Dewi Rhys
| Dewi Rhys | |
|---|---|
| Ganwyd | Kenneth Gregory Thomas Rhagfyr 1959 Lytham St Annes |
| Llysenw/au | Dewi Rhys Humphreys Jones |
| Addysg | Ysgol Syr Hugh Owen |
| Alma mater | Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru |
| Galwedigaeth | actor |
| Cysylltir gyda | Pobol y Cwm |
Actor Cymraeg o Gaernarfon yw Dewi Rhys neu Dewi Rhys Humphreys Jones (ganwyd Rhagfyr 1959)[1] sy'n fwyaf cyfarwydd am bortreadu'r cymeriad "Dyff" yn Pobol y Cwm rhwng 1999 a 2024 a "Parri'r Barman" ar raglenni ieuenctid S4C yn y 1990au.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ei enw bedydd yw Kenneth Gregory Thomas, ac fe'i ganwyd yn Lytham St Annes ger Blackpool.[1] Cafodd ei fabwysiadu gan Dafydd a Laura Jones pan yn fabi, ac fe'i magwyd yng Nghaernarfon.[2] Collodd ei rieni pan oedd yn 19 oed. Yn 2012, bu'n rhan o'r gyfres O'r Galon : Taith Dewi ar S4C lle fu'n olrhain hanes ei deulu, a darganfod fod ganddo frawd o'r enw Gary.[3]
Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, ac wedyn yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.[4]
Cyhoeddodd gyfrol dan yr enw Hiwmor y Cofi yn 2009.[5]
Mae'n gefnder i'r awdures Annes Glyn.[2] Bu mewn perthynas gyda'r actores Catrin Fychan.
Cynyrchiadau
[golygu | golygu cod](detholiad)
Theatr
[golygu | golygu cod]- Wastad ar y Tu Fas (1986)
- Jim Cro Crystyn (1986/87)
- Tanddaearol (1992)
- Plas Dafydd (1988)
- Leni (1990)
- Golff (1993)
- Pêl Goch (1998)
- Theatr Freuddwydion - Theatr y Byd
Ffilm a Theledu
[golygu | golygu cod]- Coleg (1982)
- Joni Jones (1982)
- Fel Ŵyn i'r Lladdfa (1984)
- Teulu Helga (1986)
- Swig (1987 - 1989)
- Hafod Henri (1987)
- Cysgodion Gdansk (1987)
- C'mon Midffîld! (1988 - 1990)
- Jabas (1988)
- Stormydd Awst (1988)
- Dyddiadur Dyn Dwad (1989)
- Nel (1990)
- Sigaret? (1991)
- Lleifior (1994)
- Halen yn y Gwaed (1994 - 1996)
- Pobol y Cwm (1999 - 2000, 2024)[6]
- Er Mwyn Tad (1995-1996)
- Y Graith
- Re-inventing Eddie (2002)
- Tipyn o Stad (1992)
- Shakespeare - Y Dramâu wedi'u Hanimeiddio : Nos Ystwyll (1992)
- Treflan
- The Boy with Blue Eyes (2004)
- Y Lleill (2005)
- Cowbois ac Injans (2007)
- Rownd a Rownd (2000 - 2020)
- Ddoe am Ddeg (2011)
- Gwlad yr Astra Gwyn (2012 - 2014)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Dewi Rhys". The Dubbing Database (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-11-21.
- ↑ 2.0 2.1 Administrator, northwales (2013-04-16). "O'r Galon: Taith Dewi on S4C". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-11-21.
- ↑ "Dewi Rhys". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2025-11-21.
- ↑ "Dewi Rhys". Golwg360. 2021-01-30. Cyrchwyd 2025-11-21.
- ↑ (www.gwerin.com), Gwerin. "Hiwmor Y Cofi (9781847711885) | Dewi Rhys | Y Lolfa". www.ylolfa.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-11-21.
- ↑ "Dewi Rhys | Actor". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-11-21.