Denzil Davies

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Denzil Davies
Ganwyd David John Denzil Davies Edit this on Wikidata
9 Hydref 1938 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Hydref 2018 Edit this on Wikidata (80 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Amddiffyn, Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddol Y Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Gwleidydd o Gymro oedd David John Denzil Davies (9 Hydref 193810 Hydref 2018) a fu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Llanelli o 1970 hyd 2005.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganwyd yng Nghynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin, a chafodd ei addysg yn ysgol gynradd Cynwyl Elfed, Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin, a chafodd radd dosbarth cyntaf yn y gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1962. Galwyd ef i'r bar yn 1965.

Dilynodd Jim Griffiths yn aelod seneddol dros Lanelli yn etholiad cyffredinol 1970. Gwasanaethodd fel gweinidog gwladol yn y trysorlys o 1975 tan 1979. Bu'n Ysgrifennydd Cysgodol i Gymru o 1983 i 1984, ac yn Ysgrifennydd Amddiffyn Cysgodol ac yn aelod o'r Cabinet Cysgodol o 1985 - 89. Yn 1989 ymddiswyddodd yn oriau mân y bore yn dilyn anghytundeb difrifol â Neil Kinnock.

Roedd yn gefnogol iawn i ddatganoli yn 1979 a cyd-sefydlodd Ymgyrch Dros Gynulliad i Gymru (y Mudiad Senedd i Gymru'n ddiweddarach) yn ystod streic y glowyr. Erbyn 1997 roedd wedi treulio amser hir fel Aelod Seneddol. Yn ôl y gohebydd gwleidyddol Vaughan Roderick roedd hynny wedi codi ei amheuon ynghylch Ewrop a'r setliad datganoli a nid oedd yn amlwg yn ymgyrch refferendwm datganoli 1997.[2] Ymddeolodd o'r senedd yn 2005.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyn-AS Llanelli Denzil Davies wedi marw yn 80 oed , BBC Cymru Fyw, 10 Hydref 2018.
  2.  Denzil. BBC Cymru Fyw (11 Hydref 2018).
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Jim Griffiths
Aelod Seneddol dros Lanelli
19702005
Olynydd:
Nia Griffith


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.