Neidio i'r cynnwys

Dietrich Fischer-Dieskau

Oddi ar Wicipedia
Dietrich Fischer-Dieskau
Ganwyd28 Mai 1925 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mai 2012 Edit this on Wikidata
Berg Edit this on Wikidata
Label recordioDeutsche Grammophon, EMI Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth yr Almaen, yr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Gelf yr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaetharweinydd, canwr opera, cerddor, cyfansoddwr, cerddolegydd Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata
PriodIrmgard Poppen, Ruth Leuwerik, Kristina Pugell, Júlia Várady Edit this on Wikidata
PlantMathias Fischer-Dieskau, Martin Fischer-Dieskau, Manuel Fischer-Dieskau Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, Commandeur des Arts et des Lettres‎, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Dinesydd anrhydeddus Berlin, Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Ernst Reuter, Musikpreis der Stadt Duisburg, Praemium Imperiale, Gwobr Gerdd Léonie Sonning, Gwobr Gramophone am Waith Gydol Oes, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Medal Aur Cymdeithas y Royal Philharmonic, Berliner Kunstpreis, Gold Goethe medal, Gwobr Friedrich-Rückert, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Heidelberg, Brahms-Preis, Ernst von Siemens Music Prize, Robert Schumann Prize of the City of Zwickau, Croes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Frankfurter Musikpreis, Berliner Bär, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Paris-Sorbonne Edit this on Wikidata


Canwr bariton o'r Almaen oedd Dietrich Fischer-Dieskau (28 Mai 192518 Mai 2012)[1]. Dechreuodd ei yrfa canu yn 1947 yn Badenweiler ger Freiburg im Breisgau, ac erbyn 1948 roedd yn un o brif unawdwyr yr Opera yn Berlin. Roedd yn enwog am ei feistrolaeth ar ganu Lieder Almaeneg, ond roedd yn perfformio cerddoriaeth faróc megis gwaith Bach a cherddoriaeth rhamantaidd yn ogystal, ynghyd ag operâu Mozart a Wagner.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ganwyd ef yn Berlin yn 1925. Athrawon oedd ei rieni, Albert Fischer a Theodora Fischer (Theodora Klingelhoffer cyn iddi briodi). Bu'n rhaid iddo ymuno â byddin yr Almaen yn 1943 pan oedd ond newydd orffen yn yr ysgol. Fe'i hanfonwyd i ffrynt yn dwyrain i ddechrau, ac yna i'r Eidal yn 1944-45. Yn ystod y rhyfel fe lwgwyd ei frawd Martin i farwolaeth gan yr awdurdodau oherwydd ei anableddau, ac fe ddinistriwyd cartref y teulu. Bu'n garcharor rhyfel dan ofal Unol Daleithiau America am ddwy flynedd o 1945 tan 1947.[2]

Rhoddodd y gorau i berfformio fel canwr yn 1992, ond parhaodd i arwain, dysgu, ysgrifennu ac adrodd. Bu farw yn ei gartref ym mhentref Berg ger llyn Starnberg ar gyrion München yn 2012.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Kurz vor 87. Geburtstag: Sänger Dietrich Fischer-Dieskau gestorben". Der Tagesspiegel Online (yn Almaeneg). ISSN 1865-2263. Cyrchwyd 20 Medi 2023.
  2. Daniel Lewis (18 May 2012). "Dietrich Fischer-Dieskau, Lyrical and Powerful Baritone, Dies at 86". The New York Times.