Dewi Griffiths

Oddi ar Wicipedia
Dewi Griffiths
Ganwyd9 Awst 1991 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethrhedwr, ffermwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Ffermwr a rhedwr pellter hir yw Dewi Griffiths (ganwyd 8 Medi 1991).

Magwyd Dewi ar fferm Pantydderwen yn Llanfynydd ger Llandeilo. Aeth i astudio astudio mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n parhau i weithio ar fferm ei rieni tra'n cystadlu fel athletwr.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Roedd yn mwynhau rhedeg ers ei fod yn blentyn, gan ymarfer ar lonydd cefn o gwmpas ardal Llandeilo. Bu'n rhedeg gyda thîm yr ysgol cyn ymuno â chlwb rhedeg Harriers Caerfyrddin gan gystadlu mewn rasys traws gwlad, ffordd a thrac. Mae'n cael cefnogaeth gan Chwaraeon Cymru a British Athletics.

Mae'n cystadlu ym Mhencampwriaeth Traws Gwlad Cymru a roedd yn fuddugol saith gwaith rhwng 2012 a 2019. Ni gystadlodd yn 2018 oherwydd anaf.[2]

Ei farathon cyntaf oedd yn Frankfurt yn 2017. cystadlodd yn Marathon Llundain am y tro cyntaf yn 2018 ac yn 2019 daeth yn y 16eg safle yn ras y dynion. Ei amser oedd dwy awr ac 11 munud, saith munud tu ôl i Mo Farah.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hanner Marathon: Dewi Griffiths yn barod am yr her , BBC Cymru Fyw, 25 Mawrth 2016. Cyrchwyd ar 23 Mai 2019.
  2. (Saesneg) Dewi Griffiths In Seventh Heaven After Coming Down From The Mountain With Welsh Marathon Legend Steve Jones. dai-sport.com (24 Chwefror 2019). Adalwyd ar 23 Mai 2019.
  3. Y ffermwr sy'n seren marathon rhyngwladol , BBC Cymru Fyw, 23 Mai 2019.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]