyfarwyddwr Graham Laker; cynllunydd John Jenkins; cynllun poster Jac Jones; cast:
- Mei - Alun Elidyr
- Gethin - Yoland Williams
- Gruff - Dafydd Emyr
- Ellen - Gwen Ellis
- Sioned - Delyth Morgan
- Nia - Nia Medi
"Roeddwn mewn dryswch yn ystod rhan gynta'r ddrama," noda Meg Elis wrth adolygu'r cynhyrchiad yn Barn [Rhagfyr 1991], o dan y teitl "Dryswch Drama'r Addewid":
"...ond dylwn frysio i ychwanegu nad yn y math o ddryswch ar-goll-yn-y-niwl sy'n dod i ran cynulleidfa Gymraeg weithiau wrth orfod dioddef cynhyrchiad 'mentrus', 'arbrofol' [...] Na, mae'n rhyddhad gweld fod Gwion Lynch yn credu mewn stori dda, deialog rhwng cymeriadau, a lleoli'r digwydd yn solet mewn amser a lle. [...] A pham y dryswch? Drysu disgwyliadau, 'wy'n meddwl. Wedi'r cwbl, roedd hon yn ddrama fuddugol yn y Genedlaethol; roedd hi'n gynnyrch y drefn newydd sydd i fod yn decach â'r awdur, y cwmni (a'r gynulleidfa?)[...] Gwyddem yn iawn fod y tensiwn i fod yno; yr oedd yno i raddau - ond eto'n llithro o'n gafael ar yr adegau lle tybiem y dylai fod ar ei gryfaf: [...] Gosodwyd digon o'r cefndir fel ein bod yn gwybod o'r gorau beth oedd yn digwydd, beth allasai ddigwydd: ond disgyn, syrthio i'r ddaear yr oedd ein disgwyliadau dro ar ôl tro".[3]