Deneb
Gwedd
| Enghraifft o: | white supergiant, Alpha Cygni variable, seren forwriaethol |
|---|---|
| Màs | 21 |
| Rhan o | Triongl yr Haf, Croes y Gogledd |
| Cytser | Cygnus |
| Pellter o'r Ddaear | 1,640 blwyddyn golau |
| Paralacs (π) | 2.31 ±0.32 |
| Cyflymder rheiddiol | −4.9 ±0.3 cilometr yr eiliad |
| Goleuedd | 210,000 |
| Radiws | 203 |
| Tymheredd | 8,700 Kelvin |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/022_r2 |
| Quora | Deneb |
Seren las yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd yng nghytser Cygnus yw Deneb (hefyd α Cygni neu Alpha Cygni). Gorgawr yw Deneb, y seren disgleiriaf yn ei chytser a'r bedwaredd ar bymtheg o'r sêr disgleiriaf yn y ddau hemisffer.[1] Amcangyfrifir bod ei phellter o'r Ddaear rhwng 1,400 a 2,600 blwyddyn golau o'r Ddaear. Mae Deneb yn meddiannu un gornel o seroliaeth Triongl yr Haf a'r "pen" yng Nghroes y Gogledd.
