Devonport, Seland Newydd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Devonport
Math maestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Auckland Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Seland Newydd Seland Newydd
Yn ffinio gyda Stanley Point, Vauxhall Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 36.8317°S 174.7963°E Edit this on Wikidata

Mae Devonport yn un o faestrefi Auckland, Seland Newydd ar ochr ogleddol Harbwr Waitemata ac ar lethrau Takarunga. Mae gwasanaeth fferi rheolaidd yn cyrraedd o Auckland, 12 munud i ffwrdd, ac yn mynd ymlaen at Ynys Waiheke. Enwyd Devonport ar ôl Devonport, Plymouth, ac mae'n gartref i Lynges Seland Newydd ac i'r amgueddfa y llynges ym Mae Torpedo.[1] Mae olion milwrol tanddaearol ar Ben y Gogledd.

Adeiladwyd 'Y Bwncer', safle rheoli milwrol, ar ben Takarunga, pan ddisgwylwyd ymysodiad o Rwsia ym 1891. Erbyn hyn, defnyddir yr adeilad gan glwb gwerin a chlwb canu gwlad.[2]

Auckland01LB.jpg
Devonport01LB.jpg

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd pentre Maori yn y 14g. Roedd y safle'n ddelfrydol ar gyfer pysgota a thyfu kumara. Ar lan y môr mae cofeb i Waka Tainui, un o saith Waka (teithiau), sydd wedi dod â'r Maori o Hawaii i Seland Newydd.[3] Daeth mewnfudwyr o Ewrop yn 1840au, yn rhoi enw ‘Flagstaff’ i’r ardal ar ôl iddynt osod un ar ben Takarunga. [4]

Cludiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae fferiau’n mynd rhwng Auckland a Devonport bob hanner awr. Mae’r siwrnai’n cymryd 12 munud, ac mae rhai ohonynt yn myynd ymlaen at Ynys Waiheke ac Ynys Rangitoto.[5]

Mae gwasanaethau bws yn cysylltu'r dref efo gweddill ochr gogleddol y harbwr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]