Dies irae
| Enghraifft o: | segwens |
|---|---|
| Crëwr | Thomas o Celano |
| Awdur | Thomas o Celano |
| Rhan o | offeren dros y meirw |
| Iaith | Lladin |
| Yn cynnwys | Lacrimosa |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0192qt |
Segwens (math o emyn Lladin) sydd i'w gael yn Offeren dros y Meirw yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig yw'r Dies irae (Lladin am "Dydd Digofaint"). Priodolir geiriau'r gerdd naill ai i Thomas o Celano (m. 1260), aelod o Urdd Sant Ffransis, neu Latino Malabranca Orsini (m. 1294), aelod o'r Dominiciaid. Fodd bynnag, mae rhai ffynonellau'n priodoli'r testun i gyfnod cynharach.[1]
Nodweddir y gerdd gan ei mesur trochäig a llinellau sy'n odli. Mae'n disgrifio Dydd y Farn, pan fydd yr utgorn yn galw eneidiau i ymddangos gerbron gorsedd Duw, lle caiff y rhai a achubir eu gwaredu a'r gweddill eu bwrw i fflamau tragwyddol.
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r alaw plaengan a ddefnyddiwyd yn yr Offeren yn dyddio o'r 13g.

Enillodd yr alaw Gregoraidd gydnabyddiaeth eang drwy ei defnydd yn y Symphonie fantastique (1830) gan Hector Berlioz. Ers hynny, mae wedi dod yn gysylltiedig â themâu marwolaeth ac arswyd, ac wedi cael ei defnyddio fel thema neu ddyfyniad cerddorol mewn llawer o gyfansoddiadau clasurol, ac mewn llawer o sgoriau ffilm a gweithiau poblogaidd.
Mae'r geiriau'r Dies irae wedi cael eu gosod i gerddoriaeth gannoedd o weithiau gan lawer o gyfansoddwyr gwahanol fel rhan o gyfansoddiadau Requiem. Mae pobl yn ystyried rhai o'r cyfansoddiadau hyn, fel y Messa da Requiem Verdi, yn ysblennydd.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Dies Iræ", Catholic Encyclopedia (1913)
- ↑ Michael Kennedy, Geiriadur Cerddoriaeth Rhydychen (Caernarfon: Curiad, 1998), t. 226
