Denise Lewis
Denise Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 27 Awst 1972 West Bromwich |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
Taldra | 1.73 metr |
Priod | Steve Finan O'Connor |
Gwobr/au | OBE, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
Chwaraeon |
Mae Denise Lewis, OBE (ganwyd 27 Awst 1972), yn gyflwynydd chwaraeon Prydeinig ac yn gyn -athletwr trac a maes, a oedd yn arbenigo yn yr heptathlon. Enillodd Lewis y fedal aur yn yr heptathlon yng Ngemau Olympaidd Sydney 2000. Roedd hi'n bencampwr Gemau'r Gymanwlad ddwywaith, Pencampwr Ewropeaidd 1998 ac enillodd fedalau arian Pencampwriaethau'r Byd ym 1997 a 1999. Roedd hi'r fenyw Ewropeaidd gyntaf i ennill yr heptathlon Olympaidd.
Cafodd Lewis ei geni yn West Bromwich, i rhieni o Jamaica.[1] Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Regis, Tettenhall. Priododd Steve Finan O'Connor, mab i'r comediwr Tom O'Connor, yn 2006.[2] Mae ganddyn nhw tri fab. Mae ganddi hefyd ferch o'i pherthynas flaenorol â'r athletwr Patrick Stevens.
Cafodd Lewis ei anrhydeddu fel Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn yr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2001. Ers ymddeol o athletau, mae hi'n cyflwynydd teledu sy'n gweithio i'r BBC, gan gynnwys yn ystod Llundain 2012, Rio 2016 a Tokyo 2020.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Midlands' Olympic legends: Denise Lewis" (yn Saesneg). itv.com. 6 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 14 Awst 2016.
- ↑ Traynor, Luke (19 Gorffennaf 2021). "Olympian Denise Lewis pays tribute to father-in-law Tom O'Connor". Liverpool Echo (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Celebrity Health – Denise Lewis". Your Healthy Living (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Awst 2021.